Cymdeithas Hanes Mechell

Hafan


Addysg


Cegin Filwr


Anglesey Trading Company


Cyfweliadau


Brynddu a’r Dyddiaduron  


Yr Eglwys


John Elias


Ffair Mechell


Maes Mawr


Coeden


Melinau


Yr Oriel


Syr Owen Thomas


Y Feddanen

a’r Wygyr


William Jones,

Mathemategydd


Fortunatus Wright,

Herwlongwr


Jos Y  Crown


Cofeb Llanfechell


 Capeli Llanfechell


Ol cnydau yng Ngharrog

Yr Hen Lan

Enwau Lleoedd

Robert Williams, Blaenor

Swyddfa’r Post

Gweirydd ap Rhys

Demograffeg Llanfechell 1851 a 1901

Mynwent Llanfechell

William Bulkeley a thlodion Llanfechell






John Elias 1774-1841

 gyda diolch i Mr Glyndwr Thomas

Mae'r wybodaeth wedi'i drefnu mewn pedwar rhan, hynny yw stori'r pedair carreg.


Cliciwch ar bob llun i'w gweld yn fwy


Carreg Tre'r Gof Uchaf

Carreg Llanrhwydrus

Carreg Llanfechell

Carreg Llanfaes

*******************************************************


Carreg Tre'r Gof Uchaf




Mae’r garreg hon yn y wal o flaen Tre’r Gof Uchaf.  

Dyma lun mwy ei faint, a rhwbiad ohoni.  Blaen-llythrennau enwau Richard Broadhead a’i wraig Martha (Williams, cyn priodi, a merch Pensarn, Llanfachraeth).  Roedd gan Martha ewythr a modrybedd yn byw yn Neuadd, Cemlyn, y fo yn offeiriad Llanfflewyn.  Arwyddocâd 1773 yw i’r ddau ddod yn ôl i Gemaes y flwyddyn honno o’u lle yn Nhir Mynach, Bodorgan.  Mae disgrifiad ar gael ô’r ddeuddyn, y fo yn ŵr golygus, gwallt gwinau, yn gwisgo côt o liw glas - brenhinol, a les ar ei arddyrnau; les yn grafat am ei wddw, a gwasgod goch hefo botymau pres, dillad nodweddiadol o sgweier cysurus ei fyd. Am Martha, dywed ei hŵyr, na fu gwraig brysurach na hi; wrthi haf a gaeaf hefo’i throell fach.

Mab oedd Richard Broadhead i William a Catherine Broadhead, Cromlech.  Roedd Catherine yn brif-forwyn Brynddu.  Teulu a hanodd flynyddoedd ynghynt o’r Alban oedd y Broadheads, a bu gan un ohonyn nhw rywbeth i’w wneud â chastell Biwmares.  Etifeddodd Richard diroedd, yn Nwygyfylchi; cylch Llangaffo; Gwenynog; ac yng Nghemaes, y ddwy Dre’r Gof a’r ddau Wyddelyn, Ynys Castell; Tyddyn William Prees ap Huw; Cae Bryn Eithin; a Cochcolyn.  Bu Richard, felly, yn ŵr o safiad yn y sir, ond aeth i drafferthion ariannol, yn bennaf, meddai ei ŵyr, oblegid y ddiod.  Roedd ganddo hefyd naw o blant, wyth ohonyn nhw yn enethod, a chafodd y naw addysg dda, y mab yn cael ei hyfforddi i fod yn gyfreithiwr ym Miwmares, hefo Mr Poole, a’r genethod mewn ysgolion preswyl ym mherfeddion Lloegr.  Elizabeth oedd y plentyn hynaf, a hi a ddaeth yn wraig i John Elias, er mawr wrthwynebiad ei rhieni na fynnai weld eu merch yn priodi pregethwr Methodist tlawd.  Serch hynny, daethant ymhen amser i’w barchu, ac ni hoffai Martha glywed neb yn ei gollfarnu.

Dyma feddau'r ddau yn eglwys Llanbadrig, carreg fedd Richard yn pwyso ar y wal ar y chwith wrth fynd i mewn i’r eglwys, a beddgist Martha yn y fynwent ger wal yr Eglwys a’i relins wedi rhydu.  Mae’n anodd heddiw darllen yr arysgrif, ond o graffu, gwelir enw ‘Martha’ .


Beddfaen Richard

Bedd Martha

Beddfaen Martha

*******************************************************

yn ôl i frig y dudalen

Carreg Llanrhwydrus


Cofadail i Shadrach a Catherine Williams

Dyma ddarlun nodweddiadol o Eglwys Llanrhwydrus wedi ei hamgylchu â wal yn ymyl y  môr.  Tu mewn i'r Eglwys mae cofeb i Shadrach a Catherine Williams,  Catherine Broadhead cyn priodi, a modryb i Elizabeth Broadhead, gan ei bod yn chwaer i Richard. Disgrifiwyd Shadrach fel 'shipowner and a great improver'.  Roedd yn byw yn y Fronddu, ac yn berchen y Storws, ar drwyn Cemlyn, lle cafodd les sawl oes gan Owen Putland Meyrick, Bodorgan.  Yma, allforid ceirch ffermwyr y cylch, a mewnforio glo o Fflint, a halen o Lerpwl.  

Dyma beth mae mab John Elias yn ei ddweud am y lle  -

'Mae yno adeilad o ystordai, wedi eu gwneyd yn un pwrpas at ystorio ŷd prynedig, gyda thŷ annedd yn un pen i deulu fyw ynddo, ac i ofalu am yr ŷd, gan fod yr adeilad yn lled pell oddiwrth dai eraill; ac y mae yno hefyd yard fawr i werthu glô, gan fod Rhagluniaeth wedi gwneyd yno borthladd hynod gyfleus.  Prynodd teulu y Fron-ddu filoedd o beceidiau o geirch; ac ni byddai un amheuaeth yn meddwl y gwerthwr na chai efe dâl am bob ceirchen i’r ddimai.  Byddai pob un yn dawel ei feddwl, ar ôl dyrnu ei ŷd, i fyned â hwnnw i Gemlyn.'


Methodistiaid gwresog oedd teulu’r Fronddu, a byddai pregethwyr teithiol yn cael gwadd i bregethu yno.


Roedd Shadrach wedi cael les gan yr Arglwydd Bulkeley i godi tŷ carreg ar y sgwâr yn Llanfechell-  dyddiad y ddogfen, 12 Tachwedd 1776.

    ‘Erect building Compleat (sic) and finished in a workmanlike manner with suitable lime, morter (sic), a good stone house of Dimensions and to be filled and made up in manner hereinafter mentioned etc.’


Bwriadai Shadrach i un o’i deulu fyw yn y lle, ond pan ddeallodd rhieni Elizabeth Broadhead, a'i theulu yn Neuadd, Cemlyn, ac yn Nhre’rgo, Cemaes, ei bod yn mynd i dai gwerinwyr o Fethodistiaid yn y cylch, ac i gyfarfodydd yn y Fronddu, bu ffrwgwd, a’r diwedd fu iddi gael ei diarddel ganddynt.  Tosturiodd Shadrach wrthi, a gadael iddi gael hanner y tŷ yn Llanfechell i fyw a chadw siop.  Ar ôl priodi, cafodd y lle i gyd.

Diddorol ydy’r copi o ewyllys Catherine  Broadhead, neu weddw Shadrach Williams, sy’n dangos gwerth y busnes ar drwyn Cemlyn a’r Fronddu - gwerth tua mil o bunnoedd, a chyfrif arian wedi eu benthyca i hwn a’r llall.  Roedd John Elias wedi benthyca £200 ar ran Methodistiaid Trefdraeth, i godi capel, a benthycodd ei fab ganddo pan ddaeth gofynwyr i alw am rai o’r dyledion a adawodd ei daid.


Ewyllys Catherine


*******************************************************

yn ôl i frig y dudalen


 Carreg Llanfechell


Map o Lanfechell 1805

Map o Lanfechell 1865

Priododd John Elias yn 1799, a ganwyd John, ei fab yn 1800, felly mae'r map o 1805 yn addas iawn i'r stori.

Man lle safai'r groes


'Braich' y groes







'Braich' y groes


Ganwyd mab John Elias yn 1800, felly mae’r map yn gwbl berthnasol i’r hanes yma.  Yn ei atgofion, a ysgrifennwyd flwyddyn cyn ei farw, dywed y mab.

            'Y mae yma graig led uchel, yr hon y pryd hwnw yr oedd croes ar ei phen; ac yr oedd meinciau o geryg mawrion oddiamgylch, ar y rhai y byddai y rhai a farchnatäent yn eistedd, ac yn rhoddi eu basgedau a’u sachau.  Yr oedd yn ngwaelod y graig le gwastad iddynt.  Gelwir y lle hyd heddyw yn Penygroes.  Y mae carreg y groes yn awr yn front.  Bodelwyn, ffermdŷ yn agos i’r pentref.  Beth oedd yr achos o’i symud yno, nis gallaf ddywedyd.'

Dyma’r graig, lle safai’r groes, yng nghefn Penygroes ger y man lle safodd Peter Williams, cyhoeddwr yr argraffiad enwog o'r Beibl.  Mae rhai yn dweud mai Bryn Y Groes oedd yr enw ar Benygroes ar un adeg. Adeiladwyd tŷ Penygroes gan y saer o Fethodist, William Parry ac ymgorfforodd y cerrig a safodd Peter Williams arnynt yn yr adeilad. Cynhaliai William Parry wasanaethau yn ei weithdy. O weithdy William Parry  yr aeth llawer o seiri i Lerpwl ac aeth rhai ohonynt yn arch-adeiladwyr, fel Owen Elias, o Creigiau Llanbadrig, ‘Brenin Everton’ fel ei alwyd a oedd yn Fethodist ffyddlon a blaenor yn y ddinas.

Roedd  llafn y groes ym Modelwyn hyd at y 70’au, ac mae’r fraich bellach yn y fynwent. Gwelir y fraich yn syth ar y dde ar ôl mynd drwy’r giât, ac ôl y deial haul a fu arni, (fel y sylwodd Nesta Wyn Evans yn  un o’i llyfrau.)


Map o  Lanfechell 1805


Map of Lanfechell 1865


Lle safai'r tai ar un adeg


Ar fap 1805 roedd tri tŷ yn sefyll wrth yr Eglwys.

Y tŷ agosaf i borth y fynwent oedd tŷ Jane Owen Edwards, tŷ bychan to gwellt, a dim ond lle i’r gwely, a’i droed yn estyn at y drws.  Roedd ynddo fwrdd crwn, y droell fach; stôl (dim cadair)un silff, a phlât a phowlen a llwy ynddi.  Doedd Jane ddim yn lân iawn, chwaith, a defnyddiai snwff.  Byddi wrthi ddydd ar ôl dydd hefo’i throell, yn nyddu edafedd pacio i Elizabeth Broadhead, ar gyfer y siop.  Annibynwraig oedd Ann, a’r hyn sy’n syfrdanol amdani yw ei bod yn cerdded bob Sul i Borth Amlwch i’r gwasanaeth.

William Owen, y teiliwr, oedd yn yr ail dŷ, ac yr oedd llofft i’r  tŷ hwn - tŷ glanwaith, tra gwahanol i eiddo Jane Owen druan; canys un glân oedd William, ac Elizabeth, ei wraig.  Gallai William, yn wahanol i’w gymdogion, ddeall ac ysgrifennu Saesneg, ac roedd ganddo, wats ‘Fletcher-Clock & Watchmaker, Chester’, na fyddai byth yn blino ei brolio.  Byddai bechgyn y pentref yn ei herio trwy ddiraddio’r wats, a gyrru’r teiliwr yn gandryll.

Y trydydd tŷ oedd yr hen 'Hall Gig', o'r amser gynt pan oedd marchnad yn Llanfechell.  Roedd y farchnad wedi peidio â bod ar ôl agor gwaith Mynydd Parys.  Hugh Pritchard, labrwr, a gweithiwr caled, gonest oedd yn byw yma, ac yr oedd wedi priodi merch i William Owen teiliwr.  Dywed mab John Elias fod ganddynt griw o blant, un yr un oed ag ef ac mai gwraig Hugh oedd ei laethfam.

'Yn y Tŷ Hall hwn, ganwyd a magwyd amryw o blant i un ohonynt tua’r un amser ag y ganwyd finnau; a bu yn dda cael tipyn o laeth mam y bachgen hwnw tuag at fy magu innau’

Nid oes sôn am y tai ar fap 1865.  Bu dadleu rhwng y plwyfolion ac awdurdodau’r eglwys ynglŷn  â  pherchnogaeth y tir yma, a’r gerddi yn ymestyn tua’r fynwent; y naill ochr fel y llall yn eu hawlio.  Y mae’n amlwg mai’r eglwys a enillodd ac erbyn 1865, y mai’r tai wedi diflannu, a’r fynwent, yn ôl pob golwg, wedi ei ehangu.


Gelwir Y Post, yn Hen Siop yn amser John Elias, er nad oedd Siop yno mwy.  Yr oedd llofft wag yno a phenderfynodd William Parry, y Saer, a’i gyfeillion ei addasu i gapel ac agorwyd Ysgol Sul yno.  Llwyddodd yr ysgol yn gyflym.  Adeiladodd William Parry bulpud yno er mwyn i John Elias a phregethwyr eraill bregethu yno.

Trwydded ar gyfer tafarn

Tŷ’r Breretons oedd y Plas.  Roedd yno dafarn a bragdy a lle i gadw ceffylau teithwyr.  Roedd Andrew Brereton, yr hynaf, yn ŵr dysgedig, yn cadw ysgol, ac yn bencampwr ar lunio ewyllysiau a gweithredoedd.  Priododd ei wyres ag Owain Jones Tŷ Mawr, Amlwch, a daeth hwnnw i fyw i Lanfechell.  Eu mab nhw oedd Andrew Brereton Jones.  Dysgwyd ef yn ysgol ei daid hefo mab John Elias.  Aeth Andrew wedyn i ysgol John Owen, Llanfechell a godwyd gan y saer, William Parry a John Elias II, yna i ysgol yn Abergele, ac wedyn i ysgol yng Nghaer, i ddysgu Saesneg.  Cafodd Phoebe, ei chwaer, ysgol breswyl yn Lloegr, fel ei mam.  Edrydd John stori am y cyfnod-

Yr oedd hen ferch serchog, o’r enw Margaret Williams, yn byw gydai thad mewn hen dŷ, y naill ochr i’r egwlys; ac yno yr aethum i y tro hwnw, ac yr arosais, yn lle myned i’r ysgol.  Pan ddaeth y plant allan, aethum innau i’w canol, a dyna lle yr oeddwn yn cymeryd arnaf fwmial canu; ond yr oedd fy nhad wedi fy ngweld yn dyfod o dŷ Margaret Williams.  Wele fi, ar ôl myned adref, o flaen y barnwr, a’r ddedfryd oedd fy nhaflu i garchar.  Lle y carchar oedd y parlwr bach, ac yr oedd fy nhraed i fod yn y cyffion mewn llyffethair dafad, a minnau i sefyll felly ar waelod y ffenestr.  Nid oedd bara na dwfr i’w cael yn y carchar; ac felly yr oedd yn waeth ynddo nag yn ngharchar y sir yn Beaumaris.  Ond nid oedd John Elias bach i fod heb ei borthi, hyd yn nôd y tro hwn.  Daeth Mary Jones y Bwlch i’r pentref, a chlybu hi rywfodd am y carchariad; ac mewn tŷ yn y pentref, cafodd fara ac ymenyn, ac nid wyf yn sicr nad oedd siwgr hefyd wedi ei roddi ar wyneb yr ymenyn; a chan agor y ffenestr, hi a estynodd i mi yr anrheg ddymunol ac amserol.  Mae yn debyg nad oedd un clause yn nghyfraith y parlwr bach yn erbyn agor y ffenestr;ac nid hawdd yw bod yn ddigon manwl i wneyd cyfraith heb fod rhyw fwlch ynddi.’


Tan Y Fynwent


Tŷ arall oedd Tan y Fynwent (lle’r oedd Robert Edward y gof yn byw). Ei ŵyr, Robert Edwards a ysgrifennodd y llyfr ‘Hanes Crefydd Llanfechell, a’r Cylch’.  Ef fyddai yn pedoli ceffylau John Elias ar gyfer ei deithiau marathon a diddiwedd a chawsai John Elias y flaenoriaeth bob amser. Gallai’r teithiau fod yn llawn peryglon fel y dengys yr hanes hwn:

Yr ydym yn cael hanes am un tro hynod a gymerodd le, wrth iddo groesi afon Menai o Sir Fôn, ym mhorth Bol-don.  Yr oedd y ceffyl ag oedd gydag ef ar y pryd yn y cwch a lled ofnus, ac wrth iddynt gychwyn, dymunodd ar y cychwyr beidio codi yr hwyl, rhag i hyny ddychrynu ei anifail, ac felly rhoddi eu bywydau oll mewn perygl.  Er hyny, wedi iddynt fyned encyd oddiwrth y lan, codasant yr hwyl i fynu; a’r canlyniad fu i’r ceffyl frawychu, a neidio dros y cwch i’r môr, gan wthio Mr. Elias o’i flaen i’r dwfr!  Neidiod un o’r dynion ar ei ol yn ddioed: ond yr oedd Mr. Elias i fynu yn fuan, gan nofio yn esmwyth ar ei gefn ar y dyfroedd, a chyfodwyd ef i’r cwch yn ebrwydd.  Diangodd ef a’r ceffyl heb ychwaneg o niwed na’r dychryn â’r drochfa. Dywedir ddarfod iddo bregethu yn rymus iawn y noson hono yng Nghaernarfon.’



Cynhelid pregethau gan y Methodistiaid cynnar o flaen Siop Newydd, cyn codi Penygroes.  


Siop Newydd


Y SIOP FAWR!

Y tŷ pwysicaf i'n stori ni yw'r Siop Fawr, cartref John Elias.

 Cartref John Elias' a Chofeb, Llanfechell     

Dyma hanes 5 gŵr diddorol a fyddai yn mynychu Siop a chartref Elizabeth Elias:-

1 Rees Jones  

Gof oedd Rees Jones, a’i efail yn sefyll lle mae Capel Cemlyn heddiw.  Dysgodd ddiwinyddiaeth trwy help John Elias, a byddai'n ymweld yn aml a'r Siop Fawr i gael cymorth gan Elizabeth i ddysgu Saesneg. Aeth yn weinidog i Benclawdd, Penrhyn Gŵyr.


Tŷ Capel Cemlyn


2. Captain Thomas Owen  

Troes yn Fethodist dan ddylanwad John Elias, ac mae’n debyg iddo briodi un o deulu Shadrach Williams. Gwrthgiliodd oddiwrth grefydd fodd bynnag. Fe’i cymerwyd ef a’i griw a’i long ‘Eleanor’ yn garcharorion gan y Ffrancwyr yn ystod Rhyfel Napoleon, ac anfonwyd ef i garchar Verdun.  Anfonai John Elias lythyrau ato, a chasglu arian i’w gynorthwyo.  Ar ôl y rhyfel, fe ddychwelodd i Gemlyn ond bu farw yn ifanc o effeithiau ei garchariad.


Beddfaen Thomas Owen


3 Andrew Brereton, Plas.

Daeth yn  brentis i’r siop at Elizabeth Elias ar ôl  mynychu'r ysgol o dan John Owen mewn ysgol a adeiladwyd gan William Parry (lle mae  Libanus heddiw), Wedyn, aeth i Lerpwl ac yna’r Wyddgrug lle daeth yn berchennog bragdy llwyddiannus.  Roedd yn fardd a llenor, a mabwysiadodd yr enw ANDREAS O FÔN,  Gwelir englyn o’i waith ar fedd Neli, un o forynion John Elias, ym mynwent Bethesda.

Yn ddillyn forwyn hon fu – ofalus

Hefo Elias Cymru,

Duwioldeb, cywirdeb cu

Yn ei gwyneb yn gwenu.

Fe ddaeth yn ôl i Eisteddfod Môn Llanfechell, 1877, yn un o feirniaid y farddoniaeth. Hefyd fe gyfranodd arian tuag at ysgoloriaeth i Brifysgol Aberystwyth.


Plas, Llanfechell

4. Thomas Lewis  

O Dyddyn Gyrfa, Cemaes, ac wedi cael addysg yn Llanfechell.  Daeth yntau yn brentis i’r siop at John Elias, y mab, ac wedi hynny, daeth yn farsiandwr blawd cyfoethog iawn ym Mangor.  Roedd yn teithio’r byd, a chafodd y llysenw Thomas Palesteina Lewis.  Daeth hefyd yn aelod Seneddol Rhyddfrydol Sir Fôn 1886-1894.  Ei fab, Syr Henry Lewis, roes y tir i godi Coleg Bangor.


Thomas Lewis

5. Hugh Jones

Daeth yntau, hefyd yn brentis i’r Siop Fawr, at fab John Elias.  Y Parch Hugh Jones, Lerpwl oedd o wedyn, a’i orchestwaith o oedd sgwennu Cofiant William Roberts, Amlwch, hen-daid Saunders Lewis, a sail i nofel Saunders Lewis, ‘Merch Gwern Hywel’.


Hugh Jones


John Elias yn Llanfechell

Trwy hap a damwain y daeth John Elias i Fôn.  Rhywsut neu'i gilydd cyfarfu ef ag Elizabeth Broadhead, ac fe’u priodwyd Chwefror 22, 1799 yn eglwys Llanfechell, gan y ciwrad John Jenkins, gŵr o’r de, a Richard Jones, Coed Cae Du, Eifionydd, cyfaill John Elias, yn was priodas.  Pregethodd Richard Jones wedyn tu allan i’r Siop Fawr, ar y testun - ‘Ac Adda a adnabu Efa, ei wraig’.  Yn y Siop Fawr, fel yr oedd hi’n cael ei galw, yr oedden nhw’n byw.

Eglwys Llanfechell


Enw Elizabeth oedd ar y siop, er bod dogfen ar gael yn cyfeirio at John Elias fel ‘grocer’.  Byddai weithiau yn helpu i dwtio’r silffoedd yn y siop, ond yn ei stydi'r treuliau lawer o’i amser.  Pan yn Llundain, helpai mewn modd arall ar ambell achlysur:-

    ‘After long waiting for that Laceman from Northhampton, and waiting in vain – today  I took Mrs. Davies my      Land Lady with me who is a good judge of such things, we went to the cheapest place that we could find in London      and I bought worth £8:4:4 of the best Laces and the best patern according to our fancies and I think them very      good for the prices.

   I will buy the worth of the remainder of the money before my Departure from here.  I have kept some money in     hand on purpose to expect that Lace Man from the country.

  I will send the Laces, in a small parcel with the Mail tonight to Mr. Owen Holyhead and I’ll pay the carriage here.’

O’r dechrau un, roedd gan John Elias ddau gyfaill neilltuol, y bu i brofiadau amrywiol bywyd, eu tynnu yn glos at ei gilydd.  Dyna Richard Lloyd, Biwmares, pregethwr Methodist fel yntau, cyfaill pennaf John Elias.  Cafodd y ddau brofiad go chwerw o gael eu cyhuddo o bregethu teyrnfradwriaeth i’r milwyr Cymreig yn Nulyn, yn dilyn y gwrthryfel aflwyddiannus yn yr Iwerddon yn 1799 - cyhuddiadau cwbl ddi-sail.

Cyfaill agos arall oedd William Roberts Amlwch, pregethwr Methodist a oedd yn cadw siop gyda'i wraig newydd ym Mhorth Amlwch.  Roedd Elizabeth Elias a William wedi buddsoddi cryn dipyn o arian i brynu nwyddau i’w siopau, ond collwyd y cyfan pan aeth y llong, Marchioness of Anglesey yn erbyn Ynys Dulas mewn storm. Ni allai William Roberts, oedd newydd briodi, dderbyn y fath ergyd, a bu rhaid i John Elias ei gocsio o’i bruddglwydd rhag ofn iddo 'ladd ei wraig newydd, dyner a thirion.'

Mae’r stori sut y cafodd William Roberts ‘ei wraig newydd, dyner, a thirion’ yn un enwog yn hanes carwriaethau rhamantus Cymru (fel un John Elias, a dweud y gwir).  Syrthiodd Williams Roberts mewn cariad hefo Sarah Jones, fferm helaeth Gwern Hywel, yn Sir Ddinbych, ond roedd y teulu yn erbyn unrhyw briodas.  Fodd bynnag, yn gynnar un bore, dringodd Sarah allan drwy ffenest, i freichiau William Roberts, ac fe’i cludwyd ar ei geffyl i Lanfechell, lle cawsant groeso a lloches gan John ac Elizabeth Elias, a chael cyfle i gael eu traed danyn, cyn codi’r siop ym Mhorth Amlwch.

Roedd Elizabeth Elias yn wraig arwrol, hunanaberthol, a roddodd y cyfle i John Elias gysegru ei oes i bregethu, heb fod arno’r gofal o orfod cynnal teulu na rhedeg siop.  Cafodd bedwar o blant, John a Phoebe, a dau arall, a fu farw un eu babandod.  Achosodd colled y  Marchioness of Anglesey flynyddoedd o drafferthion a dyddiau caled - meddai ei mab:-

   'Yr oedd fy mam yn ymladd yn fawr â’r byd a’i helbulon, heb ond ychydig o gyfoeth wrth gefn.'

Serch hynny, byddai Elizabeth yn mynd i’r capel yn Llanrhuddlad, lle’r oedd y meddyg esgyrn enwog, Evan Thomas, yn aelod, a byddai yn mynd ar geffyl a roes ffermwr caredig yn fenthyg iddi.  Enw’r benthyciwr oedd Richard Hughes, Bodorwedd; clochydd eglwys Llanfechell.  Byddai hefyd yn cau’r siop ddwywaith y dydd, er mwyn cynnal y ddyletswydd deuluaidd, er nad oedd Elizabeth yn alluog iawn fel gweddiwraig - Mary, un o’r morynion fyddai'r orau - Mary, a fyddai’n codi fel ostler ganol nos, i ofalu am geffyl John Elias pan ddychwelai o’i deithiau ar bob tywydd.  Ond, fe ddaeth rhyw ddiacon o Annibynnwr heibio i geisio serch Mary, ac ar ddydd ei phriodas, roedd John Elias bach yn beichio crio.

Ar ôl gadael Llanfechell aeth John i ysgol yn Abergele ac yna i Gaer i ddysgu Saesneg.  Pan oedd John wedi bod yn yr ysgol yng Nghaer am gyfnod go hir erfyniodd ei dad ar iddo ddod adref. (Roedd John yn anfodlon dod gartref gan ei fod yn mwynhau'r bywyd gyda gŵyr ifanc Caer, yn yfed gwin coch). Erfyniodd ei dad arno iddo ddod adref er mwyn ei fam-

   'Nis gallaf feddwl ei bod yn sefull trwy’r dydd yn y Siop, a cherdded i Gwyddelyn.                             

   Llafuriodd lawer dros 21 mlynedd i’ch dwyn i fyny.' (Roeddent yn meddwl symud o Lanfechell i Wyddelyn)

Y mae’n canmol pa mor dda yr oedd Phoebe yn y siop, ac yn erfyn,  'Nid gormod anrhydedd i Dad a Man a fuasai i ti aros gyda ni ddwy neu dair blynedd.'

Y gwir oedd, fod y busnes bellach yn ffynnu yn rhagorol.  Cais John Elias ddenu ei fab –

     'Y mae yna fenn (cart) newydd odiaeth, a sadler yma yn awr, a ‘drexs’ (sic) gwych i’w rhoi ar y ceffylau, a dy enw      ar y ffrwynau'

Adra y daeth John.  Ar ben hynny, gan fod John mor anfedrus yn dewis gwraig, dewisodd ei dad un ar ei ran, Harriet Morris, un o deulu Methodistaidd o Sir Fflint!  Stori arall yw honno.

Bu farw Elizabeth Elias yn 1828, yn 59 mlwydd oed, rhyw chwech i saith mlynedd ar ôl i John ddod adref.  Llwyddodd y busnes fwyfwy, fel y dengys un llyfr banc o’i eiddo. Ddwy flynedd ar ôl marw ei wraig, roedd John Elias wedi ail-briodi, heb ddweud gair wrth ei blant, nac wrth ei gyfaill penna’  Richard Lloyd, nac wrth arweinyddion Methodistiaid Môn.

Roedd yn adnabod ei ail wraig ers blynyddoedd.  Ann Bulkeley oedd hi erbyn hynny, merch gyffredin o Aberffraw, a oedd wedi bod yn forwyn yn Presaddfed, Bodedern, ond gofynnodd Syr John Bulkeley iddi ei briodi, ac felly y bu.  Ond bu ei gŵr farw yn ifanc, a cheir llythyrau yn dangos sut yr oedd ei blant o’i briodas gyntaf yn cynllunio sut i gael meddiant o Bresaddfed.  Margaret Emma oedd un, gwraig i James Ring, Meistr y Seremonïau yng Nghaerfaddon (Bath) ac mae’n ysgrifennu yn bur sarrug am Ann.  How to get the little lady from there.   Cytunodd Ann i adael y lle ar yr amod ei bod yn cael digon i’w chadw yn gysurus am weddill ei hoes.  Daeth hi a John Elias i ail-gyffyrddiad â’i gilydd yn Dronwy, Llanfechell.

Chwefror 18.   1830

   Fy Anwyl Fab,

   Yr ydwyf yn teimlo fy hun yn anesmwyth eisiau ysgrifennu atat ti a’th chwaer, a byddai yn dda iawn gennyf gael     clywed oddiwrthych.  Byddai dim newydd tymhorol yn mwy hyfryd imi na chlywed eich bod yn iach a chysurus.     Buaswn yn ysgrifennu i chwi eich dau ynghyd pe buaswn yn meddwl y buasai fy annwyl ferch Phoebe yn caru ac yn     dyoddef hyny.  Nid yw newidiad yn fy sefyllfa yn newid dim ar fy mherthynas a chwi, nac yn oeri fy serch atoch,     nac yn lleihau fy ngofal amdanoch.  Fe allai bod yn anhawdd genych chwi fy nghoelio yn awr.  Yr ydwyf yn     ysgrifennu hyn ger bron adnabyddwr calonau.  Cewch chwithau weled ryw bryd fy mod yn dywedyd y gwir.  Y mae     eich lles a’ch dedwydwch tymhorol a thragwyddol yn agos iawn at fy nghalon.

   Nid wyf etto yn gallu meddwl ein bod wedi anfoddloni Duw yn y newidiad hwn yn ein sefyllfa.  Dymunwn i     chwithau, anwyl blant, beidio barnu rhy gryf yr ochr arall ond gadael i’r Arglwydd egluro pob peth.

 

Cymerodd gamau cyfreithiol i drosglwyddo popeth ynglŷn â’r siop â’r tai yn enw ei blant.  Ysgrifennodd hefyd lythyr at ei hen gyfaill, Richard Lloyd.  Aeth y par priod i fyw i’r FRON, tŷ mawr yn Llangefni, ac ymhen amser, meiriolodd yr oerineb. Daeth John Elias a’i wraig newydd ar ymweliad a Llanfechell, ac enillodd personoliaeth Ann John o leiaf - a stori arall ydy honno hefyd.


Bedd Elizabeth, Eglwys Llanfechell


Beddfaen mab John Elias, Eglwys Llanfechell


*******************************************************

yn ôl i frig y dudalen

 Carreg Llanfaes

Un tro, fe ofynnodd pregethwr ifanc i hen flaenor o’r enw Robert Williams o Lanfechell, un yn cofio John Elias yn dda, a fyddai yn cael yr un effaith pe tai’n fyw'r dydd hwnnw, a’r ateb oedd, ŵr ifanc - Medrai John Elias gael mwy o ddylanwad ar gynulleidfa wrth dynnu ei het na phregethwyr eraill gyda’u pregethau gorau.


A dyna fel mae hi!  Does ganddom ni ddim modd darganfod sut un oedd o ond trwy dystiolaeth ei gydoeswyr.  Wedi’r cwbl! Doedd yna ddim peiriant recordio. Dibynnwn ar eiriau'r sawl a’i clywodd.  Doedd yna ddim camera.  Dibynnwn ar argraffiadau arlunydd.  Er iddo adael dros ddwy fil o bregethau - nid ydynt yr un fath.  Dyw o ddim yn eu llefaru - er y gellid cael syniad o’u heffaith trwyddyn -nhw.  A’r hyn sy’n taro rhywun trwy ddarllen barn trawsdoriad o wahanol bobl amdano ydy, eu bod i gyd yn cydnabod aruthredd ei ddawn.  Meddai un gweinidog, Cydnabyddir John Elias fel prif areithiwr (sic) Cymru; mae un ysgrifennydd dienw yn dweud yn Y Drysorfa.

    Ar ddiwedd y dymhestl o fellt a tharanau, disgynai cawod o’r glaw graslawn i waered; cliriai y cymylau, gloëwai yr      awyr, a thywynai haul cyfiawnder yn ei nerth ar eneidiau.’

Cyfeiria Dr Lewis Edwards, prifathro cyntaf Coleg y Bala, nad oedd yn edmygu popeth amdano ar y cychwyn, ond iddo yn sydyn weld ei fawredd, pan ddaeth ‘y bersonoliaeth hardd yma’  meddai, ‘i mewn i’r Capel ar ddechrau oedfa


John Elias










A dyna ni’n dod i’n dyddiau ni ‘Pregethwr mwyaf grymus ei genhedlaeth meddai’r Gwyddoniadur’.  Ac yr oedd ganddo ‘bresenoldeb’ wrth wynebu cynulleidfa.  Safai yn hollol syth, nes y byddai angerdd yn ei orchfygu.  Pum troedfedd deng modfedd o daldra, ond yn ymddangos yn dalach am ei fod yn denau.  Yr oedd ôl y frech wen ar ei wyneb. Pan yn ifanc, bu yn ymarfer defnyddio un o’i fysedd yn effeithiol o flaen drych - ond nid actor mewn theatr oedd o - roedd pawb o’i gyfoeswyr yn datgan ei ddiffuantrwydd.  Ac roedd ganddo’r llais pwerus yn arf rhyfeddol.  Llais yn ôl llawer allai beri i ddynion cryfion siglo o’i flaen fel ymchwydd tonnau’r môr ac yr oedd bob amser mewn perffaith reolaeth o’i feddwl, a’i frawddegau, a’i baragraff - gosod maen ar ôl maen yn ôl y cynllun a saernïwyd ganddo i godi muriau ei genadwri.  Rhesymu ar dân!

Engrhaifft o bregeth

Cyhuddwyd ef o fod yn Uchel - Galfinaidd gan rai a gred fod Duw wedi ethol rhai i’w hachub, ac nad oedd bwrpas pregethu i’r lleill.  Thraddododd o erioed bregeth heb ei gwneud yn glir i’w gynulleidfa fod dihangfa i’w chael yng ngras Duw.  Yn ei eiriau o ei hun mewn llythyr at ei fab, oedd yn ansicr o’i gred: Mae’n dweud -

   ‘Disgwyl wrth yr Arglwydd, estyn dy law allan, er ei bod wedi gwywo; cyfod fel yr afradlon er ei fod mewn gwlad     bell, ac yn marw o newyn – rhed y Tad i’th gyfarfod.  Cais, ti a gei.  Cura, fe agorir iti .....’

Y diweddar Dr R Tudur Jones oedd un o’r awdurdodau pennaf ar hanes pregethu’r Efengyl yng Nghymru yn arbennig y traddodiad Piwritanaidd yr oedd John Elias yn rhan ohono. Y mae’n dweud-

   ‘Yr oedd Elias yn gallu cymryd argyfwng dyn o ddifrif.  I bobl yng ngafaelion alcoholiaeth, bryntni buchedd,     trachwantau treisgar a gwacter ystyr (i ddefnyddio term Modern), yr oedd yn llawenydd gwrando dyn oedd yn gallu     cymryd eu trafferthion o ddifrif calon.  Nis oes dim yn dyfnhau ing pobl sy’n dioddef gan eu pechod fel clywed     arweinyddion crefyddol yn trin y peth fel jôc neu fel mân lithriadau y gellir gydag ychydig ymdrech gael eu gwared.     Nid oedd perygl i unrhyw ddioddefwr ysbrydol gael ei drin fel hyn gan Elias.  Gallai for yn onest ei ymagwedd’

Daeth dylanwad John Elias yn aruthrol - yma ym Môn.  Ym Môn, taranai yn erbyn torri’r Sabath, yn erbyn gweithio melinau ar y Sul; chwarae anterliwtiau; ysbeilio llongddrylliadau; meddwdod ayyb.  Mynnai gael ei ffordd yn y Sasiynau a’r Gymdeithasfa - Roedd yn erbyn Deddf Diwygio’r Senedd 1832, deddf a estynnodd yr hawl i bleidleisio o 435 o filoedd i 652 filoedd, ac ni fynnai i Fethodistiaid ddringo i lwyfannau gwleidyddol y Radicaliaid.  Condemniai bobol am herio’r drefn, a’u fflangellau am honni mai'r un peth oedd llais y bobl â llais Duw.  Gelwid ef ‘Y Pab o Fôn’, a’r ‘Hen Jim Cro yn ei het ddu’

Ceidwadwr mawr oedd o.  Gwrthwynebai’r Mesur i Ryddfreinio’r Pabyddion pan oedd ralïau mawr Daniel O’Connell yn creu cyffro yn yr Iwerddon, gan ofni y byddai hynny yn arwain unwaith eto at losgi Protestaniaid wrth y stanc fel yn nyddiau Mari’r 1af.  Pan glywodd i nifer o ŵyr ifanc deallus o eglwys Jewin, Llundain, anfon Anerchiad at y Senedd yn cymell ar iddynt ganiatáu’r bleidlais i Babyddion, aeth yn gandryll.  Ymhlith y gwŷr yma yr oedd Arfonwyson a oedd yn gweithio yn yr Arsyllfa yn Greenwich, a Chaerfallwch y geiriadurwr, a mynnodd John Elias fod yr eglwys yn eu diarddel.

Un esboniad, yn sicr, ar ei geidwadaeth lem oedd ei bod yn nodweddiadol o’i genhedlaeth, o bobl fel Thomas Charles a Thomas Jones cymhellwyr Tawelyddiaeth a Dim - ymyrraeth.  Carai hefyd, o hyd,  yr Eglwys.  Teg dweud, hefyd, ei fod yn condemnio caethwasiaeth, ac am i eglwysi Lerpwl, lle’r oedd aelodau meddai, ‘yn llunio cadwynau a gefeiliau i’r fasnach felltigedig hon’, dorri’r rhain allan o’i heglwysi.

Os oedd llawer yn dyheu am weld cefn John Elias, fe gawsant eu dymuniad.  Pan oedd gyda chyfaill yn ardal y Bala, cafodd ei luchio o gerbyd wrth i geffyl godi pan dorrodd un o’r llorpiau.  Trawodd ei ben, ac yn ystod y blynyddoedd yn dilyn hynny byddai’n gorfod gorffwyso mwy.  Datblygodd ddolur ar ei droed.  Gwaethygodd hwnnw, a bu farw yn Y Fron, Llangefni yn 1841.


Eglwys Llanfaes


Ei feddfaen

                                   

Bedd John Elias


Rhaid cofio am ei allu - yng ngeiriau’r Dr Tudur eto ‘

   Y gallu areithyddol prin hwnnw i wneud teimlad angerddol yn wydr tryloyw i ganfod y gwirionedd trwyddo, fel bod y     gwirionedd yn bopeth i’r gwrandäwr, a’r cyfrwng yn ddim.  Dyma gyfrinach areithwyr mwyaf y byd ym mhob oes’

Dydd ei angladd, cychwynnodd yr orymdaith o’r Fron Llangefni, pellter o thua 12 milltir.  Pam i Lanfaes - er mwyn bod wrth ochr ei ffrind, Richard Lloyd.  O flaen yr elor gludydd, â’i nifer o gerbydau yn cario nifer o weinidogion a meddygon.  Wedyn yr elor gludydd, ac yna, cerbydau'r perthnasau; ar ôl hynny, 40 o weinidogion yn marchogaeth bob yn ddau; tua deugain o gerbydau wedyn; yna cant a hanner o wŷr ar feirch, bob yn ddau; a thyrfa fawr ar draed bob yn bedwar.  Yr oedd yr orymdaith yn lluosog ar hyd y ffordd, ac erbyn cyrraedd Biwmares, yr oedd yn filltir a hanner o hyd, ac yr oedd, ar amcan, ddeng mil o bobl wedi ymuno â hi.

 

A defnyddio iaith yr oes honno, felly yr aeth gŵr mawr yn Israel i dŷ ei hir gartref.

*******************************************************

yn ôl i frig y dudalen


Diolch i Mr Mike Harris am gymorth gyda'r lluniau ac i’r Athro Robin Grove White, Brynddu, am y mapiau 1805 a 1865 o Lanfechell.


Hen Siop


Plas


Penygroes

Mab John Elias