Gyda diolch i'r Athro Gareth Roberts
William Jones 1675-
****************************************************
Ganed William Jones(WJ) yn Y Merddyn, nepell o eglwys y plwyf, Llanfihangel Tre’r Beirdd.
Symudodd y teulu pan oedd WJ yn blentyn i Tyddynbach, Llanbabo. Cafodd ysgol yn Llanfechell lle y daeth i sylw'r Arglwydd Bulkeley, a drefnodd iddo fynd i Lundain.
***************************************************
Fe’i cyflogwyd yn Llundain gan fasnachwr a’i hanfonodd i India’r Gorllewin, a bu am gyfnod yn athro mordwyaeth ar long ryfel. Ar sail ei brofiad cyhoeddodd ei lyfr cyntaf yn 1702, A new epitomy of the whole art of practical navigation.
Yn fuan wedyn, yn 1706, cyhoeddodd WJ ei brif lyfr ar ffurf crynodeb o gyflwr mathemateg ei gyfnod, Synopsis palmariorum matheseos.
Mae’r arwydd π yn ymddangos am y tro cyntaf yn Synopsis palmariorum matheseos. Dewisodd π, y llythyren Roegaidd ‘p’, fel llythyren gyntaf y gair ‘periphery’. Poblogeiddiwyd y symbol gan y mathemategwr Euler (1707–83) ond bu angen aros tan 1934 cyn y’i mabwysiadwyd fel symbol rhyngwladol.
π 3.14159 26535 89793 23846 …
Degolyn di-
Pai a ddaeth o Gymru, mathemateg WJ
(Gellir cofio digidau cyntaf y rhif trwy gyfrif nifer y llythrennau yng ngeiriau'r frawddeg hon)
***************************************************
Daeth WJ yn gyfeillgar â Ieirll Macclesfield gan fyw yng Nghastell Shirburn, ger Rhydychen, lle y bu’n diwtor i’r teulu. Cafodd nifer o swyddi segur dan y goron ac adeiladodd lyfrgell wyddonol heb ei hail yn Shirburn.
Cadwodd gyswllt â Chymru, yn arbennig trwy Morrisiaid Môn – roedd yn genhedlaeth yn hŷn na’r brodyr ond yn hannu o’r un ardal
***************************************************
Priododd WJ ddwywaith. Ganwyd un o blant ei ail briodas prin dair blynedd cyn marw WJ, yn 74 oed. Syr William Jones oedd y mab hwnnw, ieithydd enwog a sefydlodd gysylltiadau rhwng ieithoedd Ewrop ac India a phrofi iddynt darddu o’r un gwreiddyn.
***************************************************
Daeth WJ i sylw Isaac Newton (1642–1727) a bu’n gyfrifol am gopïo, golygu a chyhoeddi llawer o lawysgrifau Newton. Yn 1711 fe’i penodwyd yn aelod o bwyllgor a sefydlwyd gan y Gymdeithas Frenhinol i benderfynu p’un ai Newton neu Leibniz (1646–1716) sefydlodd y calcwlws.
Etholwyd ef yn Gymrawd o’r Gymdeithas Frenhinol yn 1711(?2) a bu’n is-
***************************************************
Bu farw WJ yn Llundain yn 1749 a’i gladdu yn eglwys St Paul, Covent Garden. Yn ei ewyllys gadawodd ei lyfrgell o tua 15,000 o gyhoeddiadau a rhyw 50,000 tudalen o lawysgrifau, gan gynnwys nifer o lawysgrifau Newton, i drydydd Iarll Macclesfield. Gwerthwyd rhan helaeth o gynnwys y llyfrgell yn 2005. Erys peth dirgelwch ynghylch papurau personol WJ gan i deulu Macclesfield wahardd eu rhyddhau, hyd yn oed heddiw.
Arwerthiant Llyfrgell Iarll Macclesfield, Castell Shirburn, 2005
William Jones (1675–1749)
A new epitomy of the whole art of practical navigation
Gwerthwyd am-
Synopsis palmariorum matheseos
Gwerthwyd am-
***************************************************
Cwpled i ddathlu diwrnod pai 14 Mawrth 2014
O Fôn ar draws y Fenai,
fel pader, aeth pŵer Pai.
Llion Jones
(Diolch i Llion am ganiatâd i gyhoeddi’r cwpled ar ein gwefan)
***************************************************
Dathliad o waith William Jones
Ar ddiwedd y cyflwyniad ar 9 Gorffennaf 2009 yn Ysgol Llanfechell cyflwynodd Gareth ddarn o waith celf gan y diweddar Jan Abas i’r Gymdeithas Hanes. Mae’r gwaith yma wedi’i greu i anrhydeddu’r mathemategydd o Gymru a’i gyfraniad sylweddol i fathemateg.
Y gwaith gwreiddiol gan Jan Abas i anrhydeddu WJ
Y Cynghorydd Tom Jones yn derbyn copi o waith Jan Abas gan Yr Athro Gareth Roberts ar ran y Gymdeithas Hanes
Hoffem ddatgan ein diolchgarwch am waith Jan Abas i gydnabod cyfraniad y Cymry yn natblygiad mathemateg ac i’w deulu am y fraint o gael defnyddio'r gwaith unigryw hwnnw ar ein gwefan.
***************************************************
(Cliciwch ar y lluniau i’w gweld yn fwy)
(Cliciwch ar y lluniau i’w gweld yn fwy)
(Cliciwch ar y lluniau i’w gweld yn fwy)