gyda diolch i Mr Gareth Corps a disgyblion hynaf yr ysgol
Cyflwyniad
Pryd gychwynnodd addysg yn Llanfechell a pham?
Pwy oedd y Prifathrawon?
Beth fyddai’r plant yn chwarae?
Beth oedd yn cael ei ddysgu?
Oedd y plant yn cael eu cosbi?
Beth fydd ysgol y dyfodol?
Sut adeiladau oeddynt?
Ble aethom i chwilio am wybodaeth?
Y Dechrau
Dyfyniadau o ddarlith y Parch Emlyn Richards
‘Bu i Richard Gwynne o Rydygroes ym mhlwyf Llanbadrig adael tyddyn o’r enw Nantglyn trwy ewyllys ym 1723, er mwyn rhoi addysg i blant tlawd o’r plwyf mewn ysgol ym mhentref Llanfechell…’
‘Ceir cofnod o ysgol Llanfechell eu bod heb brifathro ac yn methu’n lân a chael un…’
Yn 1716, daeth Griffith Jones yn berson Llanddowror ac fe gychwynnodd yr ysgolion cylchynol cyntaf. Roedd yr ysgolion yma yn defnyddio’r Gymraeg fel cyfrwng dysgu.
Apeliodd Griffith Jones i’r SPCK (Society for Promoting Christian Knowledge) am gopiau o Feiblau Cymraeg.
Roedd yn athrylith, ac fe sicrhaodd fod addysg yn cael ei ledaenu i bob cwr o Gymru.
************************************
Yng Nghymru, drwy’r ddeunawfed ganrif,roedd tair math o ysgol yn bodoli
Yr Ysgol Sul
Yr Ysgol Elusennol
Yr Ysgol Breifat
Cafwyd yr ysgol gyntaf yn Llanfechell yn 1844. Roedd hi’n ysgol ‘elusennol’.
Ysgol Gynradd Llanfechell
Ysgol Gynradd Llanfechell 1907-
Detholiad o lyfr ysgol y diweddar Mrs. E. Williams (Tan Rallt, Mynydd Mechell) a oedd yn ddisgybl yn yr ysgol Elusennol a’r ysgol gynradd. Cyfnod y llyfr yw 18/9/1907 – 11/7/1908.
Diolch i Florence Jones, Bryn Mechell, Caergybi am fod mor garedig yn benthyca’r llyfr i Archifdy Mechell.
******************************************
1924
*******************************************************
Lluniau rhai dosbarthiadau
Un o ddisgyblion y 30au-
Mrs Jean Jones, Calfaria
Adroddiadau ysgol Jean Jones
Y Pennaeth, Mr E.G. Roberts
Mr E G Roberts a'i wraig Annie
Y Gegin
Staff y gegin
Mrs Griffiths, Y gogyddes
Adroddiad Iola Margaret Richardson Safon 1 yn 1952
*******************************************************
Mr Richard Jones Pennaeth Ysgol Llanfechell 1955 -
Mr Richard Jones Pennaeth Ysgol Llanfechell 1955 -
Atgofion Mrs. Lewis, Carreglefn (Athrawes yn yr ysgol yng nghyfnod Mr. Richard Jones)
Erbyn y chwedegau daeth diddordebau’r unigolyn yn flaenllaw ac agwedd mwy agored, ac anffurfiol rhwng yr athro a’r dosbarth...
Braidd yn gyfyng oedd hi yn ystafell y rhai ieuengaf yn yr hen ysgol ac yn y ‘Garafan’ (dyna enw’r plant) i weithredu’r drefn newydd, ac roedd cael symud i ystafell olau, siriol yn yr Ysgol Newydd yn fendigedig...
Yma roedd cornel cartref gyda charped ar y llawr, tân trydan, silffoedd llyfrau, y teledu a’r piano.
Pan ddeuthum i Lanfechell, Mr. Richard Jones oedd y Prifathro a Mrs. Ceridwen Owen yn athrawes y dosbarth canol...
Ar ymadawiad Mr. Jones am Ysgol Gynradd Amlwch, Penodwyd Mr. Gwynfor Roberts yn brifathro. Ar farwolaeth brawychus Mrs Owen, daeth Miss Beti Aubrey a chyn bo hir, Mr. Alwyn Roberts hefyd...
Mrs. Mair Pritchard a Mrs. Owen Wern oedd y cogyddion, ac yn ddiweddarach Mrs. Maureen Jones a Mrs. Beryl Jones. Roedd pob un ohonynt yn hynod fedrus ac yn gofalu’n dda am y plant – paratoi pecyn o fwyd blasus ar gyfer y tripiau ysgol....a gwneud pwdin mwyar duon a gasglwyd gan y plant gyda’r nos.
Gyda’r paratoi ardderchog ar eu cyfer byddai Nadolig gwerth ei gael. Cinio a pharti. Yn yr Hydref ai’r athrawon i Webbs, Llanfair i archebu anrhegion a mawr oedd y disgwyl am y cinio, y parti ac ymweliad Sion Corn...
Chwarae cuddio, sgipio, chwarae tic a Hop Scotch, chwarae pel a phawb yn cytuno’n dda...
Doedd dim problem gyda’r disgyblaeth nac absenoldeb...
Eistedd, gwrando a dweud dim fyddai’r hen drefn. Erbyn hyn diolch fod mynegi syniadau a barn a darganfod drostynt eu hunain yn drefn ddyddiol, a hyn yn arwain i frwdfrydedd naturiol...
Ceir y gwreiddiol yn Archifdy Mechell)
*******************************************************
Rhai o luniau'r cyfnod
Dechreuais ddysgu yn yr ‘Hen Ysgol’, ond oherwydd ei chyflwr gwael symudwyd y dosbarthiadau i gabanau symudol a dechreuwyd godi’r adeilad newydd ac agor yr adeilad presennol yn 1971.
Ers rhai blynyddoedd roedd newid graddol wedi cymryd lle yn y dull o ddysgu. Taflwyd allan yr hen ddesgiau o bren cadarn a haearn trwm nad oedd bosibl eu symud. Yn raddol daeth byrddau a chadeiriau ysgafnach, hawdd eu symud a digon o le i’r plant symud i wneud eu gwaith, a chwilota, a gofyn cwestiynau. . .
Holwyd Mrs Glenys Jones, gwraig y diweddar Mr Richard Jones am darddiad y ‘wal’ o anrhegion. Dywedodd fod Mr Jones yn cofio’r adeg pan oedd yn blentyn ac yn cerdded o Lanfachraeth i Lanfwrog adeg y Nadolig i noson y ‘Christmas Tree’. Wrth fynd i mewn, roedd pawb yn derbyn tocyn raffl a oedd yn perthyn i anrheg ar wal yr adeilad. Roedd yn noson gofiadwy iawn i blant y cyfnod. Defnyddiodd Mr Jones y syniad yn Ysgol Llanfechell trwy roddi papur i bob plentyn ysgrifennu eu dymuniadau ar gyfer anrheg Nadolig. Derbyniodd pob plentyn docyn raffl, a rhaid oedd gofalu amdano hyd at ddiwrnod y parti Nadolig. Wedi i’r plant fwynhau eu parti a’u gemau byddai’r athrawon yn dadorchuddio’r wal a’r plant hwythau yn cael cyfle i chwilio am eu rhif arbennig. Byddai Siôn Corn yn galw heibio i helpu i rannu’r anrhegion.
*******************************************************
Atgofion rhai cyn ddisgyblion
Mrs Marian Roberts
Dywedodd Mrs Roberts mai diwrnod y parti Nadolig oedd diwrnod gorau’r flwyddyn. Dim
gwersi. Pawb yn y Babanod yn y bore yn edrych ar ffilmiau a chartwns. Pawb yn cael
tocyn raffl i gael anrheg. Yr ofn mwyaf oedd colli’r tocyn a dim cael anrheg. Cofiai
ei roi yn ei hesgid un flwyddyn am nad oedd ganddi boced Wedyn ar draws yr iard wedyn
i’r cantîn am ginio Nadolig, twrci a’r trimmings. Byddai merched y gegin wedi cuddio
darn chwe cheiniog yn y pwdin a phawb am y gorau i’w ddarganfod. Ar ôl cinio pawb
yn mynd i ddosbarth Mrs Owen a Mr Jones. Y ddau ddosbarth wedi eu hagor i wneud un
mawr. Cofiai pawb yn syllu ar un wal oedd wedi ei chuddio gydag anrhegion o bob math
a thocyn raffl yn sownd ym mhob un. Gemau trwy’r prynhawn, musical chairs a chael
benthyg sgarff Mrs Owen i roi am ein llygaid a thrio adnabod plentyn arall. Cofiai’r
gêm flawd-
Mrs Elaine Williams a'i merch Morfydd
Roedd Mrs Elaine Rowlands wrth ei bodd yn dod i Ysgol Llanfechell a’r bwrlwm o baratoi tuag at y Nadolig yn fyw yn ei chof. Byddai parti Nadolig ardderchog gyda choeden Nadolig, Siôn Corn ac, wrth gwrs, anrheg. Mae Morfydd ei merch yn cofio creu cerdyn Nadolig gyda stampiau rwber. Cofiai hefyd ginio Nadolig ardderchog Anti Maureen gyda phwdin arbennig o siocled a saws siocled melys yn cael ei daenu drosto. Un o'r atgofion cynharaf sydd ganddi yw cael bod yn bartner yn y parti Nadolig i'r enwog Robin McBryde.
*******************************************************
Diwedd Cyfnod
*******************************************************
Os oes gennych unrhyw wybodaeth ychwanegol neu sylwadau cysylltwch â ni
Cliciwch ar y lluniau a’r dogfennau i’w gweld yn fwy