gyda diolch i Mrs Eluned Jones
Mae ein stori yn dechrau yn ôl yn y Canol Oesoedd, pan oedd plwyf Llanfechell wedi ei rannu yn ddau, sef Llawr y Llan a Chaerdegog.
Caerdegog heddiw
Yng Nghaerdegog, roedd pendefig un o 15 llwyth Gwynedd yn llywodraethu. Ei enw oedd Gweirydd ap Rhys Goch. Ceir cofnod o honno ef a’i linach yn “Griffiths Pedigree of Anglesey and Caernarfonshire” sydd i’w weld yn Archifdy Ynys Môn.
Gweirydd ap Rhys ap Saddne ap Iarddwr
Arfbais Gweirydd ap Rhys Goch
Owain Gwynedd, mab Gruffudd ap Cynan, oedd tywysog Gwynedd ar y pryd
Mae’r Cambrian Register yn nodi:
“ Gweyrydd ab Rhys Goch a gyvodes y tywysog yn bendevig”
Credir mai ‘gwâr’ yw gwreiddyn yr enw Gweirydd (sy’n cael ei nodi fel Gweryd a Gwerydd hefyd). Dyna oedd enw un o dywysogion Prydain yn amser y Rhufeiniaid. Adnabuwyd ef wrth yr enw Arviragus.
O ddiddordeb i ni yn Llanfechell, mae’n werth nodi bod Rhys ap Gwilim o Goeden yn un o ddisgynyddion Gweirydd ap Rhys. ( Gweler y cyflwyniad ar Coeden gan Wyn a Liz Rogers ar wefan y Gymdeithas Hanes)
Ceir llawer o wybodaeth am yr uchelwyr a threfn gymdeithasol y cyfnod yn llyfr A. D. Carr ‘Medieval ANGLESEY’ gan Gymdeithas Hynafieithwyr Ynys Môn.
Rhan o gwmwd Talybolion, Cantref Cemais oedd Llanfechell. Ynghyd â Rhosyr ac Aberffraw, Cemais oedd un o’r tri Chantref ar Ynys Môn, ac felly yn haeddu lle anrhydeddus yn ein hanes. Roedd Caerdegog ymysg nifer o’r maerdrefi a’r pentrefi bychain oedd yn yr ardal, gyda’u henwau yn gyfarwydd i ni heddiw. Enwau ar y ffermydd sydd ar y tiroedd hynny ydynt erbyn hyn, e.e. Llanddygfael, Rhosbeirio, Bodewryd, Coeden a Chlegyrog
Ffermdy Coeden yn 1890. Mae’r hen dŷ gwreiddiol i’w weld ar ochr chwith y llun.
Pencadlys yr ardal oedd y faenor neu’r plasty. Byddai eglwys, tir eglwysig a melin gerllaw. Roedd trefn gymdeithasol ffiwdaliaeth yn bodoli pryd hynny.
Dan reolaeth Gweirydd ap Rhys roedd pedwar ‘gwely’ yng Nghaerdegog. Yn wreiddiol, defnyddiwyd y gair ‘gwely’ neu ‘gwelygordd’ yma i gyfeirio at linach neu dylwyth arbennig o bobl oedd yn rhannu hawliau perchnogaeth ar eu tir. Daeth y term i gyfeirio at y tir ei hun hefyd. Trosglwyddwyd yr hawliau yma o un genhedlaeth i’r llall, doedd dim perchnogaeth lwyr gan neb ar y tir. ‘Gwehelyth’ oedd enw arall a ddefnyddid i gyfeirio at dylwyth neu linach, a disgrifiwyd tir yn nwylo pobl o’r un tylwyth fel ‘gafaelion’. Roedd tirddaliadaeth o’r math yma yn gyffredin yng nghantref a chwmwd Cemais.
Cawn ein hatgoffa heddiw o’r traddodiadau yma mewn enwau ffermydd ar yr Ynys e.e. Tregwehelydd a Phentre’ Gwehelydd ym Modedern, a Gafrogwy yn hen Gantref Rhosyr
Yn gyffredin i holl wledydd Ewrop, rhannwyd cymdeithas i wahanol haenau. Roedd eich statws yn dibynnu’n llwyr ar amgylchiadau eich genedigaeth. Byddai’r cyfan ynghlwm wrth y tir, a’r dulliau gwahanol o’i ffermio.
Rhyddfreinwyr/Uchelwyr:
‘Pwy ydy’ch teulu chi felly?’
‘Mae o’n perthyn i .....’
Yn y Canol Oesoedd, dibynna uchelwyr o Gymry yn llwyr ar eu tras. Byddai perthynas gwaed yn penderfynu eu statws mewn cymdeithas a’u hawliau dros eu tiroedd. Y bonedd fyddai’n rheoli dros diroedd y maerdrefi a byddai’r cyfan yn cael eu trosglwyddo i’w disgynyddion. Roeddent yn rhydd i fynd a dod fel y mynnent. Un elfen sylfaenol arall o’r cyfnod oedd y gwahaniaeth rhwng statws dynion a merched ymysg y rhyddfreinwyr. Yn sicr nid oedd cydraddoldeb rhwng gwryw a benyw. Ar y cyfan, ychydig iawn o ddylanwad oedd gan ferched mewn cymdeithas.
Ceir hanes grwpiau teuluol ar Ynys Môn yn Extent 1352 ( cofnod manwl o’r rhenti a’r gwasanaethau oedd yn ddyledus i’r tirfeddianwyr ym mhob cwmwd, gan eu tenantiaid.) Yn eu mysg, disgynyddion Rhys Goch yng Nghaerdegog a Chemlyn.
Weithiau byddai’r llinell yn denau iawn rhwng y rhydd a’r taeog, gyda’r ddau yn bodoli o fewn un teulu.
Taeogion:
Gwŷr heb dreftadaeth oedd y taeogion, wedi eu geni i’r fath statws. Roedd y taeog wedi ei glymu i’r pridd ac ni allai adael heb ganiatâd ei feistr. Gweithiai i’w feistr a chai damaid o dir i dyfu digon o gnwd i gadw ei deulu, ac efallai lle i gadw mochyn neu ddau, buwch ac ychydig o ieir. Roedd eu dyletswyddau yn amrywiol iawn. Byddai’n rhaid iddynt gyfrannu tuag at fwyd i’r boneddigion drwy roi rhan o’u cynnyrch iddynt. Treuliasant amser yn cludo cnydau i’r felin a chwblhau tasgau eraill i’w meistr.
Yng nghantref Cemais, yn Extent 1352, gwelir fod pethau wedi dechrau datblygu. Ceir
sôn am dri math o denantiaid -
Gwŷr Mal – (Yn ôl T. Jones Pierce yn ‘ Medieval settlement in Anglesey’ roeddent yn cael eu cyfrif fel gwŷr rhydd) Roeddent yn talu treth neu rent mewn arian. Rhaid oedd iddynt gyfrannu hefyd tuag at felin y tywysog yng Nghemais a ‘chylch’ ei stalwyn.
Gwŷr Gwaith – Roedd arnynt rent blynyddol o 19s 9d, ac roedd arnynt gyfraniad tuag at y felin, cario coed a cherrig a chostau llafur. Am iddynt gario cyn belled â Phenrhoslligwy, roedd ganddynt hawl i gael eu talu,nid mewn arian ond mewn diod.
Gwŷr tir bwrdd – Hwy oedd gwir denantiaid y tir a neulltiwyd yn benodol ar gyfer y tirfeddiannwr, ei deulu a’i gartref. Eu rhent oedd 12s 6d, a chyfrannu tuag at y felin. Disgwylwyd iddynt fynychu twrn (cwrt) y siryf. Cyfeiriwyd at y ‘tir bwrdd’ fel tir oedd yn cyflenwi bwyd i’r meistr. Nid oedd gan y tenantiaid yma ddyled o ran gwasanaeth amaethyddol iddo.
Daeth y drefn gymdeithasol yma a’r ffordd o amaethu i ben yn raddol, oherwydd trychineb
y Pla Du a dylanwadau gwleidyddol tu hwnt i’r ynys. Cafwyd newidiadau yn sgîl Gwrthryfel
Glyndŵr a’r dirwasgiad a ddilynodd hynny. Bu’n rhaid i’r tiroedd gael eu diarddel
a’u colli. Daeth perchnogion newydd a ‘chymdeithas newydd allan o gragen yr hen un’
( G.A.Williams-
..........................................................
Symudwn ymlaen yn awr i ail ran y stori, gan gamu i’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a symud o Gaerdegog i Glegyrog Uchaf, Carreglefn, oedd ar y pryd ym mhlwyf Llanbadrig. Yno y ganwyd Robert John Pryse, yn 1807. Roedd R.J.Pryse yn honni y gallai olrhain ei achau teuluol yn ôl i Oes y Tywysogion a Gweirydd ap Rhys Goch o Gaerdegog. Mewn gwirionedd, arferai ddweud ei fod o linach Cunedda Wledig, un o benaethiaid y Brytaniaid tua O.C.328
Mae achau yn dal yn bwysig i bobl Môn!!
Cawn hanes ei fywyd cynnar a’i yrfa amrywiol yn ei hunangofiant (Detholion gan Enid P. Roberts, Y Clwb Llyfrau Cymraeg, 1949).
Blynyddoedd Cynnar
Fe’i ganwyd ym Meudy Glegyrog. Arferai’r hen feudy fod yn fynachdy a elwid yn Anhunedd y Prân (Cambrian Register, vol.ii, tud. 286). Roedd yn un o chwech o blant, a bu farw ei fam ar enedigaeth ei seithfed plentyn
( oedd yn farw anedig). Pedair oed oedd Robert, ac yn fuan wedyn symudodd y teulu i fyw i Landrygarn. Wedi hynny buont am gyfnod yn Aberffraw. Pan fu farw ei dad yn 1818, yn 55 oed, rhoddwyd Robert yng ngofal plwyf Llandrygarn. Yn fuan wedyn cafodd fynd i fyw ym Mhentre’ Bwâu. Cafodd groeso arbennig gan y teulu haelionus, ac ymunodd gyda’r gweision i helpu ar y fferm. Tra roedd yno, dysgodd ei hun i ddarllen ac ysgrifennu, gyda chymorth y teulu.
Bachgen Ifanc
Yn bymtheg oed aeth i fyw at ei chwaer a’i frawd yng nghyfraith yn y Bont-
Roedd nifer o lyfrau yn eu cartref, a bu’n eu darllen yn awchus gan ehangu ei wybodaeth am sawl pwnc. Dechreuodd fynd i Gapel Llanrhuddlad, a chafodd flas arbennig ar fynychu’r Ysgol Sul. Bu’n ddyfeisgar yn ei awydd i wybod mwy am ddysgeidiaeth yr Ysgrythur. Gwnaeth ffrâm goed, ddigon o faint i ddal Beibl, a’i chrogi uwchben y peiriant gwehyddu. Byddai’n darllen wrth ei waith bob dydd a dysgodd benodau cyfan ar ei gof.
Yn dilyn anghytundeb gyda’i frawd yng nghyfraith, gadawodd Bontnewydd a threuliodd peth amser gyda Siôn Wiliam y Gerlan, ardal Llanfairpwll. Cafodd gyfle i ddysgu dulliau newydd o wehyddu a manteisio ar nifer o gynghorion gan ei feistr.
Bu hefyd yn gweithio i Thomas Jones, Tan-
Dychwelodd i Llanrhuddlad yn ugain oed yn Awst 1827, a dechrau pennod newydd yn ei fywyd
Priodi merch Ynys Gwyddyl, Llanfflewin
Cyfarfu â’i wraig yng nghapel Llanfwrog. Roedd Grace Williams yn ferch i William Edward a Siân Ellis, Ynys y Gwyddyl.
Yma, fe grwydrwn oddi wrth y pwnc am ychydig. Diddorol yw cyfeirio at y sôn am Ynys y Gwyddyl yng ngwaith Angharad Llwyd “The History of the Island of Mona”, Eisteddfod Beaumaris, 1832
Cyfeiria hi at waith Thomas Pennant, 1726-
Let me record that a few years ago, were found on a farm called “Ynys y Gwyddel”, in the parish of Llanvlewyn … three golden bracelets and a gold bulla or amulet, in high preservation
Bulla – Bechgyn dan 16 oed yn Oes y Rhufeiniad fyddai’n gwisgo bulla o amgylch eu gwddf, er mwyn cadw ysbrydion drwg i ffwrdd. Roedd deunydd y bulla, e.e. aur, yn dangos pwysigrwydd y llwyth.
Cysylltiad Gwyddelig – Yn yr Oes Efydd, rhwng 1150 BC a 750 BC byddai’r Gwyddelod yn eu defnyddio hefyd
(Cyd-
Cliciwch ar y map i’w weld yn fwy
Wedi priodi yn 1828, bu iddynt fyw yn Nhŷ Capel, Llanfwrog ac yna symud i fwthyn o’r enw Cae Crin, a magu teulu. Parhaodd i drwytho ei hun mewn gramadeg Cymraeg a Saesneg ac mewn cerddoriaeth, yn o gystal ag astudio rheolau’r Mesurau Caeth. Daeth ei waith fel gwehyddydd i sylw Mrs Williams, Llanfairynghornwy, a bu’n gwneud eitemau cywrain iddi, gan ddefnyddio sidanau ac edau o bob lliw. Byddai’n rhaid iddo gerdded i Fangor i brynu’r deunyddiau hynny Roedd yn dipyn o arbenigwr ar waith “herringbone”, ond canolbwyntiai erbyn hyn ar gynhyrchu mantelli a gwasgodau fyddai’n cael eu gwerthu gan Mrs Williams i wŷr a gwragedd bonheddig.
Yn 1832 gofynnwyd iddo wneud mantell arbennig i’r Dywysoges Buddug ( Princess Victoria), oedd yn ymweld ag Eisteddfod Beaumaris. Cyflwynwyd y fantell yn anrheg iddi gan Syr R.B.W.Bulkeley, Baronhill. Ymhen ychydig o amser yn dilyn yr Eisteddfod, derbyniodd y gwneuthurwr ddeg punt ar hugain yn anrheg gan y Dywysoges. Deallodd wedyn bod yr hanes yn Y Cymro, ac yn nodi i’r “Gwehydd Brenhinol” dderbyn hanner can punt. Roedd yn amlwg i ugain punt ddarganfod eu ffordd i boced rhywun arall rhwng Llundain a Llanrhuddlad!
Y Dywysoges Buddug ( Victoria)
Ei waith Llenyddol
Ar ddechrau 1848, anfonodd waith ar y testun “ Cyfarwyddyd Gorau i Gymro
i Ddysgu yr Iaith Seisnig” ar gyfer cystadleuaeth a drefnwyd gan Thomas Gee, Dinbych. Enillodd y wobr am y cyfansoddiad gorau a chafodd gomisiynau eraill gan Wasg Gee.
Rhywbryd wedi hynny, cyfarfu â gŵr ifanc o Amlwch a ymfudodd i Galiffornia, a adnabuwyd fel ‘Ynysog’. Rhoddodd Ynysog ffon gorcyn yn anrheg i Gweirydd ap Rhys. Roedd hi’n ffon brydferth, ar lun ymbrela, wedi ei chylchu ag arian. Wedi ei naddu ar gylch uchaf y ffon roedd “ Gweirydd ap Rhys”
“Fel cydnabyddiaeth ddiolchgar am i mi allu dysgu Saesneg trwy gyfrwng eich Cyfarwyddyd i Gymro i ddysgu’r iaith Seisnig” meddai Ynysog wrtho.
Cafwyd nifer o gyhoeddiadau eraill o’i waith, yn cynnwys y canlynol -
• Gramadeg Cymraeg
• Geiriadur Cymraeg a Saesneg
• Credoau y Byd – dwy gyfrol
• Hanes y Brythoniaid a’r Cymry – dwy gyfrol
• Beibl Teuluol – golygu
• Cyfieithu pamffledi Gladstone ‘Vatican Decrees’
• Enwogion y Ffydd
• Hanes llenyddiaeth Gymreig o 1300 hyd 1650
• Hanes a Nodweddion Diarhebion Cymreig
Yn 1852 cyfranodd lawer tuag at gyhoeddi ‘Y Gwyddionadur Cymraeg’
• “Y mae’r gwaith cenedlaethol hwn – prif orchestwaith llenyddol ein cenedl – yn
gymaint clod iddo ef ag i neb arall” -
Eisteddfod Aberffraw 1849
Daeth awydd arno i ymgeisio i gael ei urddo i’r Orsedd. Dewisodd yr enw barddol “Gweirydd ap Rhys” i gael ei dderbyn fel Bardd Braint a Defod.
Tua diwedd ei oes
Cafodd marwolaeth ei fab John Robert Prys ( Golyddan) yn ddwy ar hugain oed effaith fawr arno, ac ychydig a ysgrifennodd amdano’i hun wedyn. Symudodd i fyw i Fangor, lle bu’n golygu papur newydd wythnosol “ Papyr y Cymry”. Pan aeth y cyhoeddwyr i drafferthion ariannol, rhoddwyd y gorau i gyhoeddi’r papur. Ansicr fu ei fywoliaeth wedi hynny. Ar adegau, bu’n rhaid iddo wneud ceisiadau am gymorth ariannol gan y wlad. Ymgeisiodd yn ofer am arian o’r “ civil annual grant for old authors”. Gyda chymorth pymtheg Aelod Seneddol Cymreig, wyth Ustus a phedwar ugain o Glerigwyr, llwyddodd i gael £150 o’r “Civil List Pension” yn 1883. Modd arall o gael arian oedd dal i gystadlu mewn Eisteddfodau ac ennill gwobrau.
Yn 1884, symudodd i fyw i Gaergybi at ei ferch Catherine ( y bardd Buddug). Bu farw ei wraig yn 1887 a’i chladdu yng Nghaergybi. Ym Methesda, yng nghartref ei ferch Elin, y bu farw Gweirydd ap Rhys, a chafodd yntau ei gladdu yng Nghaergybi.
...........................................................................................................
Down a’n taith ni i ben yng Nghapel Seilo, Cefn Coch.
Gwyddom i Gweirydd ap Rhys fynychu’r capel yn Llanrhuddlad am nifer o flynyddoedd, ond dechreuodd aflonyddu yno. Penderfynodd ymuno gyda’r Annibynwyr, a byddai’n cerdded tair milltir i fynd i Gapel Ebeneser yn Llanfechell. Yn cerdded gydag ef, byddai John Roberts ( Edeyrn), Pandy Cefn Coch. Dechreuodd y ddau drafod y syniad o gael capel Annibynnol mewn man rhwng Cae Crin a Phandy Cefn Coch, iddynt gael arbed cerdded cymaint o bellter bob Dydd Sul.
Ar ddarn o dir yng Ngharreg Cam y penderfynwyd codi’r capel, a Gweirydd ap Rhys fu’n gyfrifol am sicrhau’r lle i’w adeiladu. Talwyd ychydig sylltau'r flwyddyn am brydles o un mlynedd ar hugain. John Roberts ( Edeyrn) roddodd y rhan fwyaf o’r arian tuag at adeiladu Capel Seilo.
Costiodd y capel £130, gydag Edeyrn yn rhoi £100 a chafwyd y £30 arall trwy roddion. Cafodd Edeyrn gadw’r gweithredoedd.
Agorwyd Capel Seilo ar Dachwedd 14eg 1838. Deg aelod oedd yn y seiat ar y dechrau, ond cynyddodd hynny i hanner cant ymhen chwe mis.
Capel Seilo heddiw
Y capel wedi ei ddarlunio drwy waith cwiltio medrus Jane Williams, Penygroes gynt, sy’n aelod yn y capel
Tu mewn i’r addoldy heddiw
Rhai o weinidogion Seilo
Dogfennau swyddogol yn nodi cofrestu’r capel yn 1954
Dogfennau swyddogol yn 1959, yn rhoi caniatâd i weinyddu priodasau yn yr addoldy.
(Noder mai’r un olaf, dyddiedig 29 Gorffennaf 1959, yw unig un yn y Gymraeg! )
Y briodas gyntaf yn Seilo – John Rowlands Ty’n Cae, Llanrhuddlad ag Eirwen Jones, Penyrorsedd.
Dathlu 150 o flynyddoedd, 1988
Capel Seilo yn 2014
Mae drysau’r capel yn dal i agor yn wythnosol. Cynhelir gwasanaeth ar brynhawn Sul, gyda chnewyllyn bychan ffyddlon iawn yn mynychu. Adnewyddwyd yr adeilad ychydig o flynyddoedd yn ôl, ac mae mewn cyflwr da iawn. Mae tenantiaid yn byw yn Nhŷ Capel, yn hollol annibynnol o’r capel ei hun.