Cymdeithas Hanes Mechell

Hafan


Addysg


Cegin Filwr


Anglesey Trading Company


Cyfweliadau


Brynddu a’r Dyddiaduron  


Yr Eglwys


John Elias


Ffair Mechell


Maes Mawr


Coeden


Melinau


Yr Oriel


Syr Owen Thomas


Y Feddanen

a’r Wygyr


William Jones,

Mathemategydd


Fortunatus Wright,

Herwlongwr


Jos Y  Crown


Cofeb Llanfechell


 Capeli Llanfechell


Ol cnydau yng Ngharrog

Yr Hen Lan

Enwau Lleoedd

Robert Williams, Blaenor

Swyddfa’r Post

Gweirydd ap Rhys

Demograffeg Llanfechell 1851 a 1901

Mynwent Llanfechell

William Bulkeley a thlodion Llanfechell






Brynddu a Dyddiaduron William Bulkeley

William Bulkeley (1691-1760), Brynddu, Llanfechell, Sir Fôn. Roedd William yn fab i William Bulkeley a Lettice Jones o Langoed, ac yn ddisgynnydd i Syr Richard Bulkeley, Baron Hill, Siryf Môn ym 1596. Ysgrifennodd William Bulkeley ei ddyddiadur mewn tair cyfrol, ond yn anffodus mae'r ail gyfrol (1743-47) ar goll. Mae'r dyddiaduron yn werthfawr iawn gan eu bod yn cynnig portread byw o fywyd Môn yn y ddeunawfed ganrif. Maent yn cynnwys manylion am fywyd fferm, cyflogau, prisiau ac yn y blaen, ac nid oedd yr un diwrnod yn mynd heibio heb i William Bulkeley nodi'n ofalus union gyfeiriad y gwynt!

Cyflwyniad gan y Parchedig Dafydd Wyn Wiliam- Peth o hanes Llanfechell, 1735-1760 yn ôl dyddiaduron William Bulkeley

Cyflwyniad gan y Parchedig Emlyn Richards - Addysg yn ôl dyddiaduron William Bulkeley

Cefndir i gyflwyniad y Parchedig Dafydd Wyn Wiliam

Y prif gyfnod dan sylw oedd Llanfechell yn y ddeunawfed ganrif, ond i drafod hanes y pentref yn yr oes honno, cafwyd braslun o hanes Llanfechell yn yr Oesoedd canol.

Roedd yr hanes yma yn ddiddorol dros ben, a chafwyd eglurhad o’r unedau gweinyddol cynnar, sef y cantref a’r cwmwd. Mae clywed yr hen enwau sydd wedi goroesi o’r cyfnod yma yn ddiddorol a chyffrous. Mae gwybodaeth y Parchedig Dafydd Wyn Wiliam am dref Llanfechell, fel sawl ardal arall , yn gynhwysfawr a manwl.

Datblygodd ei gyflwyniad drwy’r bymthegfed ganrif, gan ddefnyddio enghreifftiau o ddogfennau o’r cyfnod, ewyllysiau, gweithredoedd a thrwy hyn fe gyfleodd ddarlun o’r gymdeithas.

Ar ôl darparu’r cyd-destun, aeth ymlaen i drafod hanes Llanfechell yn y ddeunawfed ganrif- cyfnod y dyddiaduron. Mae gwybodaeth werthfawr wedi ei ddarganfod o’r gwaith ymchwil manwl ac fe gafwyd ystadegau diddorol am faint y tyddynnod a’r ffermydd, eiddo’r trigolion ac achlysuron yr oes. Nododd  gyfeiriadau at ddigwyddiadau fel llifogydd a dymchwel croes y pentref , maint y pentref a’r fynwent.

O ddiddordeb arbennig oedd y wybodaeth am y ffeiriau a’r marchnadoedd yr arferid eu cynnal yn y pentref a’u lleoliad h.y. ar sgwâr y pentref oedd llawer mwy yn y cyfnod yma. Cynhaliwyd marchnad yn Llanfechell yn wythnosol a phedair ffair flynyddol. Roedd son am y nwyddau a werthwyd a’u prisiau yn rhoi argraff dreiddgar o drefn yr oes. Wrth son am gyflogau nodwyd fod person a fyddai’n trin toi gwellt yn cael wyth ceiniog y dydd ond pedair ceiniog os yn cael cinio gan y cyflogwr. Roedd saer yn ennill swllt y dydd ond dim ond chwe cheiniog os cai ei ginio a llafurwr ar chwe cheiniog y dydd neu dair os yn cael ei ginio. Roedd garddwr Brynddu yn ennill tair punt a chweigian y flwyddyn ond yr afalyddes a gai’r swm mwyaf o bedair punt y flwyddyn.

Hefyd cyflwynwyd gwybodaeth am bêl droed, yn benodol y gystadleuaeth rhwng Llanbadrig a Llanfechell, yn cychwyn o Dyddyn Ronwy. Y gamp oedd i dîm Llanbadrig gael y bel i Eglwys Llanbadrig ac i dîm Llanfechell ei chael i sgwar y pentref. Cynhaliwyd y gemau hyn ym mis Mawrth ond roedd son am un gêm ym mis Ebrill 1734 aeth ymlaen am bedair awr gyda chynulleidfa o bedwar i bum cant yn gwylio. Yn anffodus nid oedd gwybodaeth am y canlyniad.

Wrth werthuso’r noson, gwelir fod y cyflwyniad wedi ei gynllunio yn berffaith ar gyfer y gynulleidfa sef Cymdeithas Hanes Machell. Gwelwyd yn glir beth oedd cyfoeth yr hanes oedd ar gael a’r budd ddaw o ymrafael a’r pwnc. Roedd y brwdfrydedd yn heintus ac yn ysgogiad i’r gymdeithas.










Y Parchedig Dafydd Wyn William yn Ysgol Llanfechell

Rhan o'r cyflwyniad

Llanfechell

Ceir yr enw ‘Ecclesia de Llanvechyll (Eglwys Llanfechell) ei gofnodi yn 1291.

O archwilio Map y Degwm, Llanfechell, 1841 ceir bod –

45 o dyddynnod rhwng 1   a    4  erw

27           “             5   a   10           “

22           “             11   a   20         “

12           “             21   a   30         “

12           “             31   a   40         “

 3           “              41   a   50        “

 5           “              51   a   60        “

6           “               61   a  100        “      - sef Bwlch, Bryn-du, Plas Y Mynydd

                                                                  Mynydd Ithel, Cefn Coch,

                                                                   Bodelwyn Uchaf.

 3           “             101   a  150        “            Bodeiniol, Y Wylfa, Groesfechan.

 2           “             151   a  200        “            Cafnan, Cromlech.

 1           “                      300         “             Coeden.

Heblaw’r tyddynnod hyn ceid nifer yn rhagor gyda llai nag erw o dir-

Cae Gors, Carreg Y Darren, Gors Y Rhyd, Tŷ Newydd, Wern, Gardd Y Bedd

Hafn Y Much, Ty Llwyn.

Amaethyddiaeth oedd prif ddiwydiant y fro.


Y Pentref

Y degfed o Ragfyr 1749, yn dilyn llifogydd, defnyddiwyd, meddai William Bwcle o’r Brynddu, dri cheffyl i gludo pobl trwy’r afon i Eglwys blwyf Llanfechell.

 Because the Bridge over the River that runs thro the Village was not confined to its own bed ‘till the next day at noon.

 Dyma ddisgrifiad cynnil o Lanfechell, sef pentref ac afon yn nyddu drwyddi a phont dros yr afon honno, Meddanen. Ceir yr enw ‘Bachanen’ mewn gweithred yn Llanfechell yn 1487 yn ddisgrifiad o dir. Y mae’r ffurf yma yn cadarnhau mai Maddanen fyddai enw’r afon sy’n llifo drwy’r pentref. Yn sicr mae perthynas rhwng y ddau enw Bachanen a Maddanen.

 Gerllaw’r  eglwys yr oedd croes (roedd honno, meddai’r dyddiadurwr wedi cwympo 23 Gorffennaf 1734), rheithordy, ysgubor degwm (Tythe barn- dyddiadur 28 Mehefin 1760), mynwent, gardd a elwid Gardd yr Aner (Gardd y dyn crefyddol), bwthyn a elwid Tanyfynwent, Pen-y-dref (y llythyrdy presennol), Plas-yn-Llan (tafarn) a marchnadle (lle saif y cloc mawr heddiw) ac un neu ddau o fythynnod a thai eraill yn cynnwys yr hen dŷ a adweinir yn Siop Newydd (y tu ôl i Pen-lan sy’n dŷ diweddar). Dros yr afon yr oedd Barn Hill (Tŷ Tros yr Afon). I’r cyfeiriad arall yr oedd Pen-y-bont a Brocket Hall ( lle mae Glan Aber a Phreswylfa heddiw). Pentref bychan oedd Llanfechell- yn cynnwys tua deg o dai.


Marchnad a Ffair Llanfechell                                                             

Rhwng 1734 a 1760, cyfnod dyddiadur William Bwcle, cedwid marchnad wythnosol yn Llanfechell ynghyd â phedair ffair flynyddol - 14 Chwefror, 25 Gorffennaf, 25 Hydref a 15 Tachwedd (Gŵyl Mechell Sant). Os digwyddai i un o ddyddiadau’r ffeiriau ddisgyn ar ddydd Sul, fe’i symudid i’r diwrnod dilynol (dydd Llun).

 Ar sgwâr y pentref, gerllaw'r eglwys, y cynhelid y marchnadoedd a’r ffeiriau. Cofier bod y sgwâr gynt yn fwy o faint a rhai o’r tai ar yr ochr ddwyreiniol heb eu hadeiladu.

 Ar gyfer prynu cig ffres y cyrchai William Bwcle yn bennaf i’r farchnad- cig dafad (mytn) neu gig llo(veal). Yn achlysurol prynid gig eidion, cig myn gafr, cig mochyn ac ambell dro fenswn (venison). Cyflenwi anghenion trigolion y plwyf a’r ardal oedd diben y marchnadoedd.

 Ond diben y ffeiriau oedd creu cyfle i werthu ac i brynu anifeiliaid, hynny gan bobl o ardal eang. At hyn gwerthid a  phrynid ynddynt pob math o nwyddau- pres (brass), piwtar, esgidiau, hetiau, brethyn gwlân a lliain, lledr, menig, hosanau a ‘the showy wares of Pedlars’, cig, hadau, haearn, ysgolion, ceir llusg a phob math o bethau eraill.

 Yn ffair Hydref 1751 gwerthwyd par o ychen yn Llanfechell am £11.5s. Yn yr un ffair bedair blynedd yn ddiweddarach prynodd y dyddiadurwr ei hun bedwar bustach am £22. Yn amlwg, roedd bri mawr ar Lanfechell pan gynhelid ffeiriau yno a thyrrai llawer o bobl iddynt.

                  

***********************************************************

Yn ôl i frig y dudalen


 Addysg yn ôl dyddiaduron William Bulkeley- Y Parch Emlyn Richards




Diddordeb a Chyfraniad William Bwcle i Addysg

         Y 18 Ganrif oedd oes aur yr Uchelwyr ac yn y ganrif hon y cafodd y werin, a anwybyddwyd cyhyd, gryn sylw.  Cawsant sylw neilltuol iawn gan fudiadau addysgiadol a chrefyddol.  Yn y ganrif hon yr oedd addysg y tlawd yn rhan bwysig o elusengarwch crefyddol.  Yr oedd sefydlu ysgolion yn fynegiant ac yn arwydd amlwg o elusengarwch.  Cododd Ysgolion Elusennol fel y ffurf fwyaf dewisol o gymwynasgarwch.  I’r dosbarth isaf, dyma’r unig gyfle i gael tipyn o addysg ffurfiol.  Ysgolion Eglwys Loegr oedd y rhelyw o’r ysgolion hyn, person y plwyf oedd y prif gymeriad yn yr oll weithgaredd fel rheolwr ac fe berthynai’r ysgolfeistri yn ddieithriad i’r Eglwys.  Rhan ganolog yr addysg fyddai dysgu’r Beibl, Llyfr Gweddi a’r Catecism.  Mi elwodd plwyfi Môn yn fawr ar gyfraniad a chymwynasgarwch y Deon John Jones - Deon Bangor.  Yr oedd o wedi sefydlu ambell ysgol cyn dyfod o’r SPCK ym 1699.  Yr oedd John Jones a anwyd ym Mhlas Gwyn Pentraeth ym 1650 yn addysgydd a hynafiaethydd gwych.  Merch y Chwaen Isa’ o Lantrisant oedd ei fam.  Fe’i penodwyd yn ohebydd yr SPCK, ac yn arloeswr mawr yr ysgolion elusennol yng Ngogledd Cymru, sylfaenodd a chefnogai’n ariannol ysgolion yn y plwyfi y bu ynddynt a threfnai mai yn Gymraeg y dysgid Catecism Eglwys Loegr; dosbarthodd lyfrau Cymraeg ymhlith y plwyfolion a helpodd i sefydlu llyfrgelloedd plwyfol.  Fe gynnwys ei ewyllys roddion hael i blwyfi neilltuol at addysgu plant tlawd.  ‘Roedd hi’n anodd iawn rhoi addysg gyson i’r plant hyn am y byddai raid iddynt gerdded tai i fegera gan mor dlawd yr oeddynt.

       Dyma enghreifftiau o sefydlu ysgolion o gymhellion Cristnogol ym Môn.  Sefydlwyd ysgol yn Amlwch i fechgyn a genethod gan Eleanor Kynnier o Lundain ym 1689.  Bu i Richard Gwynne o Rydygroes ym mhlwyf Llanbadrig adael tyddyn o’r enw Nantglyn trwy ewyllys ym 1723, er mwyn rhoi addysg i blant tlawd o’r plwyf mewn ysgol ym mhentref Llanfechell.  Rhoddodd Blanche Wynne 40s y flwyddyn i ddysgu plant tlawd i ddarllen yn Llantrisant Môn ym 1733.  Syr Arthur Owen o Sir Benfro, a honnai o deulu o Fôn, oedd y gŵr a roes £4 i dalu i brifathro i ddysgu pobol ifanc yn yr iaith Gymraeg mewn ysgol a adeiladwyd yn Aberffraw ym 1735.  Sefydlwyd ysgol ym mynwent eglwys Sant Cybi, Caergybi gan y Dr. Edward Wynne Bodewryd - Canghellor Henffordd, gan ei gwaddoli â £120 ym 1748.

         Fel y gallasid disgwyl yr oedd llawer iawn o wendidau yn yr ysgolion hyn yn arbennig yn y trefniadau.  Ni dderbyniodd prifathro ysgol Caergybi dâl am dair blynedd o 1776 ymlaen.  Ceir cofnod o ysgol Llanfechell eu bod heb brifathro ac yn methu’n lân a chael un.  Yr oedd yn amlwg gydag amser fod yr ysgolion elusennol mewn cryn drafferth, dim ond rhyw ddwsin o blwyfi a wasanaethent ym Môn a d’oedd yr arian a waddolwyd iddynt ddim digon i’w rhedeg a’i chynnal.  Bu raid ceisio cadw at rifau a therfynau a osodwyd gan y cymwynaswyr.  D’oedd yna ond 58 o blant yn y pum ysgol a sefydlwyd gan y Deon Jones a’r ysgol yng Nghaergybi, ac addysg bur elfennol a chai’r plant ynddynt.

         Fe lanwyd y gwagle yma gan yr ysgolion cylchynol a ddefnyddiai’r Gymraeg fel cyfrwng dysgu.  Griffith Jones a ddaeth yn berson Llanddowror ym 1716, yw’r gŵr a ddaeth i’r adwy yma.  Daeth y cynllun hwn yn un o’r llwyddiannau mwyaf yn hanes addysg yng Nghymru.  Yr oedd Griffith Jones yn argyhoeddedig nad oedd pregethu ynddo’i hun yn fodd i iachawdwriaeth ac apeliodd i’r SPCK am stoc o Feiblau Cymraeg i ddysgu oedolion ei blwyf i ddarllen.  Yr oedd Griffith Jones yn llawn angerdd dros achub eneidiau’r tlawd.  Heb os yr oedd yn athrylith fel trefnydd a llwyddodd i gyrraedd pob cornel o Gymru gyda’i ysgolion.  Lledaenodd yr ysgolion hyn yn gyflym ryfeddol oherwydd eu natur gylchynol a byrhoedlog.  Yr oedd eu nodwedd grefyddol gyfyng yn adlewyrchu ymrwymiad Griffith Jones i’r Eglwys sefydledig.  Erbyn 1746 ar waetha pob gwrthwynebiad sicrhaodd yr ysgolion hyn eu lle yn Sir Fôn.  O fewn blwyddyn yr oedd ym Môn unarddeg o ysgolion wedi eu sefydlu gyda 522 o blant.  Dyfeisiodd Griffith Jones gynllun i ddefnyddio athrawon teithiol oherwydd yr anhawster i gynnal ysgol ym mhob plwyf.  Byddai’r athrawon teithiol a llawer offeiriad yn cynnal dosbarthiadau yn eglwys y plwyf am gyfnod oddeutu 3-4 mis yn ystod yr Hydref neu’r Gaeaf pan fyddai gan deuluoedd amaethyddol fwy o amser ar eu dwylo.  Fe geid adroddiad blynyddol o nifer yr ysgolion a rhif y disgyblion dan y teitl Welsh Piety.

        Un selog iawn dros yr Ysgolion Cylchynol hyn oedd Thomas Ellis person Caergybi - offeiriad byw a gweithgar, selog dros gael Beiblau Cymraeg i’w blwyfolion.  Dyma fel yr ysgrifenna William Morris i’w frawd Richard ar 3ydd Hydref, 1748 yn dangos yr hinsawdd ym Môn; ‘Ni bu erioed y fath dro ym Môn am lyfrau, fe fu agos i boblach dynnu llygaid Mr. Ellis na chai’r tlodion y llyfrau yn rhad.’  Dyma lythyr eto gan William Morris i’w frawd Richard eto yn Chwefror 22, 1749; ‘Mr. Ellis had a school for a half year about 60-70 children taught to read…Mr. Ellis is tired in battling the Methodist.’

        Yr oedd dyfodiad yr Ysgolion Cylchynol yn cydredeg â chynnwrf y Methodistiaid a’i gweithgareddau a oedd erbyn hyn yn gryn ddylanwad ym Môn.  Ym mis Hydref, 1748 pregethodd Howel Harris i gynulleidfa o 2000 ar groesffordd Penygroes yn Rhosmeirch  ger Llangefni.  Erbyn 1749 fe gyfrifid Peter Williams, Howel Harris a Howel Davies fel prif athrawon y Methodistiaid ac ‘roeddynt yn fywiog iawn yn Llangefni, Llanbedrgoch, Llanfair Mathafarn Eithaf a Llangeinwen.  Casglwn oddi wrth lythyrau'r Morisiaid fod y Methodistiaid yn gryn dipyn o ddraen yn ystlys yr Eglwyswyr; yr oedd cyffro crefyddol i’w deimlo drwy’r Ynys.  Gwnaeth Thomas Ellis Caergybi ei wrthwynebiad i’r Methodistiaid yn eithaf clir trwy gyhoeddi llyfryn ym 1746 - ‘Byr Grynhoad eglur o’r Grefydd Gristnogol ynghyd â gair o gyngor ag addysg mewn perthynas Schismaticiaid sy’n ymneilltuo oddi wrth Eglwys Loegr.’

        Mae hi’n anodd gwybod i ba raddau y trodd ysbryd gwrthglerigol a gwrth-babyddol William Bwcle yn gydymdeimlad â’r Ymneilltuwyr.  Mae’n wir mai ef oedd yr unig Ynad Heddwch i roi gwrandawiad teg i sectau am drwydded i addoli.  Yn ôl William Morris bu i William Bwcle ysgrifennu llyfryn mewn ateb i lyfryn Thomas Ellis person Caergybi yn erbyn y Methodistiaid, gwêl (M.L.1, 107).  Nis argraffwyd y llyfryn hwn, dim ond rhannu copïau llawysgrifau ohono hyd y Sir.  Bu raid i’r person ysgrifennu llyfryn eto a’i argraffu ar unwaith.  D’oes dim tystiolaeth bendant dros lyfryn William Bwcle er nad yw hynny yn sail dros gredu nad oedd ei gydymdeimlad yn hael â’r Methodistiaid.  Credai’r Dr. Thomas Richards nad oedd gan Sgweier y Brynddu ronyn o gydymdeimlad â’r Methodistiaid - ‘hoced oedd ei gydymdeimlad tybiedig â’r Methodistiaid, cael hwyl ar ben ysweiniaid a chlerigwyr drwy gogio bod yn Fethodist’.  Ond, mae’n anodd credu y byddai William Bwcle o neb yn ysgafala ynglŷn â mater a olygai gymaint iddo.  Go brin fod modd torri’r ddadl yn derfynol.  Dyma fel y cofnoda William Bwcle yn ei ddyddiadur am Awst 30, 1748 - ‘…was to day to visit the Circular Charity School that is kept at the time in Caban House where there used to be about 20 children, after these (being these children of the neighbouring parishes) are taught to read Welsh, which they will perfectly well in 6 months, they are taught the Church Cattechism and the Explanation of it, and reading of the Old and New Testament, they are likewise taught to write; this Charity is chiefly supported by South Wales Gentlemen and Englishmen.  The clergy are generally all against these circular schools and do all they can to depreciate them calling them the Nurseries of the Methodists; but they keep their ground in several parts of the country in spite of all the resistance they give them.’  Fe gadarnheir hyn gan Thomas Kelly yn ei lyfr - ‘Griffith Jones Llanddowror’ - (1950); yr oedd cenhadon Griffith Jones dan gryn amheuaeth yng Ngogledd Cymru o fod yn Fethodistiaid.  Yn ôl y Welsh Piety (1741-42) - ‘In certain villages schoolmasters had been most barbarously abused.’  O ganlyniad i’r cam-drin yma fe darddwyd ar y gwaith o sefydlu ysgolion yn y Gogledd.  Ond ni olygai hyn fod y personiaid i gyd yn wrthwynebus i’r Ysgolion Cylchynol.  Yn wir bu’r rhelyw ohonynt yn barod iawn i agor yr Eglwysi i’r ysgol ac i roi eu gwasanaeth yn rhesymol o rad.  Yr oedd person Llanfaethlu - y Parch Humphrey Jones yn gefnogol iawn i’r Ysgolion Cylchynol.  Dyma a ysgrifenna yn yr Adroddiad - ‘We have upwards 50 schools, and when they came to school scarce one of them know a letter yet in less than two months a great many of them could read perfectly.’ (Welsh Piety 1746-7).

         Yr oedd Dr. Edward Wynne Bodewryd yn gefnogol iawn i’r ysgolion hyn hefyd ac yn awyddus i bobol ifanc gael addysg i’w dofi dipyn.  Noddai Dr. Wynne yr ysgol y bu Thomas Ellis droi Capel y Bedd wrth Eglwys St. Cybi yn ysgol a agorwyd yn 1748.  Roedd yn yr ysgol hon 70 o blant.  Dyma William Morris yn ysgrifennu at ei frawd Richard ar Fai 1752 - ‘Oni fyddai hyfryd gennych a chawn bob Cymro diledryw (genuine) weled yn yr ysgol yma, sef ym mhlwy Cybi ddod 40 i 50 o blantos tlodion yn cael eu haddysgu yn rhodd ac yn rhad i ddarllen yr hen Frutaneg druan ag i ddeall egwyddorion eu crefydd.’ (ML 1: 174. May 7, 1754).

         Bu i’r Ysgolion Cylchynol hyn wasanaethu Môn, ei phlant ac oedolion am dros 30 mlynedd (1746 - 1777). Yn ystod yr amser yma bu i 435 o ysgolion gwahanol gael eu cynnal mewn Eglwysi plwyf a mannau eraill mewn 71 o ardaloedd gwahanol.  Yr oedd y llwyddiant yn rhyfeddol gydag asbri amlwg yr offeiriad.  Am y tro cyntaf yn hanes Môn fe grëwyd cenhedlaeth o ddarllenwyr a ddangosodd fwy o barch at grefydd ac at dduwioldeb.  Dyma fel yr ysgrifenna David Pretty - ‘Yn ystod y 18 Ganrif fe gysylltid addysg y tlawd yn gynhenid a greddfol wrth syniad crefyddol - “dyngarwch o elusengarwch”.’  Pan ddaeth yr ysgolion i ddiwedd disymwth yn 1777 fe adawyd gwacter enbyd ym maes addysg.  Fe anwybyddodd yr offeiriad y cyfle i lenwi’r gwacter ond fe fanteisiodd y Methodistiaid ar y cyfle yna.  Ond chafodd William Bwcle o’r Brynddu ddim byw i weld tynged yr ysgol ar ôl Griffith Jones Llanddowror.


Cefnogaeth William Bwcle i Addysg









Dyna yn fras ac yn frysiog gefndir cyfnod William Bwcle yng nghanol y 18 Ganrif.  Ar gyfrif ei gymeriad a’i natur arbennig bu cyfraniad y bonheddwr hwn yn rhyfeddol i ddiwylliant a dysg y cyfnod.  Yr oedd ynddo’r ddawn brin honno i fod yn gwbl gartrefol yng nghwmni’r werin dlawd yn Llanfechell.  Ai’n aml i dai’r crefftwyr o gwmpas ei gartref i yfed eu cwrw a thalu amdano er rhoi cymorth iddynt.  Ar ddechrau’r flwyddyn newydd gwahoddai ei holl weision a’r morwynion i’r tŷ a threuliai pawb noson lawen ar aelwyd y plas.  Yr oedd William Bwcle yn deall bywyd y distadlaf o’i weision ac â chalon garedig yr uchelwr ar ei orau, enghraifft, chwedl Thomas Parry o’r hen bendefigion Cymreig cyn iddynt Seisnigeiddio.  Dotiwn ato’n ymgymysgu’n rhydd â haen is y werin ac o ran chwaeth yn gwbl wahanol iddynt.  Eto gallai droi efo personiaid y plwyfi cyfagos a chyfeiria at Lewis Morris a William Morris ei frawd, ymysg ei bennaf cyfeillion.  Yr oedd ar y telerau gorau â gŵyr y teitlau a'r tiroedd fel y cyfeiria yn ei gofnod yn ei ddyddiadur am Nos Calan 1754 ac yntau yn Llys Dulas cartref William Lewis ei frawd ynghyfraith... ‘a good company of neighbouring clergy and substansial  freeholders at dinner and made merry till four in the night.’  Ar sail hyn nid rhyfedd fod gan fonheddwr y Brynddu ddeall a gwybodaeth am angen y werin dlawd hon a’i harweiniodd i roi pob cefnogaeth i ysgol ac addysg yn arbennig yn Llanfechell ac ym Môn yn gyffredinol.  Ces y fraint o adnabod dau o’i ddisgynyddion - William Grove-White a Robin Grove-White ei fab, dau ac ynddynt nodweddion a natur William Bwcle.  ‘Rwy’n cofio ysgrifennu araith Gymraeg fer i Bill i gyflwyno Cledwyn Hughes mewn cyfarfod etholiad yng Nghemaes - anghyffredin i Sgweier y Brynddu!  Ac fe wyddom i gyd am agosrwydd Robin a Helen Grove-White at bawb yn yr ardal ac yn agor eu drws i ‘riff-raffs’ fel chi a fi!  Yn ras-gyfnewid hierarchaeth y Bwlcliaid diolch fod y baton yn llaw Robin a Helen noddwyr gwych i’r diwylliant Cymraeg.  

Rhaid cadw mewn cof, gan fod Môn mor ddiarffordd yn y 18 Ganrif, nid yw dyddiaduron bonheddwr y Brynddu yn ddarlun hollol gywir o fywyd Cymru gyfan cyn y Diwygiad Methodistaidd.  D’yw bywyd aelwyd y Brynddu ddim yn adlewyrchiad cywir o fywyd teuluoedd eraill o’r un radd yn y Sir.  Yr oedd dylanwadau Saesneg wedi treiddio’n ddwfn i lawer ohonynt.  Ond teimlwn fod yr awyrgylch Gymreig yn y Brynddu, ac mae’n amlwg mai Cymraeg oedd iaith gysefin y person.  Cafodd y plwyfolion gryn sioc y nos Sul honno ar Fedi 17, 1758 pan bregethodd y person newydd - John Evans, ei bregeth yn Saesneg!  Fe gofnododd William Bwcle yn ei ddyddiadur ar y pryd - na fyddai yn cofnodi’r un gair o’i bregethau o hyn ymlaen!  Yn Gymraeg yn naturiol yr ymgomiai William Bwcle â’r werin yn eu tai ac ar y pentref ac ar aelwyd y Brynddu wrth osod rhai o dyddynnod y stad.  Cymraeg yw enwau’r caeau a’r gwartheg ond roedd y ceffylau radd yn uwch a chaent hwy enwau Saesneg crand.

Wrth ddilyn datblygiad diwylliant ac addysg fe sylwn ar gyfraniad neilltuol y tai bonedd mewn nawdd dros y blynyddoedd. Yr oedd nifer ohonynt yn cynnal telynor neu fardd teulu, casglai eraill lawysgrifau gan drosglwyddo adnodd gwerthfawr i ysgolheigion ein dyddiau ni.  Yr oedd rhai aelodau o’r teuluoedd bonedd yn medru trin y cynganeddion eu hunain ac eraill yn barod iawn i noddi ysgolheigion lleol a chefnogi mudiadau diwylliannol.  Mae enwau rhai o’r tai neu’r plastai hyn yn dal i sefyll dros nawddogaeth wâr i’r diwylliant Cymreig, megis Sycharth, Llanofer, Peniarth, Gwysane a Garthewin.  Beth am ychwanegu Plas Penucha Caerwys, Cartre’ Thomas Jones o Ddinbych sydd wedi noddi llên a chân dros nifer hir o flynyddoedd ac sy’n parhau i wneud hynny o hyd.  Ac fe ychwanegwn ninnau gyda balchder y Brynddu Llanfechell a’i ddrws ar agor o hyd i noddi’r gorau yn ein diwylliant.  Oedd yn siŵr, yr oedd yn William Bwcle gyneddfau’r llenor yn gryf.  Sonia Lewis Morris ei fod yn copïo llawysgrifau Cymraeg mor gynnar â 1726 ac fe anfonodd englynion iddo gyda thannau telyn yn yr un flwyddyn.  Fe gyfeiria Lewis Morris at - ‘Llyfr Bodelwyn’ lle y rhestrir; ‘The most noted Poems in William Bulkeley of Brynddu’s Collection’.  Yr oedd David Williams Bodelwyn yn gymydog ac yn ffrind da i William Bwcle.  Yn 1745 fe luniodd Lewis Morris restr o lawysgrifau; ‘Account of Manuscripts in Wales’.  Fe noda ynddi sawl cartref hyd a lled y wlad lle y cafodd gyfle i lygadu’r trysorau llenyddol.  Y plastai hynny ym Môn a fyddo o ddiddordeb i ni, a dyma nhw;  Llanddyfnan ym mhlwyf Llanddyfnan, Y Brynddu ym mhlwyf Llanfechell, Bodewryd ym mhlwyf Bodewryd a Dronwy ym mhlwyf Llanfachraeth.  Fe gyfeiria hefyd at, ‘other smaller collections’ - David Williams Bodeulwyn, John Owen Presaeddfed, Huw Huws o Landyfrydog a Dr. Richard Evans o Lannerchymedd. Yn ôl M.L.II.838 yr oedd gan William Bwcle gasgliad reit helaeth o lawysgrifau rhai wedi eu copïo a rhai o’i waith ei hun.

Cofier hefyd am gerdd Lewis Morris – ‘Cywydd i yrru’r Falwen yn Gennad at William Bulkeley o’r Brynddu ym Môn yn y flwyddyn 1730.’  Yn y cywydd priodolir iddo fedr ar brydyddiaeth Fyrsil a Horas yn ogystal â Gruffudd Grug a Dafydd ap Gwilym.

Y mae digon o enghreifftiau a dystia fod gan William Bwcle ddiddordeb ymarferol yn yr iaith Gymraeg ac yn arbennig addysg i blant ac oedolion yn enwedig y tlawd a’r difreintiedig.  Yr oedd yn ddyn diwylliedig iawn ac ni ddylid cymryd ei feirniadaeth o bregethau’r person - Richard Bwcle i olygu nad oedd berthynas dda rhyngddynt.  Yn siŵr, fe gai’r ddau sesiwn digon buddiol wedi’r oedfa ar nos Sul.  Yr oedd yr offeiriad yn gryn ysgolhaig a bu’n cynorthwyo Richard Morris i ddwyn allan yr argraffiad o’r Beibl a gyhoeddwyd yn 1752.  Dyna a ddywed William Morris am y person yn un o’i lythyrau i’w frawd Richard Morris - ‘hen ŵr mwyn, diniwed, cywrain, cwrtais, Cymro gorau ym Môn mae’n debyg.’  Bu’r gwmnïaeth gyson â’i gilydd yn foddion i hogi meddyliau.  Dyma eitem o ewyllys y Parch Richard Bwcle luniwyd yn 1757, flwyddyn cyn ei farw; ‘I give and bequeth to my nephew Robert Bulkeley the Chest with R.B. on, my own writing desk & bookcase.  My books and one hundred pounds in Money inclusive of what I promised towards his education and to University.’  Mae’n amlwg fod Richard Bwcle’r person yn fwy cefnogol i addysg na dim arall.  Yr oedd nythaid lengar o dri o fewn cylch y Brynddu, tri yr oedd ynddynt gyneddfau’r llenor - William Bwcle o’r Brynddu, Richard Bwcle’r person a David Williams Bodelwyn o fewn tafliad carreg.  Nid rhyfedd fod cefnogaeth dda i ysgol ac addysg yn Llanfechell.  William Bwcle yn unig o’r tri a ymddiddorai mewn casglu llawysgrifau.  Fe gysylltir ei enw â llyfr Gwyn Mechell - casgliad gwerthfawr o farddoniaeth Gymraeg o’r 15 Ganrif, 16 Ganrif a’r 17 Ganrif.  Cred Dafydd Wyn William mai Lewis Morris fu’n cymell y sgweier i gopïo llawysgrif hon LL.G.C. 832E sef Llyfr Gwyn Mechell.

Yn ei dro elai sgweier y Brynddu drosodd i Ddulyn a phan yno yn Hydref, 1735 bu droeon yn y ‘Play House’ yn gweld - ‘The Beggar’s Opera, The Tragedy of Dan John, Tamarlane, The Royal Merchant a Harry the 4th’.  Prynodd hefyd, ‘4 volumes of the Arabian Tales’ a ‘Salmon’s Chronological History, Clark’s Paraphrase on the 4 Gospels, 2 vol 8vo, a Lock’s paraphrase & notes on St. Paul’s Epistles.  Yr oedd William Bwcle yn ddarllenwr trwm rhyfeddol.

         Yr ydym yn ddyledus iawn i Charles Parry o’r Llyfrgell Genedlaethol am olrhain yn ddyfal restr o danysgrifwyr, amryw o lyfrau Cymraeg / Cymreig ei ddydd ac enw William Bwcle yn amlwg yn eu mysg.  Dyma’r gweithiau y tanysgrifiodd y dyddiadurwr iddynt;

Lewis Morris:                                     Plans of Harbours (1748)

Peter Nourse:                                     Athrawiaeth yr Eglwys (1731)

Henry Rowlands:                                Mona Antiqua Restaurata 1723

Henry Valentine:                                 Defosiwnau Priod

Dafydd Jones:                                    Blodeu-gerdd Cymry

Richard Farrington:                            Twenty sermons upon the following subjects...

John Parry a Evans Williams:              Ancient British Muscl 1742

Ysgrythiadau 54 mewn nifer ar gyfer y Llyfr Gweddi.

         Y mae’n gwbl naturiol y byddo bonheddwr mor llengar â William Bwcle yn fawr ei sêl dros addysg plant anghenus ei ardal a bu yn amlwg ei gefnogaeth.  Er mai prin yw’r cyfeiriadau yn y dyddiadur at ysgol ac addysg eto mae’r cyfeiriadau a geir yn rhai hynod o werthfawr ac yn brawf o’i ddiddordeb a’i gefnogaeth.  Yn wahanol i sgweieriaid ei ddydd, canol y 18 Ganrif, yr oedd gan William Bwcle ddiddordeb byw iawn ymhob agwedd o fywyd ei gymuned ei hun, ac nid rhyw asiant dieithr a osodai ffermydd a thyddynnod y stad a thrwy hynny daeth i adnabod ei gymdogaeth yn ddigon da i alw’r trigolion wrth las-enwau.  Pan ddeuai plant yr ardal at ddrws y Brynddu i glapio am wyau Pasg nid y forwyn a’i croesawai ond y Sgweier gan eu cyfarch wrth eu henwau gan roi swm anrhydeddus o 1s iddynt yn brawf o’i ofal dros yr anghenus.  Yr oedd ei gyned lengar a’i ofal o’r anghenus yn gymhelliad iddo hyrwyddo a chefnogi addysg yn arbennig i’r rhai hynny na allent mewn unrhyw fodd ei fforddio.  Fel y cofnoda ar Chwefror 3, 1751 ‘I gave £5 to a young man my distant relation, Owen Hughes the son of the late Mr. Bulkeley Hughes, Parson of Edern, who dying in a very poor circumstance, this lad was left to the wide world till my brother Lewis of Llys Dulas took him into his house and sent him to school where he was kept till now, that he is sending him to Cambridge’.


Darllen:

Griffith Jones – Circulating Schools in Anglesey: TAAS 1936 Tud. 94

 

A conspectus of Griffith Jones Schools in North Wales 1738-61

 

Bulletin of celtic Studies V.4 May 1931

 

Bywgraffiadur Cymreig; ‘William Bulkeley’ – Dr. Thomas Richards

 

‘Two Centuries of Anglesey Schools’: David A. Pretty

 

Anglesey – The Concise History – David A. Pretty

 

‘Hanes Cymru’ – J. Graham Jones (1994) Tud. 82-89

 

Bro’r Eisteddfod: 3 Ynys Môn (1983) Hen Ddyddiaduron: Helen Ramage

 

Baledi’r Ddeunawfed Ganrif: Thomas Parry – (1935)

 

The Life and Work of Griffith Jones, Llanddowror: F. A. Cavenagh

 

Griffith Jones, Llanddowror 1950: Thomas Kelly        

     Yn ôl i frig y dudalen


***********************************************************


Dyfyniadau addas o’r Dyddiaduron

 Tachwedd 12,1736   This day was buryed Thomas Lewis of Trefeibion- Meyrick (former of Brwynog) a great dealer in sheep and hays and late in Oxen and Cows & had acquired thereby a considerable fortune ....brought up seven children and one in the University...

 Ebrill 4, 1737    ...gave Ambrose Lewis of Trysclwyn 1s that went about to beg for eggs, as the custom of school boys is the week before Easter.

 Medi 30, 1737    On June 30, 1736- subscribed to a proposal of one Mr Lewis a painter from Shrewsbury for 12 of the most beautiful prospects in North Wales to be delivered by the first of May.

 Medi 30, 1737    Having about a year and a half ago subscribed for 12 Copper-plate prints, being prospects of several places in North Wales done by John Lewis of Shrewsbury, today I received them and paid him for the same 11.11s.6d.

 Chwefror 1, 1738    ...gave Rice Gray the harper that had been playing most nights since the holydays 6s.

 Chwefror 26, 1738    One Nicholas Oughton that teaches the people of Llanerchymedd to sing (Ysgol Gân) Psalms, came to this church to day with 15 of his scholars to sing that we of this parish might have a tryall of their singing (being about to employ him to teach here). He and his scholars were entertained by the parson and myself at dinner after evening prayer, treated them with some ale where I paid my 1s.

 Gorffennaf 1, 1738    A song sent me this day- ‘The Blind Boy’ pricked by Lewis Morris (hen nodiant).

 Ionawr 17,1739   Yesterday the election for an usher (teacher) for Beaumaris School when Lord Buckeley set up one Hughes of Denbighshire who is curate of Beaumaris. His old friends whom his father had got to be named Ffeofast flew in his face and put up young Vincent of Llanfachraeth a lad of about 19 and got him chose in opposition to the Lord.

 February 29 1740   Accident in Llanfechell today, Mr John Bulkeley of Gronant who kept a school in Llanfechell and lodge with William Mathews widow- had been drinking and merry with company till 10 o’clock- found dead in bed.

 Awst 27, 1740    John Bulkeley Bwchanan in 1715 wore my Livery; the year following he kept a little school at Llanfechell which was worth him perhaps 40s a year.

 Ionawr 20, 1714   ..gave Rhys Gray my old Harper 2/6 being father of four poor children.

 Ebrill 8, 1741    ...  gave 6d to a poor relation at Beaumaris School – (yno yn y Sesiwn Fawr)

 Mawrth 22, 1742   Delivered Mr Lewis Morris 4s to subscribe for the Welsh Musick & 5s to send to London to buy me a large reading glass.

 Gorffennaf 16, 1742    Paid 3s 6d for books from London.

 Tachwedd 17, 1742    Received to day the first rent of the tenant of Nantglyn to the use of Llanfechell School.

 Awst 26, 1748    This day I sent for Nancy Warmingham’s children and their cousins Tom Ellis of Dronwy’s children, being all of them my neighbour’s the Priest’s nephews and nieces and gave them 6d a piece to buy fruits.

 Awst 30, 1748    ..was to day to visit the Circular Charity School that is kept at the time in Caban House where there used to be about 20 children, after these, (being these children of the neighbouring parishes) are taught to read Welsh, which they will perfectly well in 6 months, they are taught the Church Catechism and Explanation of it, and reading of the Old and New Testament. They are likewise taught to write; this Charity is chiefly supported by South Wales Gentlemen and Englishmen. The Clergy are generally all against these Circular Schools and do all they can to depreciate them, calling them the Nurseries of the Methodists; but they keep their ground in several parts of the country in spite of all the resistance they give them.

 Tachwedd 28, 1748    Paid Abraham Jones 3d 11s being his salary at present for keeping the Charity School at Llanfechell.

 Ionawr 9 1749    Gave Richard Evans a Harper from Pwllhely these last days 2s

Ionawr 27, 1749    Today I sent Nancy Wright to Mrs Gold’s Boarding in Beaumaris along with her sister Grace and gave between them 2s 6d the other morning that must be laid out for Nancy in town.

 Chwefror 18, 1749    Sent by Alice Jones 9s 6d to William Morris to pay for my news papers.

 Mai 16, 1749    I went to Thomas Sion Rowland’s house (the fuller of Cefn Coch) who teaches Psalms singing in this parish and sings with them every Sunday and holy days. I went to his house I say where a great number of parishioners and some from other parishes had met to drink his ale and to give him what they thought proper- some more some less. I gave him 10s and 1s for Hugh ab William Gabriel a boy that attends the stable and who is going to him to be taught.

 Mai 29, 1749    Sent the girls to school and gave them 1s a piece.

 Awst 27, 1749    ..gave Owen my cousin Bulkeley Hughes’ son who’s at school here 1s.

 Awst 29, 1749   ...gave Jones the Dancing Master 10s 6d entrance money before Nancy Wright at the dancing school and delivered Mrs Gold one guinea to buy what she stands in need of.

 Ionawr 13, 1750    Gave 2s 6d to Owen Morris of Caernarvon the first Harper to offer himself & who for that reason I retained, but the worst, I believe as ever handled a harp.

 Ionawr 31, 1750   Sent the two girls to day to school and gave each of them three shillings sent by John Ifan who went along with them seven pounds to pay for Ann Wright’s board and schooling, besides 10s 6d to her mistress by way of a present gave him likewise 7s to bear their charges.

 Ebrill 11, 1750    Gave Owen Jones the son of Elizabeth ach William Mathew 1s who as a school boy came about to gather eggs before Easter.

 Mehefin 7, 1751    Mrs Gold having sent here notice that Miss Grace Wright was to go to very soon to Liverpool pursuant to an order from her grandmother. I sent her today to Beaumaris and gave her 2s 6d.

 Ebrill 12, 1754     Gave 8d to school boys that begged for eggs.

 Tachwedd 28, 1754     Paid Abraham Jones 3b 13s 10d being what is received at present from Nantglyn & left for teaching children from Llanbadrig at the town of Llanfechell.

 Ionawr 20, 1756    ...sent 9s 6d to Robert Evans of Llanerchymedd to pay for newspapers.

 Mawrth 5, 1756   ...gave 5s to William the son of John Hughes of Marian a blind boy that is learning to play the harp with Fowk Jones.

Mawrth 29, 1756   Sent 5s to pay for Irish News Papers

Ebrill 9, 1757    209 persons communicated this day (Easter) Gave 10s 6d – collection to the poor.

 Gorffennaf 6, 1757    ...burying of Mrs Morris of Rhydygroes – widow of late Richard Gwyn- who died September 1723. She married Thomas Morris –servant at Caerau.

 Mehefin 5, 1759    ..gave Richard Williams of Ty Newydd 1s who is at school at Bangor.


  ***********************************************************

Yn ôl i frig y dudalen


***********************************************************