gyda diolch i Mrs Iola Roberts, Mrs Beryl Jones, Mr Nigel Thomas a Mr Robert Williams
********************************************
Cliciwch ar rhai o’r lluniau i'w gweld yn fwy
Seremoni dadorchuddio'r gofeb yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf
Seremoni dadorchuddio'r gofeb yn dilyn yr Ail Ryfel Byd
*********************************************************************
Cliciwch yma i fynd i dudalen .... Yr Ail Ryfel Byd 1939-
*******************************************
Y Rhyfel Byd Cyntaf 1914-
|
Cliciwch ar yr enwau i gael mwy o wybodaeth
********************************************
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Ganwyd Frederick Pelham Trevor ym Mheru, Chile ar 17eg Tachwedd 1879. Priododd Winifred Mills a cawsant ddau o blant Meriol Trevor ac Arthur Trevor. Bu'r teulu'n byw ym Mrynddu am gyfnod cyn iddo gael ei ladd yn y Rhyfel yn 1915.
Ei deulu ym Mrynddu tua 1911
Y teulu yn nofio yng Nghemaes tua 1911
Brynddu, ei gartref cyn mynd i'r rhyfel
Mynwent Menin Gate lle'i coffawyd ef
Roedd yr Is gapten J Frederick Venmore yn fab i Mr James Venmore, Uned Heddwch yn Lerpwl a chyn Uchel Siryf, Ynys Môn.
Addysgwyd ef yng Ngholeg Lerpwl ac yn ysgol Mill Hill, Llundain. Bu’n astudio pensaernïaeth ym Mhrifysgol Lerpwl a bu’n aelod o’r proffesiwn hyd at doriad y Rhyfel pan ymrestrodd fel milwr cyffredin yn y 3ydd Bataliwn o’r ‘Liverpool Pals’. Derbyniodd gomisiwn i’r 14eg Bataliwn o’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig lle bu’n swyddog medrus a phoblogaidd. Roedd yn boblogaidd ymysg y dynion a’r swyddogion am ei ddewrder a’i ymroddiad ar faes y gad.
Dyma ddisgrifiad o sut y derbyniodd yr Is gapten Venmore y ‘Military Cross’ am ddewrder nodedig. Ar noson y 30ain Ionawr, 1916 roedd yr Is gapten Venmore ar ddyletswydd fel swyddog ar batrôl o flaen y ffosydd Prydeinig yn Ffrainc pan hysbyswyd ef fod tri o ddynion mewn safle wrando blaenllaw wedi’u hanafu. Llwyddodd dau ohonynt i lusgo eu hunain yn ôl dros y weiren bigog i’r Rhengoedd Prydeinig ond gan fod y trydydd dyn wedi’i saethu yn ei ddwy goes nid oedd yn medru eu dilyn. Gwirfoddolodd yr Is gapten Venmore i fynd i’w gynorthwyo ac aeth a swyddog digomisiwn gydag ef (Corporal William Williams o Gaernarfon) a dderbyniodd y ‘Distinguished Conduct Medal’.
Aeth y ddau allan dros y parapet o dan saethu ffyrnig a gydag anhawster mawr llwyddasant i ddod a’r claf yn ôl dros y weiren bigog a dwy ffos. Y bore canlynol cafwyd neges arall fod dyn mewn safle gwrando blaenllaw arall wedi colli ei fraich mewn man nad oedd, mwy neu lai’n bosibl i gael ato yng ngolau dydd. Gwirfoddolodd yr Is gapten eto i fynd i gynorthwyo’r claf ac aeth a Chorporal Williams gydag ef. Ymlusgodd y ddau ar draws y tir agored o dan saethu ffyrnig unwaith eto. Cyrhaeddwyd y claf, rhoddwyd sylw i’w anghenion a daethpwyd ag ef yn ôl i le diogel. Cafodd y swyddog a’i bartner eu llongyfarch yn wresog gan swyddogion y frigâd a’r rhanbarth.
Wrth arwain ei Gwmni i ymosod ar Mametz Wood 11eg Gorffennaf, 1916 cafodd yr Is gapten Venmore ei anafu’n ddrwg yn ei fraich. Brwydrodd ymlaen er gwaethaf ei anaf ond yn anffodus iawn fe ddaeth ei fywyd i ben yno.
Mynwent 'Dantzag Valley' Mametz lle'i coffawyd ef
Cartref Richard Jones-
Mynwent Arras-
Roedd tri o feibion Frondeg wedi mynd i'r rhyfel, John, Huw a Bob. Lladdwyd John a niweidwyd y ddau arall. Saethwyd Huw yn ei stumog a chwythwyd tri o fysedd oddi ar law dde Bob. Roedd stori gan y teulu fod Bob yn y ffosydd gyda Mab Trosmynydd a gafodd ei ladd wrth ei ochr. Roedd Bob eisiau diod ac yr oedd yn yfed dŵr o'r ffosydd lle roedd ei gyfaill yn gorwedd.
LLuniau o John Oliver Williams
Cerdyn post gan John Oliver o faes y gad
Er mwyn diogelwch nid oeddynt yn cael ysgrifennu dim ychwanegol yn y cerdyn.
Llythyr oddiwrth John Oliver i'w deulu
Llythyr arall gan John Oliver i'w deulu
Cartref John Oliver Williams-
Mynwent Loos, lle'i coffawyd ef.
Roedd Roger Humphreys wedi dweud anwiredd am ei oed -
Roger a'i frawd bach
Roger a'i deulu
Pum mab yn mynd i ryfel
Llythyr oddiwrth Roger i'w fam
Llythyr yn gofyn am wybodaeth am ei ddyddiad geni er mwyn iddo gael dod adref. Yn anffodus lladdwyd ef dau ddiwrnod cyn i gopi o'r tystysgrif gyrraedd
Y Plwyf yn cydnabod ei aberth
Y teulu'n derbyn medal
Cartref Roger Humphreys, Penrallt
Mynwent Thiepval, lle'i coffawyd ef.
Aelod o'r teulu'n ymweld a Thiepval.
Roedd yn frawd i Richard Jones a fu farw ar 13 Mai , 1917 (chwe mis o'i flaen.)
Cartref John Owen Jones -
Mynwent Beersheba, Israel lle'i coffawyd ef
Robert Jones
Teulu Glanygors
LLythyr oddiwrth Annie i'w brawd
Llythyr i Robert gan ei fam a'i dad
Y 'Death Plaque' a roddwyd i'r teulu ar ôl ei farwolaeth
Cartref Robert Jones-
Mynwent yn Alexandria lle'i coffawyd ef.
Cartrtef Owen Owen-
Chwarel-
Mynwent Thiepval, lle'i coffawyd ef.
Cartref Owen Roberts-
Mynwent y Rhyfel yn Baghdad lle'i coffawyd ef.
Rhestr Anrhydedd o’r rhai a laddwyd yn Iraq yn y ddau Ryfel Byd
Mynwent y Rhyfel yn Jerwsalem lle'i coffawyd ef
Y fynwent lle'i coffawyd ef yn Ffrainc-
Owen Williams
Tad Owen Williams
Mam Owen Williams
Cartref Owen Williams-
Y 'Death Plaque'
Penmynydd heddiw
Medalau Owen Williams
Mynwent Helles lle'i coffawyd ef
Heblaw'r rhai ar y gofeb, mae yna ddau ddyn arall a chysylltiadau a Llanfechell:
Thomas Jones -
William Lewis-
Mynwent Yr Eglwys
Mae'n werth son hefyd fod yna un bedd rhyfel yn ne-
Hugh Williams oedd yn Daniwr (Stoker 1st class) K/35848) yn y Llynges Frenhinol. Bu farw 18 Gorffennaf, 1919 yn 22ain mlwydd oed. Fe'i ganwyd yng Nghaergybi ac fe weithiodd fel gwas fferm cyn ymuno a'r Llynges yn Awst, 1916. Fe wasanaethodd ar HMS Chelmer o Chwefror, 1917 hyd at 25 Chwefror, 1919 pryd y gorffennodd a'r Llynges. Rhaid bod achos ei farwolaeth (clwyfau neu’r dicáu efallai) wedi codi o'i wasanaeth fel morwr iddo gael haeddu bedd rhyfel swyddogol. Ei rieni oedd Richard a Jane Williams (wedi'r rhyfel ) o Drum Carreglefn ond ni wyddom ei gysylltiad â Llanfechell a berodd iddo gael ei gladdu yno.
Hefyd ar garreg fedd ym mynwent yr Eglwys fe gofir Hugh Owen, Capten/Meistr yr agerlong SS YOLA a suddwyd gan y gelyn ar 28 Ionawr, 1917. Boddwyd ef yn 39 neu 41 mlwydd oed (nid yw'r garreg a'r CWGC yn cytuno) ac felly fe'i enwir ar gofeb Tower Hill yn Llundain (i forwyr y Llynges Fasnachol a gollwyd). Wedi'r rhyfel roedd ei weddw, Eleanor Owen yn byw ym Mryn, Bodewryd, Carreglefn, a'i rieni Owen a Margaret Owen yn Fron Y Graig (neu Fron Craig), Porthladd Amlwch. Roedd yn aelod gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yno ac fe'i cofir ar gofeb Amlwch a phanel Amlwch yng Nghofeb Gogledd Cymru, Bangor. Fe anwyd ef yn Amlwch yn 1877, gan godi i fod yn Ail Fet yn 1901, Met Cyntaf yn 1902 ac yn Feistr yn 1904. Bu'n gapten ar yr Yola o 1916 hyd at yr amser a ddiflannodd hithau gyda'i holl griw (33 enaid) yn 1917. Eto ni wyddom ei gysylltiad â Llanfechell a berodd iddo gael ei gladdu yno.
Diolch i'r Parchedig Clive Hughes am yr wybodaeth yma a dderbyniwyd trwy Ebost
Ar drothwy canmlwyddiant y rhyfel
Sefais wrth gofgolofn y Llan,
Darllenais enwau y bechgyn
Na ddychwelodd yn ôl i’r fan.
Gadael ffrindiau a theulu
Gyda eu calon yn drwm,
I ymladd mewn gwlad dramor
Gan gydio yn eu gwn.
Rhain a aeth heb wybod
Yr uffern oedd o’u blaen,
A’r canlyniadau erchyll
Fuasai’n dilyn nes ymlaen.
Mae’n anodd i mi ddychmygu
Y pryfaid a’r drewdod mawr,
Y cyrff yn y ffosydd budron
A’r gwaed yn llifo i lawr.
Cofiwn y rhai a ddaeth adref,
Gyda hoel y rhyfel llwm
Ar feddwl corff ac enaid
A’u hanafiadau’n ddwfn.
Arhosodd rhai gartref
I warchod y tir fel y bo
Hafan i ddychwelyd iddo
Yn eu cynefin a’u bro.
Cofiwch chwithau heddiw
Yr aberth a wnaed ar ein rhan
I gadw Prydain yn ddiogel
A phentref bach y Llan.
Bydd rhaid i ni hefyd gofio
Dewder y dynion i gyd
A aeth i’r Rhyfel Gyntaf
A hefyd i’r Ail Ryfel Byd.
Rhaid i bob gwlad ystyried
Rhoi lawr eu harfau i gyd
A chydweithio gyda’n gilydd
I gael heddwch trwy’r byd.
Mrs Maureen Jones
Llanfechell
********************************************