gyda diolch i'r Parchedig Geraint W. Edwards
Fe saif eglwys Llanfechell ar ochr ddwyreiniol y plwyf. Mae llawr yr eglwys ar ochr orllewinol y gangell yn mynd yn ôl, fe gredir, i’r ddeuddegfed ganrif. Ehangwyd y gangell yn y drydedd ganrif ar ddeg ac ychwanegwyd y groes (transept) ddeheuol yn y bedwaredd ganrif ar ddeg. Mae’r groes ogleddol yn fodern ac ni wyddys ei dyddiad. Adeiladwyd y twr ar yr ochr orllewinol yn yr unfed ganrif a’r bymtheg. Mae’r porth yn perthyn i’r Oesoedd Canol er iddo gael ei foderneiddio. Mae’n bosibl bod yr eglwys yn y ddeuddegfed ganrif wedi bod a thwr yn ei chanol. Awgrymir hyn am fod cynllun y mur yn afreolaidd yn y fan hon.
Mae’r eglwys wedi ei chyflwyno i Sant Mechell, neu Mecheyll ab Echwys Gwyn Gohoyw, un o feibion Gloyw Gwlad Lydan. Ysgrifennwyd cywydd (Cywydd i Fechell Sant) er clod iddo gan fardd dienw, ac mae i’w gael (er ychydig yn amherffaith) yn Llawysgrif Llansteffan 125, o ganol y ddeunawfed ganrif. Mae ei Ŵyl yn disgyn ar 15 Tachwedd.
*********************************************************************
Fe welir fod y ffenestri lliw i gyd wedi eu rhoddi gan deulu Brynddu oni bai am ddwy,
y naill er cof am Y Parchedig William Hughes, Rheithor y plwyf 1880-
Fe welir hefyd garreg a phen dynol wedi’i naddu arni goruwch y ffenestr ddeau yn y groes ddeau ( y tu allan i’r eglwys). Credir bod hon yn dyddio o’r Oesoedd Canol hefyd.
Ffenestri a gyflwynwyd i'r Eglwys gan deulu Brynddu
Er cof am y Parchedig William Hughes a'i fab
Ffenestr y gwahanglwyfion
Ffenestr sydd yn dyddio o'r bymthegfed ganrif
Mae’r fedyddfan yn dyddio'n ôl i’r ddeuddegfed ganrif.
Mae yna hen Gwpan Cymun sydd yn cael ei ddefnyddio yn achlysurol. Gwaith Hanz Zeiher o Nuremburgh ydyw ac yn dyddio o ddiwedd yr unfed ganrif a’r bymtheg.
*********************************************************************
*********************************************************************
Cliciwch ar y bob llun i'w gweld yn fwy
Erys dau draddodiad am y gromen. Yn ôl y cyntaf, arferai Tŷ Capel Libanus, sydd dros y ffordd i’r eglwys, fod yn fragdy, ac yr oedd caniad y gloch o’r tŵr yn gwneud i’r cwrw suro! Yn ôl y llall yr oedd tinc yr hen gloch yn cael ei chyhuddo, gan y Cyrnol Hughes Hunter o’r Brynddu, o aflonyddu ar ei wenyn, ac felly yn eu rhwystro rhag cynhyrchu mêl. Codwyd y gromen felly, yn ôl pob golwg, i ddistewi caniad yr hen gloch yn y pentref.
Mae yna hen lun o Lanfechell, foddbynnag , sy’n ein harwain i feddwl fod y gromen yn llawer hyn na hyn ac y gallai fod yn rhan o’r Eglwys yn amser William Bulkeley.
***************************************************************************
Hanes yr Eglwys o ddyddiaduron William Bulkeley
Yr ydym yn ddyledus yn anad neb i William Bulkeley o’r Brynddu, Llanfechell, am gryn dipyn o hanes yr eglwys hon yn y ddeunawfed ganrif. Ganwyd William ar 4 Tachwedd 1691 ac fe’i bedyddiwyd yn Eglwys Llanfechell y dwirnod canlynol.
Fe briododd a Jane, merch y Parchedig Ambrose Lewis, trydydd mab William Lewis o’r Cemlyn ar 22 Mai 1710, ac fe anwyd merch iddynt o’r enw Mary a mab a fu’n astudio’r gyfraith. Bu farw’r mab yn gymharol ifanc.
Fe gyfeirir at William Bulkeley yn y Bywgraffiadur Cymreig fel a ganlyn:
Sgweier a dyddiadurwr. Dau ddyddiadur sydd ar gael, un yn ymestyn o 30 Mawrth 1734 i 8 Mehefin 1743; y l lall o 1 Awst 1747 i 28 Medi 1760. Y maent yn fwnglawdd o wybodaeth am Fôn, yn enwedig cwmwd Talybolion: materion teuluol, arferion cymdeithasol, trefniadau eglwysig. Llawn o ragfarnau rhyfedd hefyd.
Yr oedd lle amlwg yng nghalon Bulkeley i’w eglwys. Carai son yn fynych am ei hynt
a’i helynt yn ei ddyddiaduron. Er na chafodd o erioed ei ethol i swydd warden, cyfrifai
ei hunan fel rhyw fath o warden eglwysig. Ys dywed Nesta Evans yn ei llyfr Religion
and Politics in Mid-
William Bulkeley writes of his parish church with the authority of a squire who lived all his life in Llanfechell, went to church regularly every Sunday, was on terms of friendship with his rector and, in short, knew all there was to know about everyone who lived in the parish. He was not himself a churchwarden, but he had no hesitation In taking it upon himself many of the duties of a churchwarden
Etifeddodd Bulkeley a’i gyfoedion eglwys yn Llanfechell a hawliodd lawer sylw a gofal gan eu cyndadau. Fel y crybwyllwyd ynghynt, bu llawer o adeiladu arni a gwelliannau iddi dros y canrifoedd. Ys dywed Nesta Evans eto yn ei llyfr:
Mae y meini eu hunain yn amlygu i ni y gofal a’r cariad a gyflawnwyd arnynt dros y canrifoedd.
Rhannwyd plwyf Llanfechell yn amser Bulkeley yn ddwy drefgordd (neu dref ddegwm) sef Llawr y Llan a Chaerdegog. Un o ddynion Llawr y Llan oedd ef. Cawn enghraifft ddiddorol yn un o’i ddyddiaduron sut y gallai Bulkeley ganfasio dros bobl Llawr y Llan yn erbyn pobl Caerdegog, yn anad dim er mwyn cael ei ffordd ei hun!
This day a Vestry was held in Llanfechell church (sumoned by the parson at the request of the churchwardens the first day of this month) to consider what tax was sufficient to make up the Mood over the Chancell etc. which had been warmly opposed in words some days before by Caerdegog people particularly Wm Hughes of Wylfa, Watkin ab Wm. Watkin and Humphrey Mostyn, and had to that end appeared there all to a man, there being, (I believe) not above 3 of that Township wanting which did not come there with the intent of opposing the makeing of the Mood, but I haveing notice of their design secured all I could in Llawr y Llan Township who all appeared there in such a Number that they did not think fit to open their mouths, or make any opposition at all, so it was agreed to make a new Mood, and 4d in the pound was voted for that purpose, and the other necessary uses of the Church (10 Jan 1735).
Eglwys wahanol i’r un a welwn heddiw yr oedd Bulkeley a’i gyfoedion yn ei chofio. Nid oedd seddau fel y canfyddwn heddiw ynddi, ond yr oedd yno ryw fath o feinciau! Yn 1700 y daeth seddau yn gyffredinol mewn eglwysi trefol, ond nid yn y wlad. Mae Swift yn 1725 yn rhestru eglwys heb seddau fel un o blâu bywyd gwledig. Ond amlwg yw bod rhyw fath o feinciau i’w cael yn eglwys Llanfechell yn amser Bulkeley, gan ei fod yn dweud yn ei ddyddiadur ar 4 Mehefin 1738
A very great congregation at Llanvechell Church: having last week set up benches on ye right of Pen and Tyddyn Weyn, I ordered ye tenants of ye same to sit thereon, and turned out Hester Bulkeley & her daughters from hence.
Ac wythnos yn ddiweddarach:
Set up benches in their place this morning that J. Bulkeley Bwchanan & Hugh Wm Pugh had removed when I was from home, & my people sat on them & Ester B, and her Daughter removed them again after service, & I had them again replaced.
Mae Dr Thomas Richards yn dweud bod gofyn i’r dyddiadurwr fod yn ofalus iawn yn yr
achos hwn, oherwydd mai John Bulkeley, Bwchanan oedd prif gynrychiolydd Baron hill,
ac yn briod a Bridget, chwaer i ddau is-
Nid anghyffredin oedd ymrafaelion ynglŷn â seddau yn yr ail ganrif ar bymtheg a’r ddeunawfed ganrif, gyda llawer ohonynt yn mynd cyn belled ag achosion cyfreithiol.
Yr oedd muriau a tho eglwys Llanfechell wedi eu gwyngalchu yn amser Bulkeley, fel llawer o eglwysi eraill. Ni chredir mai er mwyn glendid y gwnaed hyn, ond yn hytrach er mwyn cuddio unrhyw ddarluniau neu arysgrifau Pabyddol a ymddangosai arnynt cyn y Diwygiad Protestannaidd.
Brwyn oedd yn gorchuddio llawr yr eglwys a rhaid oedd newid y rhain yn achlysurol. Ym Mai 1739 mae Bulkeley yn dweud fel hyn:
This day in the vestry held in the church it was proposed that John Jones of haven y Micht & Owen David of Minffordd….. should annually provide Marsh Rushes and Morasc to be laid on the floor of the chancel 6 time in the year, in the severall seats and benches therein & on the windows& also in the seats in the body of the church, & in all the windows within such seats, and that Hugh Owen of Nant Yr Eirin Cooper, and Nan of Tynywern should yearly six times in the year sweep and make clean the rest of the body of the church and provide the comon green Rushes to lay on the floor of the same thorout, and every time it is so swept; & the sd. John Jones, Owen David & Hugh Owen (Nan Tynywern being not there) being publickly called upon & asked if they did severally agree to the said proposal they…. agreed …. In the presence of such parishioners as were then present.
Priododd Mary, merch William Bulkeley, a Fortunatus Wright a bu hyn yn gryn siom iddo. Mae gan y Bywgraffiadur Cymreig hyn i’w ddweud:
Profedigaeth fawr ei fywyd oedd gweld ei ferch Mary yn priodi Philistiad o Sais o’r enw Fortunatus Wright, bragwr o Lerpwl, a morheliwr rhamantus; llawn yw’r dyddiaduron o’r helyntion yr aeth iddynt a’r pryder dwys a achosodd.
Fe gladdwyd mab o’r briodas uchod y tu mewn i furiau eglwys Llanfechell. Credai’r diweddar Helen Ramage mai oddi tan ‘sedd y person heddiw y’i claddwyd, yn ôl y disgrifiad a gawn gan Bulkeley. Yma hefyd, yn ôl Nesta Evans, cawn enghraifft ddiweddar o gladdedigaeth y tu mewn i furiau eglwys. Dyma ddisgrifiad William am y digwyddiad trist:
Today was landed in Cemaes the corps of my Grandson who died in Leghorn and was sent from thence to Dublin, & brought from Dublin to Holyhead in the Paquet Boat & from Holyhead to Cemaes in a trading Vessell that came for corn; it was the request of his mother to have him brought hither to be buryed among her Ancestors; accordingly he was sent for this day & carryed to Llanvechell and buryed in the lower part of my seat in ye chancell close by the wall, I gave Anna Wright his sister 10s 6d to give to the priest & 2s 6d to give to the Sexton & gave the Master of ye Vessell 10s 6d for carrying it from Holyhead to Cemaes. (20 Rhagfyr 1756).
Credai y diweddar Helen Ramage fod y bedd o dan y ddarllenfa bresennol
Nid oes angen dwueud bod y cynulleidfaoedd yn llawer mwy niferus yn yr eglwys hon yn nyddiau Bulkeley.
Pasg 1734
The morning service began at 9 o’clock and was over a quarter before 12, about 170 communicants this day, and I do remember severall Easter Days within 20 years last past where on Easter Day the number of Communicants some Easter days onely (besides ye communicants on Easter Eve) were 260, sometimes 240, but never less than 220 till within this 7 or 8 years, since which, a great mortality destroyed almost half the parish.
Yr oedd y bywyd crefyddol mewn pentref yng nghanol y ddeunawfed ganrif yn ddibynnol
iawn ar y person plwyf. Yr oedd yn Llanfechell offeiriad eithaf da i’w gymharu â
llawer ohonynt yn yr oes honno. Richard Bulkeley oedd ei enw ac yr oedd yn berthynas
pell i’r dyddiadurwr -
Paid Mr Richard Bulkeley, the parson of Llanvechell 13s 4d for a sermon preached on St Barnabas Day in ye year 1738.
Un peth fyddai yn ei gorddi, ac yn mynd o dan ei groen oedd yr arferiad yn yr oes honno o ddechrau pregeth ar un Sul ac yna ei gorffen ar Sul arall:
A piece of a sermon yt lasted 17 minutes, & promised to finish it some other time. Thus, poor laymen must we be used till God pleaseth to put in the heart of our Legislators to reform ye behaviour of our Clergy. (27 Mehefin 1738).
Ac ar 17 Medi yr un flwyddyn:
Onely a piece of sermon 14 minutes long, he promised the other piece a fortnight hence, thus it has been always used by this man to make one sermon serve for a month.
Ac hefyd:
The priest finished his third and last part of his sermon on hell fire began this day six weeks.
Dyma eto feirniadaeth lem odiaeth ar bregethu Richard ganddo:
It is remarkable of this priest that he always preaches upon sin in generall, denounces terrible Judgments against Sinners. Yet I never remember to have heard him mention in any of his inspired Sermons what those Sins are which God is displeased with the committing of them… as he manages matters, I daresay few are either the wiser, or go from church with any impression wrought on their minds. (28 Chwefror 1748)
Yn ystod y cyfnod hwn yr oedd gwasanaethau teuluol fel bedyddiadau, priodasau ac angladdau yn rhan o addoliad y Sul.
A great congregation at Llanvechell Church and a long service, there being 2 burials, a Christening and a woman churched (1738).
Dyma sydd ganddo i’w ddweud am briodas a fynychodd:
2 of my servants were marryed today, Robert Pritchard and Jane Hughes to whose wedding I went with my Daughter and Cousin Henry Hughes. Mr Roger Mostyn of Colcott comeing to see me, was forced to take him along likewise it cost me 3s 6d because I treated him, in ye evening coch Carrog came there so that the company was forced to break up an hour or 2 sooner he being Drunk and unruly, we pd. 1s a piece for our dinner and 6d for ale ( 9 Mehefin 1734).
Er bod llawer mwy y gall rhywun ei ysgrifennu am William Bulkeley gweddus fyddai dod a’r darlun i ben trwy ddyfynnu o’r Bywgraffiadur Cymreig:
Geiriau digon gogan sydd gan Bwcle am Walpole a’r Whigiaid, a geiriau lawn cyn gased am yr Ymhonnwr lagoaidd. Dyn piwys, direidus, llawn pryfôc oedd Bulkekey: annhebyg fod iddo ddim cydymdeimlad a’r Methodistiaid, a mwy annhebyg iddo ysgrifennu pamffled i amddiffyn eu golygiadau; ond gellir meddwl amdano yn cael llawer o hwyl am ben ysweiniaid a chlerigwyr drwy gogio bod yn Fethodist. Rhoddodd loches i William Pritchard yr Annibynnwr ar ran o’i ystâd, nid am ei fod yn credu yn yr egwyddorion y safai Pritchard drostynt, ond fel moddion pryfôc yn erbyn y Viscount o Barod Hill a Troughton o Fodlew a oedd wedi troi Pritchard allan o’u ffermydd hwy. Nid oedd sgweier ym Môn yn fwy Cymro nag ef.
Cangen Brynddu oedd y fwyaf annibynnol ei hysbryd a gododd o foncyff Baron Hill. Bwcle oedd William B Bulkeley, serch hynny; pan ddaeth angladd y 5ed Viscount ym Mawrth 1739, ef oedd gyda’r cyntaf i gael ei wahodd yno, a cherddai yn bur agos i’r elor; nid mor agos nad oedd ganddo amryw o eiriau dychan am y gweithgareddau. Claddwyd William Bulkeley 28 Hydref 1760.
Dyfyniadau
G. Nesta Evans. Religion & Politics in Mid-
Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940
*********************************************************