Cymdeithas Hanes Mechell

Hafan


Addysg


Cegin Filwr


Anglesey Trading Company


Cyfweliadau


Brynddu a’r Dyddiaduron  


Yr Eglwys


John Elias


Ffair Mechell


Maes Mawr


Coeden


Melinau


Yr Oriel


Syr Owen Thomas


Y Feddanen

a’r Wygyr


William Jones,

Mathemategydd


Fortunatus Wright,

Herwlongwr


Jos Y  Crown


Cofeb Llanfechell


 Capeli Llanfechell


Ol cnydau yng Ngharrog

Yr Hen Lan

Enwau Lleoedd

Robert Williams, Blaenor

Swyddfa’r Post

Gweirydd ap Rhys

Demograffeg Llanfechell 1851 a 1901

Mynwent Llanfechell

William Bulkeley a thlodion Llanfechell






Fferm Coeden

gyda diolch i Mr Wyn Rogers a Mrs  Liz Rogers, Coeden

Cliciwch ar y lluniau i gyd i'w gweld yn fwy


Y Pla Du a Stent Môn

Coeden, Clegyrog a William ap Rhys ap Gwilym

Y Bwcleaid

Coeden a'r Bwcleaid

Colli Coeden

Coeden Heddiw

Cyflwyniad

Wedi ei leoli ar gyrion Llanfechell, sefyll Fferm  Coeden ar ei phen ei hun ynghanol coed - oherwydd hyn, mwy na thebyg, y fforddiwyd iddi'r enw Coeden. Ymestyn hanes Coeden mor bell yn ôl a’r  4ydd Ganrif ar ddeg.

Pleser yn awr yw mynd a chwi ar daith yn ôl i’r gorffennol.  Sut y cysylltir y lle yma i amser Llyfr Dydd y Farn?  Beth yw'r cysylltiad gyda Shakespeare?......

Beirdd Cynnar - y flwyddyn 1340

Carwn ddechrau'r daith drwy gyfeirio at farwnad gan Fab y Clochyddyn i Gwenhwyfar ferch briod Hywel ap Gruffudd o Goeden a merch annwyl i Madog, un o deulu brenhinol Powys. Yn y farwnad hon clywir canmoliaeth gan y bardd at ferch a ddangosodd groeso mawr i feirdd Cymru drwy eu gwahodd i Goeden i gynnal nosweithiau o gerdd a chan.  Sonnir yn y gerdd am fro Mechyll a’r Drym.  

Yr oedd Gwenhwyfar felly, yn wraig uchel iawn ei thras, ac nid yw’n syndod felly i’w chorff gael ei gludo'r holl ffordd o Lanfechell i’w gladdu yng nghangell tŷ’r Brodyr Llwydion yn Llanfaes. Yr oedd y safle hwn yn fan claddu poblogaidd iawn i uchelwyr Môn a’r cyffiniau yn ystod yr amser hwn, a chladdwyd merched eraill uchel ei statws yno, megis Siwan gwraig Llywelyn Fawr, i enwi ddim ond un.


Gwelir y farwnad hon  yn y law ysgrifen wreiddiol yn Llyfr Coch Hergest sydd i’w weld yng Ngholeg Iesu Rhydychen.

Arolwg

Dyddir hanes Coeden yn ôl hyd at adladd y Pla Du, ac ar ôl yr hunllef erchyll hon  yr oedd y wlad a’i thrigolion yn ymdrechu i wella.  Er bod cofnodion, a gyfeirir at yr Ystâd,  ond yn dyddio yn ôl i flwyddyn 1300, gallwn dybio fod ei hanes yn hyn na hynny.

yn ôl i frig y dudalen

*******************************************************

Y Pla Du

Nodir pwysigrwydd Coeden yn yr ardal mor bell yn ôl a’r flwyddyn mil, tri chant ac yn adladd y Pla Du, y salwch a ddifrododd y wlad - gan ladd dirifedi o ddynion, merched a phlant.   Amcangyfrir fod y salwch hwn wedi lladd 75 miliwn byd eang.


Stent Môn

Yn dilyn y Pla Du, comisiynodd y Brenin Edward III arolwg ‘crown Domesday’ a enwir yn Stent Môn. Yn ystod mis Medi yn y flwyddyn 1352,  daeth pobl dros yr ynys ynghyd i safleoedd penodol i gofnodi data.

Bu i John de Delves, Dirprwy Ynad Gogledd Cymru ar y pryd, grynhoi Stent Môn. Ceir yn y ddogfen fanylion am wasanaethau a rhenti a oedd yn ddyledus i’r Llywodraethwr gan ei thenantiaid yn ogystal â meddiannau'r tenant ym mhob cwmwd. Ystyrir y ddogfen hon yn un o'r rhai mwyaf gwerthfawr, ac yn ffynhonnell arbennig i hanes economi a bywyd  cymdeithasol yng Ngogledd Cymru....


Un o’r mannau nodedig  casglu data ar gyfer Stent Môn oedd Coeden (gwelir uchod). Dyma'r fan lle y cyflwynwyd a chasglwyd manylion holl faterion a gwasanaethau yn ymwneud a thir lleol.  Mae'r ffaith hon felly yn tanlinellu pwysigrwydd fferm  Coeden yn y cyfnod yma.

yn ôl i frig y dudalen

*******************************************************


Coeden, Clegyrog a William ap Rhys ap Gwilym

Arolwg

Roedd hawl tir a theitl yn rhywbeth i’w chwenychu yn ystod yr amser hwn ac yn gallu dilyn at dor calon  a ffraeo ymysg teuluoedd nodedig.  Weithiau, os oedd yr anghydfod yn ddigon llym, fe allai chwalu'r teuluoedd. Yn yr  adran hon edrychwn ar y cofnod cyntaf o drosglwyddo perchnogaeth rhwng dau deulu nodedig o’u math a’r canlyniad.

Anghydfod cyfreithiol

Roedd William ap Rhys ap Gwilym o Goeden Clegyrog yn byw yn yr ardal yn ystod teyrnasiad  Harry yr 8fed. Yn dilyn marwolaeth ei dad, Rhys ap Gwilym yn 1538,  etifeddodd yr ystâd.

Er iddo ennyn cryn dipyn o barch gan ei bendefig, roedd Rhys ap Gwilym yn gywilyddus o gynnil gyda’i arian. Aeth i mewn i anghydfod cyfreithiol gyda nai ei hun sef, Rhys ap Hywel ap Rhys. Daeth Rhys a achos cyfreithiol  ger bron, yn hawlio ei fod wedi cael ei wrthod o berchnogaeth bwthyn agos, a oedd yn ei dyb ef yn eiddo iddo. Ysywaeth, bu i’r nai golli'r frwydr.

Roedd ennill brwydrau cyfreithiol yn rhywbeth anochel wrth ystyried teulu Coeden Glegyrog. Dim ond 40 mlynedd yn gynharach yn y flwyddyn mil pum cant ac un, bu i hen daid William, Llywelyn ap Tudur gael ei erlyn gan Sais o’r enw Richard Hael yn Uchel Lys y Canghellor!!

William a'r Beirdd

Yn y cyfnod hwn, roedd yn arferiad i dai yn y rhanbarthau gynnig llety i feirdd er mwyn mwynhau eu gwaith a’i geiriau.  Fodd bynnag yr oedd pethau wedi newid ers yr adeg yr oedd Gwenhwyfar yn byw yng Nghoeden..........

Yn ôl yr hanes doedd yna ddim croeso i’r Beirdd yng Nghoeden. Deallir mai dymuniad Sionet gwraig William oedd hyn. Sir Harry Bold oedd ei hen Daid; ef oedd  sirydd Caernarfon. Symudodd y teulu i Gymru o Lerpwl yn  y flwyddyn 1400.  Dyfalwyd fod eithafiaeth gymysg Sionet yn golygu ei fod yn anodd iddi gofleidio'r arferion a thraddodiadau lleol.

Coeden yn y cyfnod hwn

Gan i ffotograffiaeth ddod i fodolaeth ganrifoedd ar ôl yr amser hwn, nid oes gennym luniau o’r Ystâd pan oedd hi o dan reolaeth teulu Coeden Clegyrog.  Er hynny, mae gennym ddisgrifiadau o sut, efallai, yr edrychai'r tŷ, a hefyd, yn ddiddorol beth oedd safonau glanweithdra'r teulu.......


'adeiladwyd eu cartref mewn dull ffram-goed arferol, plethwaith a phlastr, gyda tho gwellt wedi ei wneud â brwyn o gors Malltraeth’...


‘oddi mewn roedd yna dan mawn a oedd wedi ei gau i fynnu bob nos, a llifai haen o fwg llwydlas yn araf deg drwy'r to gwellt’...


 'yng nghymysg gyda drewdod y mwg, efallai y buasai'r trwyn gorsensitif modern wedi canfod arogl cryf o gorff heb ymolchi - oherwydd roedd yn hynod o amheus os y byddai William neu Sionet neu unrhyw un o’r 5 plentyn wedi cael bath  erioed….’


William, y Milwr

Yn ôl gwybodaeth o ffynonellau fel “Anglesey Musters”, roedd gan William hoffter tuag at arfau ac yn y blaen.  Deallir fod ganddo gasgliad helaeth o, arfwisgoedd, cleddyfau a hyd yn oed dagr. Roedd William, wrth gwrs wedi cael hyfforddiant milwrol, ac yn saethwr medrus, yn barod am yr alwad i fyned i frwydr.


William a Chrefydd

Er gwaethaf ei gariad at offer rhyfel, roedd William yn bell o fod yn  rhyfelgar a chymerodd gysur mawr yn ei grefydd.  Nodir ei fod yn flaenor yn ei gapel lleol gyda chred gadarn yn y ffydd Gristnogol.

“Mewn geiriau eraill, roedd yn ddinesydd da a oedd wedi byw ym mlynyddoedd cynnar y ddeunawfed ganrif ac roedd yn ben blaenor uchel ei barch yn ei Gapel neu yn Henadur o Gyngor Sir Môn.  Llywodraethodd ei ystâd fechan yn rhagorol a gadawyd hi yn llewyrchus, gyda chanlyniadau na allai hyd yn oed ef ei hun eu rhagweld.”


yn ôl i frig y dudalen


*******************************************************

Y Bwcleiaid

Yn ystod amser William, heb os y Bwcleiaid oedd un o deuluoedd mawr Môn. Cyfoeswr William oedd Sir Richard Bulkeley ac roeddent yn adnabod ei gilydd yn dda. Cafodd y ddau eu penodi yn aelodau o’r Comisiwn o unarddeg, a drefnodd yr asesiad a chasgliad o gymhorthdal o 37 Henry VIII (yr 37 mlwyddyn ei deyrnasiad)

Syr Richard Bulkeley

l      Wedi ei eni tua 1515 ym Maron Hill, Biwmares

l      Cyntaf anedig i Sir Richard Bulkeley o Fiwmares a Catherine Griffith o Benrhyn

l      Bu farw yn 1572  (57 oed)

l      Aelod Seneddol, dros Sir Fôn 4 gwaith

l      Etifedd i ystadau helaeth ym Môn, Caernarfon a Chaer


Priodas a phlant Syr Richard Bulkeley 111


Gwraig gyntaf:

Margaret Savage


Rhieni:

John Savage o Clifton

Elizabeth Somerset


8 o blant

-Richard Bulkeley

-John Bulkeley

-Thomas Bulkeley

-Rowland Bulkeley

-Charles Bulkeley

-Jane Bulkeley

-Daniel Bulkeley

-Margaret Bulkeley



2ail wraig:

Agnes Needham



8 o blant

Elizabeth Bulkeley

Mary Bulkeley

Arthur Bulkeley

Tristam Bulkeley

George Bulkeley

Edward Bulkeley

Lancelot Bulkeley

Grissel Bulkeley



Marwolaeth William- diwedd cyfnod

Rees Wynn ap William a etifeddodd yr Ystâd ar ôl marwolaeth William - ei fab hynaf.  Ond ar ôl marwolaeth Rees yn y flwyddyn 1570 -  doedd ganddo ddim mab i’w olynu.  Felly aeth yr ystâd i’w ferch hynaf,  Jane.

Dyma le mae pethau yn datblygu yn ddiddorol dros ben.

Erbyn yr amser i Jane etifeddu Coeden, roedd Richard Bulkeley, yr ail, ei fab hynaf o’i briodas gyntaf wedi marw, felly Richard Bulkeley y trydydd, oedd pennaeth y cartref.


Priodas a phlant Syr Richard Bulkeley lll



Gwraig 1af:

Catherine Davenport


2 o blant

 ElizabethBulkeley

Richard Bulkeley


2ail wraig:

Mary Borough


7 o blant

Catherine

Penelope

Elizabeth

Margaret

Thomas

         Merch (dim enw)

      Mab (dim enw)



Cipolwg ar Richard Bulkeley lll

l      Aelod Seneddol Môn tro cyntaf 1563.

l      Wedi croesawu Brenhines Elizabeth 1 yn Lewisham

l      Ei urddo yn Syr ar noson ei ail briodas i Mary Borough, un o forwynion y Frenhines

l      Roedd yn enwog am ambell i frwydr gyfreithiol dros hawliau tiroedd


Anghydfod yn y teulu

Bu Richard yn teyrnasu dros y teulu rhanedig yma gan ffraeo gyda’i lys fam  Agnes Needham.  Adroddir fod ei phlant yn ei gasáu, a bod ei blant yntau hefyd yn ei chasáu hithau!!


yn ôl i frig y dudalen


*******************************************************

Coeden a'r Bwcleaid

Roedd etifeddiaeth Coeden gan Jane yn gyfle da i deulu'r Bwcleaid - a’r cyfle yr oeddent wedi bod yn aros amdano.  

Yn awyddus i gael gafael ar yr ystâd fuddiol, lluniodd Richard gynllun………

Galwodd Richard ar ei frawd ieuengaf, sef John i ofyn i Jane o Goeden ei briodi - hyn er mwyn iddo gael gafael ar yr ystâd.  Ond yn anffodus i Richard, ymddengys fod Agnes wedi ei guro - oherwydd roedd Jane, Coeden wedi derbyn cynnig priodas gan ei lys frawd  Arthur …. yn amlwg doedd Richard ddim yn ŵr hapus iawn!!!    

Wedi ei ffyrnigo gan hyn, a Richard ddim bellach yn poeni am enw da'r teulu, aeth ymlaen i gyhuddo ei lysfam o ladd ei dad a ddilynodd mewn achos llys cyhoeddus iawn - lle cafwyd tystiolaethau cryf yn erbyn Agnes Needham.........     

   

Canlyniad yr achos

Yn ffyrnig i amddiffyn ei hun, gwrthododd Agnes Needham yr honiadau fel nonsens, ac mai ymgyrch gan ei llysfab oedd hyn i faeddu ei henw.  Ar ôl 3 mlynedd o gweryla cyfreithiol chwerw,  gollyngwyd y cyhuddiadau, a phriododd Arthur Bulkeley gyda Jane, a dod yn feistr newydd y Goeden.


Cipolwg o Arthur Bulkeley, gwr Jane, Coeden

l      Erbyn y flwyddyn 1590 Arthur oedd y tir feddiannwr mwyaf ar ochr orllewinol Môn

l      Yn ystod y flwyddyn hon daeth yn aelod o’r Comisiwn Heddwch.

l      Fei apwyntiwyd yn Uchel Siryf yn 1596

l      Bu  farw yn 41 oed yn y flwyddyn 1600

William Bulkeleys

Yn dilyn marwolaeth Arthur Bulkeley, fe drosglwyddwyd Coeden a Brynddu i’w fab hynaf sef William.  Yn ystod y blynyddoedd yn dilyn bu  5 cenhedlaeth o William Bulkeleys yng Nghoeden a Brynddu.  


William y Farf 1602-1682

Un o’r William Bulkeleys mwyaf enwog, arwahan i’r dyddiadurwr, oedd ŵyr Arthur. Cafodd yr enw William y Farf oherwydd ei fod wedi addunedu i beidio ag eillio hyd i’r frenhiniaeth gael ei hadfer ar ôl y rhyfel cartref.  Cafodd drafferthion gyda'i brotest, gyda lluoedd y senedd yn dod i'r Brynddu i’w restio - ond yn ôl pob son anfonwyd hwy oddi yno gan forwyn yn chwifio bwyell!! Aeth William i guddio ar ôl hyn.

Weithiau fe soniwyd amdano fel yn dod o ‘Coeden ac weithiau o'r Brynddu’ sydd yn awgrymu felly mai nid Coeden oedd y prif gartref erbyn hyn ond Brynddu.


Gwelir lun o beth sy'n ymddangos i fod yn gopi, a wnaethpwyd a llaw, o garreg fedd William y Farf.  

Dyma lun o’r hen dy ‘Coeden’. Tybed ai yn y fan hyn roedd William y Fafr y byw pan roeddent yn cyfeirio at Coeden yn y flwyddyn 1600?


Pigion o ddydiaduron William Bulkeley

l      “1736-Today I have people at work clearing the watercourses of Fynnon Trinculo in Coyden from the said well to the bridge.

l      1750 – Repairing bridge at Cae Lloriau due to flooding.

l      1751 – carrying lime from Cemaes came in by boat from Caernarfon to repair Barn and house at Coyden.”

l      “1753 Carrying gors, thorns, bracken & peat from Coyden for winter use. 2 Carts + 5 horses with panniers besides.

l      Carrying straw from Coyden to thatch houses at home, and servicing thatchery.”


Cysylltiad â Shakespeare

Enwodd y dyddiadurwr, William Bulkeley'r ffynnon yng Nghae Lloriau Coeden yn “Trinculo”  - ar ôl un o brif gymeriadau drama enwog William Shakespeare,  y Tempest. Yn anffodus ni chawn  fyth wybod pam y rhoddwyd yr enw Trinculo arni gan nad yw’r dyddiadurwr wedi rhoi unrhyw fath o eglurhad. Mae'r gair Trinculo wedi ei fabwysiadu o’r gair Eidaleg ‘trincare’ -  sef i ddiota - to tipple.  Yn ystod yr hafau poeth yn  1911, 1959 ac wrth gwrs 1976, roedd y ffynnon yn sych.


Llun o Coeden yn 1890

Tynnwyd y llun yma gan John Thomas yn 1890. Sylwch ar y coed sydd newydd eu plannu o flaen y tŷ a'r gweision i gyd o flaen y tŷ.  Hefyd sylwch ar y cloc uwchben y tŷ...


yn ôl i frig y dudalen


*******************************************************

Colli Coeden


Daeth diwedd perchnogaeth ystâd Coeden yn y flwyddyn 1897. Gwerthwyd Coeden er mwyn ariannu  adeiladu y gwaith briciau yng Nghemaes.   Darganfuwyd fod yna ormod o galch yn y clai felly death y fenter hon i ben ar ôl dwy flynedd.

Hanes perchnogaeth Coeden hyd at heddiw

1897 - William Bulkeley Hughes i J R Hughes (cyn denant) yn 274 acer am £5,500

1909 – J R Hughes i Robert Parry

1909 -  6 mis wedyn Robert Parry i J S Laurie

1921 – J S Laurie i Thomas Jones (Hen daid Wyn Rogers, y perchennog presennol)

1950 - Thomas Jones i Gruffydd William Jones ac Owen Jones ( Taid Wyn Rogers)

1982 -   Owen Jones  i Wyn a Liz Rogers. Mae  heddiw’n fferm o 146 o aceri     


Dogfen brisio Coeden

Gwelir o hen ddogfen brisio fod y fferm yn hunan gynhaliol - ‘ yn ogystal â’r adeiladau fferm arferol, roedd yma felin ddŵr, gweithdy’r gof, tŷ grawn, lle pobi ac yn y blaen.  Caiff y cyflenwad dwr, sef afon Meddanen, a gychwynnir  yn Salbri ei ddal yn y llyn yng Nghoeden cyn iddi ymdroelli ymlaen i Lanfechell.‘


Lluniau o weithdy'r gof


Llun o'r felin ddŵr sydd bellach wedi dymchwel


Gwerthu tir, 1909-1921

17 Tachwedd  1909 - Cae Mawr (Caeau Tŷ Bach) £700 17 acer

14 Rhagfyr     1909 - Bryniau Duon a Gadlas        £775 30 acer a thŷ

21 Rhagfyr     1910 – Cae Glas ( Ponciau Gleision) £220  26 acer

15 Chwefror   1911 – Cae Glas & Rhos Wthio (gweddill Ponciau Gleision) £320 34 acer  

18 Ebrill         1921 – Panygwydd 18 acer             £200

5 Mai             1921 – Cae’r Mynydd Llwyn Ysgaw  £325 17 acer

              

yn ôl i frig y dudalen


*******************************************************


Coeden Heddiw



A dyma ni wedi cyrraedd heddiw. Gwelwn fod y coed wedi tyfu ond sylwch absenoldeb y cloc. Yn ystod y cyfnod pan brynodd taid Wyn Rogers Coeden a’r amser iddo symud yno i fyw fe ddiflannodd y cloc !


A dyma ni a’n taith drwy’r oesoedd ar ben. Er y newidiadau diri dros y blynyddoedd - braf yw dal i allu  rhannu'r olygfa a welodd y beirdd yr holl flynyddoedd yn ôl, sef y lleuad uwchben y Drym. Does rhai pethau byth yn newid!!



yn ôl i frig y dudalen


*******************************************************