gyda diolch i’r Athro Robin Grove-
Cliciwch ar y mapiau a’r lluniau i'w gweld yn fwy
*********************************
Beth a ddysgwyd am Fortunatus Wright o Ddyddiaduron Bulkeley
Pwy oedd Fortunatus Wright – a sut y daeth yn herwlongwr?
Dyddiaduron William Bulkeley: 1734 – 43 & 1747 -
17eg Mawrth 1738
Testun wedi'i guddio o'r dyddiadur
Today came here Mr Fortunatus Wright, a Brewer and Distiller of Liverpool, and possessed of an Estate of 120 a year accompanied by Dr Evans of Llanerchymedd, with letters of recommendation from Mr Wm Parry of Dublin, & another from my daughter Mary Bulkeley, whose suitor he has been these several years, she recommends him worthy of her love and esteem, who having … indiscretions … age and misfortune continued the same to show affection for her and desired my consent to have him for her husband, and tho I thought him not equal to her in Birth and that she might be vastly superior to him in fortune, yet considering her fired resolution to go with him, & also his sincere generous love for her, I then yielded to their desires. This gentleman since his departure from his boyous age married one Painter of Pembrokeshire a Cousin of his & has by her now 3 daughters who are (and appear…ed, that his Estate is not settled) to inherit his real Estate left his Daughters by his sd wife, but if he hath surety he & they want back place, his wife dyed in November last & took the first opportunity that he decently could to make a purpose voyage to Dublin to wait upon his old and first love & … this night, & till 5 o’clock next day. I shal expect him and my Daughter here from Dublin in 8 or 9 days time.’
Trawsgrifiad o'r testun
Cofnod o'r hyn a ysgrifenwyd yn y dyddiadur ar 11 Ebrill 1738
Went out a coursing with my son in law, cousin Henry Hughes & the parson, killed three hares and returned home by dinner time. My son in law shows a fondness to his wife, even to a fault, if I may be allowed to say so, being always playing with her, & kissing of her.’
***********************************
Beth oedd herwlongwr?
Mae'n bwysig gwahaniaethu rhwng morleidr a herwlongwr.
Mor leidr yw un sydd yn cyflawni gweithred ryfelgar (yn arbennig yn lladrata neu gyflawni trais ar y môr) ond na sydd â chyswllt ag unrhyw lywodraeth.
Mae gan herwlongwr drwydded (a alwyd yn Lythyr Marque) gan ei lywodraeth, sydd yn rhoi’r awdurdod iddo i ymosod ar longau’r gelyn ac ymyrryd a masnach y gelyn. Mewn gwirionedd, dim ond yn ystod cyfnod o ryfel y digwyddai hyn ac felly llong ryfel oedd herwlong. Talwyd costau o adeiladu a chynnal yr herwlong gan fuddsoddwyr yn y gobaith o enillion sylweddol o’r llongau masnach a gipiwyd gan y gelyn. Roedd yn rhaid cael beirniadaeth ar yr ysbail gan Lys y Llynges a oedd yn penderfynu os oeddent yn ‘’wobr deg a chyfreithlon’. Os oeddynt, roedd y llongau a’r llwythi’n cael eu gwerthu drwy ocsiwn a’r enillion yn cael eu dosbarthu ymysg perchnogion yr herwlong, swyddogion a chriw.
Ysbail Wright – Miniatur o'r 1680au o wraig llys Ffrengig anhysbys
Roedd criw’r herwlong yn cael breintryddid o’r wasg ac yn derbyn cyfran o’r ysbail. Os daliwyd hwy byddent fel arfer yn cael eu trin fel carcharorion rhyfel ac yn aml yn cael eu cyfnewid am garcharorion y gelyn. I rai dynion roedd yn gyfle cyffrous i gael blas o antur.
I lywodraethau roedd yn ffordd rad o fyddino llongau arfog heb wario arian cyhoeddus!. Roedd yr herwlongwyr yn fanteisiol iawn gan eu bod yn aflonyddu ar fasnach ac yn gorfodi’r gelyn i ddefnyddio llongau rhyfel i warchod masnach.
Pwrpas herwlongwriaeth oedd cipio llongau yn hytrach na’u suddo-
Ysgrifennodd y Capten William Hutchinson (ei hun yn herwlongwr profiadol a lliwgar
a ddaeth yn ddiweddarach yn Feistr y Dociau yn Lerpwl) am herwlongwyr ...........“the
captain was always some brave, daring man who had fought his way to his position.
The officers were selected for the same qualities: and the men – what a reckless,
dreadnought, dare-
Yr oedd Hutchinson, a ysgrifennodd lyfr enwog, ‘Traetise on Practical Seamanship’ yn amlwg yn siarad â balchder o fod wedi gweithio o dan Fortunatus Wright ac roedd yn aml yn cyfeirio at arferion ‘yr arwr mawr, yr arwr teilwng’ wrth egluro gwahanol bwyntiau o forwriaeth.
**************************************
Rhyfel Olyniaeth Awstria 1740-
Parhaodd y rhyfel o 1740 i 1748 ac yn ystod y cyfnod yma rhoddwyd Llythyrau ‘Marque’ i fasnachwyr a ddymunai ymladd yn erbyn llongau’r gelyn.
Gwyddom fod FW, wedi iddo briodi Mary Bulkeley yn 1736, wedi mynd i’r Eidal ac wedi
aros yno am oddeutu’r ugain mlynedd nesaf yn gweithio fel masnachwr ac yn nes ymlaen
fel herwlongwr -
Yn fuan iawn death FW yn destun trafodaeth .Yn 1742 heriwyd ef wrth giatiau dinas Lucca (ger Pisa yng Ngogledd Yr Eidal) a gorchmynnwyd iddo ildio ei arfau. Gwrthododd a daliodd lawddryll i ben un o’r milwyr. Ymddangosodd deg ar hugain o filwyr eraill, arestiwyd ef a carcharwyd ef am dri diwrnod. Er iddo gael ei ollwng yn rhydd gwaharddwyd ef rhag dychwelyd yno. Symudodd i Leghorn.
Leghorn
Mae Leghorn (neu Livorno) yn Tuscany, talaith yng Ngogledd yr Eidal. Yng nghanol y ddeunawfed ganrif Awstria oedd y prif bŵer tramor yn yr Eidal ac roedd Leghorn i fod yn borthladd naturiol lle cai masnachwyr o bob gwlad fasnacha a thrin eu llongau ayyb. Roedd trefedigaeth Seisnig fawr yn Leghorn a’r masnachwyr yno a dalodd i gael herwlong ar gyfer FW.
Map cyfoes yn dangos Leghorn (Livorno)
Map cyfoes yn dangos y morglawdd a'r gaer
Leghorn heddiw, yn dangos y morglawdd a'r/neu'r gaer
Torrodd rhyfel allan yn Ffrainc yn 1744 a dioddefodd masnachwyr Leghorn o anrhaith
yr Herwlongwyr Ffrengig. Yn 1744 cafodd y SWALLOW, llong fasnach FW, ei dal gan yr
herwlong Ffrengig BEGONIA pan ar fordaith fasnachol o Lisbon i Lundain ac fe bridwerthwyd
y capten, William Hutchinson. O ganlyniad i hyn, efallai fel dialedd, darparodd FW
y llong Fame yn arbennig ‘i forio yn erbyn gelynion Prydain Fawr’ -
Llun olew o'r Fame – anrheg gan Fortunatus i'w dad yng nghyfraith
Ym mis Tachwedd 1746 ymladdodd Fame yn erbyn dwy long Ffrengig oddi ar Messina (Gogledd Ddwyrain Sicily) ac fe aeth un ar y lan wrth geisio dianc rhag cael ei chymryd fel ysbail. Gwyliodd y criw yn ddiymadferth wrth i FW lwyddo i achub y llong trwy ddefnyddio cychod rhwyfo i’w thynnu allan i’r môr.
Erbyn diwedd Rhagfyr roedd Fame wedi cymryd dim llai nag un a’r bymtheg o longau Ffrengig fel ysbail yn y Levant (Y Môr Canol Dwyreiniol) oedd a gwerth yn y dyddiau hynny o £400,000 (pedwar can mil o bunnoedd). Roedd un o’r rhain yn Herwlong Ffrengig gydag ugain gwn a chant a hanner o ddynion oedd wedi’i darparu’n arbennig i gymryd FW!
******************************
Y tactegau a ddefnyddiwyd gan FW
Pam oedd FW mor llwyddiannus? Mae Hutchinson yn disgrifio yn ei lyfr ‘ Treatise on Seamanship’ rhai o’r tactegau a weithiwyd arnynt er mwyn mwyafu manteision yr herwlongwr.
Rhaid cofio mai’r syniad oedd cipio ac nid suddo llong y gelyn. Yn aml roedd yr herwlongau yn llai na'r llongau masnach roeddent yn ymosod arnynt ond rhoddai hyn fantais o gyflymder a hydrinedd iddynt. Edrychant hefyd yn dwyllodrus o wan ac felly gellid defnyddio’r elfen o ymosodiad annisgwyl.
Pan aeth yr herwlongwyr i’r môr i ddechrau, yn aml gyda chriw o wahanol genhedloedd wedi’u casglu’n frysiog, roedd yn bwysig iddynt ymarfer morwriaeth (fel bo’r criw’n medru ymateb yn sydyn yng ngwres y frwydr) a gynyddiaeth. Byddai’r gynwyr, yn aml, yn ymarfer ar gasgenni oedd yn arnofio ac yn dysgu saethu pan oedd y llong yn rholio’n uchel gyda’r tonnau. Wrth amseru’n ofalus gallent saethu ar hyd y deciau (yn defnyddio peli mysged neu fariau haearn i gael yr effaith mwyaf yn erbyn rigin a morwyr) neu saethu peli 12 pwys o dan y lefel dwr gan dreiddio’r gragen ac anablu’r llong.
Yn ddelfrydol, buasai’r herwlong yn rasio tu ôl i’r llong i’w hysbeilio ac yn troi ar draws y starn mor agos ac y gallai, yn anelu at hyd ddec y llong a, hyd yn oed yn well, yn dinistrio’r llyw a mecanwaith yr olwyn lywio gan wneud y llong yn ansymudol. Fel arfer buasai hyn yn ddigon i achosi’r ysbail i ostwng ei baner.
Ar 19eg Rhagfyr, 1746 cymerodd FW, pan ar fwrdd FAME, ysbail ardderchog-
Dim ond dau fis yn ddiweddarach, yn Chwefror 1747, cymerodd FAME eiddo Twrcaidd oddi
ar y llong Ffrengig HERMIONE a oedd ar ei ffordd i Farseilles. Roedd yn gyffredin
i, hyd yn oed fasnachwyr Seisnig, ddefnyddio llongau Ffrengig i gludo’u nwyddau (os
nad oedd llongau eraill ar gael) gan wybod os cant eu dal (gan Herwlongwyr Seisnig)
y gwarchodwyd y cargo gan drwydded (laissez-
Daeth gorchymyn o Brydain am i FW gael ei ddal a’i garcharu, ond rhoddwyd ef yn y ddalfa am chwe mis (yng Nghaer Leghorn) gan awdurdodau Tuscany tra bo’r cyfreithwyr yn brwydro dros gyfreithlondeb yr ysbail. Gwrthodasant ei ollwng, ond mewn amser fe’i rhyddhawyd, unai am fod Rhyfel Olyniaeth Awstria bron ar ben neu efallai oherwydd gorchmynion uniongyrchol o Vienna. Y naill ffordd neu’r llall ni dalwyd yr arian yn ôl.
(Ceir cyfeiriad i'r digwyddiad hwn yn y dyddiadur ar 1af Chwefror 1747)
Cofnod o'r dyddiadur ar 1af Chwefror 1747
Bulkeley gave his son, a lawyer, £5.00 to …
'bear his expenses in London, to which place he set out this day to solicit a troublesome affair of Mr. Wright with the Turkey Company, occasioned by his taking a French ship whose cargoe the Turks pretended was theirs … how this will end God alone knows , but the poor man who ventured his life in cruising upon and fighting his Countrey’s Enemies now lies confined at Leghorn.’
Yn 1748, a'r rhyfel drosodd, hwyliodd Mary o Lerpwl i ymuno a FW yn Leghorn.
*************************************
Y RHYFEL SAITH MLYNEDD (1756-
Yn 1755 ailgychwynnodd y rhyfel a Ffrainc gan arwain i’r Rhyfel Saith Mlynedd yn 1756. Rhoddodd hyn gyfle i FW gymryd herwlongwriaeth i fyny unwaith eto ond aeth ei enw drwg o’i flaen ac roedd mewn helbul cyn iddo hyd yn oed hwylio.
Roedd wedi darparu’r ST GEORGE yn Leghorn (gyda’r bwriad o herwlongwra) ond fe ochrodd yr awdurdodau o Tuscany (er y dylent fod yn ddiduedd) gyda Ffrainc (gan iddynt ddisgwyl i’r Ffrancwyr ennill) a’i gyfyngu i bedwar gwn bach a dim ond 25 o ddynion, y trefniadau arferol ar gyfer llong fasnach. Sicrhaodd FW fod yr awdurdodau’n monitro’i waith a gofynnodd i dystysgrifau gael eu cyhoeddi i gadarnhau ei fod wedi cydymffurfio a’u gofynion.
Gwyddai FW, oherwydd ei enw drwg, fod gwobr dda wedi’i roi ar ei ben (addawodd Louis
XV, Brenin Ffrainc, deitl Uwchfarchog a phensiwn y wladwriaeth am ei ddal neu ei
ladd. Cynigodd Siambr Fasnach Marseilles arian yn gydradd a dwywaith gwerth llong
FW). Ar yr un pryd roedd xebec Ffrengig, llong ryfel gyda hwyliau mawr trionglog
ar dri hwylbren-
Ar 28ain Gorffennaf hwyliodd FW gan arwain 4 llong fasnach Seisnig yn llawn o gargo gwerthfawr, o Leghorn i Lundain. Gan eu bod mor brysur yn gwylio FW ni sylwodd yr awdurdodau ar ynau, howitsers, gwifiau a dynion yn cael eu trosglwyddo ar fyrddau’r llongau masnach. Tu allan i derfynau’r harbwr, trosglwyddodd FW 12 yn fwy o ynau mawr a 55 o ddynion ychwanegol ( criw cymysg o Slofacia, y Swistir, Venice, Eidalwyr ac ychydig o Saeson) o’r llongau eraill ar y ST GEORGE.
Am 8 o’r gloch y bore ymosododd y xebec yn hyderus ar FW gan ddisgwyl buddugoliaeth
hawdd-
Ar 23ain Medi 1756 pan hwyliodd FW ymaith gyda llongau masnach (dan gysgod y llongau rhyfel) saethwyd 3 gwn o’r porthladd fel arwydd terfynol ond ni wnaethpwyd difrod!
Ar 19eg o Dachwedd, 1756 bu FW yn ymladd yn erbyn dwy long arfog Ffrengig ond llwyddodd i ddianc. Yn fuan wedyn aeth a dwy long Ffrengig oedd ar eu ffordd i Farseilles (oedd werth £15000 yr un) fel ysbail i Falta.
Yn anffodus, roedd Malta'r un mor rhagfarnllyd â Leghorn a ni chaniatawyd i FW ail
ddarparu’r SAN GEORGE (gyda dillad gwely, dillad morwyr ayyb) a gorfodwyd iddo ddadlwytho
rhai morwyr Seisnig a oedd wedi’u hachub o ysbail ynghynt ond gwrthododd ollwng ‘Prydeinwyr
oedd wedi cymryd lloches o dan Faner Brydeinig’. Unwaith eto fe’i rhwystrwyd ef gan
long y llynges -
Ar 22ain aeth FE ymaith eto, heb gyflenwadau, ac fe’i dilynwyd gan herwlong fawr y gelyn, llong ryfel cyflym Ffrengig gyda 38 o ynau a 300 o ddynion. Gwawdiodd FW hwy trwy forio o’u hamgylch, dwywaith yn gyflymach na hwy, gan saethu at y rigin.
Mae adroddiadau o Ragfyr 1756 yn dangos fod FW wedi cymryd dwy ysbail Ffrengig arall, yr IMMACULATE CONCEPTION a’r ESPERANCE (oedd werth £9000 ac £8000).
Erbyn hyn roedd Brenin Ffrainc yn anhapus iawn am yr effaith yr oedd FW yn ei gael ar longau masnach. Gorchmynnodd i ddwy long gael eu darparu gyda’r unig fwriad o ‘losgi’ FW allan ar y môr. Fe ddarparodd Siambr Fasnach Marseilles herwlong hefyd, yr HIRONDELLE o Toulon gyda 36 o ynau a 283 o ddynion.
Bu dwy frwydr, 3 awr yn Sianel Malta, ac er yr anghyfartaledd o’r maint a’r arfogaeth
bu’n rhaid i’r HIRONDELLE gilio ymaith. Aeth y ddwy long i Falta ar gyfer eu hatgyweirio
ond ni chaniatawyd i FW drwsio tyllau magnel o dan y llinell dŵr. Yn ogystal, ni
chaniatawyd iddo gael dŵr ffres ayyb. Gan fod dau gaethwas wedi llochesu ar ei long
fe’i cadwyd eto yn y porthladd nes iddo gytuno i’w rhyddhau. Yn ffodus, roedd Syr
Horace Mann wedi bod yn gweithio i wella cysylltiadau gyda Malta ( roedd effaith
ar fasnacha) a chafodd FW ganiatâd i anfon ei ysbail i Leghorn. Ysgrifennodd Mann
ato i ddweud y cai ddychwelyd yn ddiogel -
Fe’i rhyddhawyd o Falta a hwyliodd i Leghorn ond fei’ collwyd ef a’i griw i gyd mewn storm.
16th March 1757 ST GEORGE lost with all men at sea. (Adroddiad papur newydd ar Fai 19eg 1757)
***********************************
Mae'r eitemau canlynol yn eiddo i'r teulu Grove-
Cleddyf Fortunatus Wright
Portread o Anna, merch Mary a Fortunatus Wright
******************************
Yn olaf...
Dylem fynd yn ôl i 1746 ac adrodd un hanesyn olaf sydd yn nodweddiadol o gymeriad
FW. Anfonwyd llong Ffrengig ddwywaith cymaint â Fame i Falta i’w ymlid. Gwelwyd
tyrfa fawr o gefnogwyr Ffrengig ar hyd yr arfordir fel yr ailymddangosodd y ddwy
long yn dilyn brwydr swnllyd a ffyrnig. Ymddengys fel petai’r llong Ffrengig yn
tynnu Fame oedd wedi’i difrodi’n ddrwg ac fel y daethant heibio’r pentir codwyd
y faner Ffrengig ar y llong oedd yn arwain. Clywyd gwaedd uchel gan y Ffrancwyr-
******************************
James Joyce: Finnegan’s Wake
‘… our dollimonde sees the phantom shape of Mr Fortunatus Wright since winksome Miss Bulkeley made loe to her wrecker and he took her to be a rover.’
Gwelir yr arysgrif canlynol ar garreg fedd ei dad yn Eglwys Sant Pedr Lerpwl:
‘Fortunatus Wright, his son, was always victorious and humane to the vanquished. He was a constant terror to the enemies of his King and country.’
******************************
Fortunatus Wright oedd yr Herwlongwr enwocaf a hoff arwr Lerpwr yn ystod hanner cyntaf y ddeunawfed ganrif. Roedd ei gampau yn erbyn y Ffrancwyr yn ystod Rhyfel y Dilyniaeth Awstriaidd ac yn hwyrach ar gychwyn y Rhyfel Saith Mlynedd yn rhagori ar unrhyw gamp gan Drake neu Raleigh, ac eto mae o’n angof gan amlaf heddiw. Roedd yn gymysgfa liwgar o ddihiryn ac arwr, yn ôl pob son yn hen genau hoffus.
Gwyddom mai morwr oedd ei dad-
Yn Nhachwedd 1732, pan oedd yn ugain oed, priododd Martha Painter a chafodd dair Merch gyda hi, gan gynnwys Philippa a oedd i briodi ŵyr y dyddiadurwr, John Evelyn. Bu Martha farw ychydig o flynyddoedd wedyn.
Yn Nhachwedd 1736, pan oedd yn bedair ar hugain oed, priododd Mary Bulkeley a oedd yn barod yn feichiog gyda’i blentyn.