Cymdeithas Hanes Mechell

Hafan


Addysg


Cegin Filwr


Anglesey Trading Company


Cyfweliadau


Brynddu a’r Dyddiaduron  


Yr Eglwys


John Elias


Ffair Mechell


Maes Mawr


Coeden


Melinau


Yr Oriel


Syr Owen Thomas


Y Feddanen

a’r Wygyr


William Jones,

Mathemategydd


Fortunatus Wright,

Herwlongwr


Jos Y  Crown


Cofeb Llanfechell


 Capeli Llanfechell


Ol cnydau yng Ngharrog

Yr Hen Lan

Enwau Lleoedd

Robert Williams, Blaenor

Swyddfa’r Post

Gweirydd ap Rhys

Demograffeg Llanfechell 1851 a 1901

Mynwent Llanfechell

William Bulkeley a thlodion Llanfechell






Gyda diolch i Mr Nigel Thomas


Mynwent Llanfechell

Rhai Ystadegau

Davies

12

Parry

16

Evans

5

Price

15

Griffiths

5

Pritchard

10

Jones

41

Roberts

19

Lewis

8

Rowlands

9

Owen

40

Thomas

18

Owens

6

Williams

50

Mae 261 o feddi yn yr hen fynwent, gan gynnwys:


O wahanol ardaloedd-

Amlwch


Cemaes


Carreglefn / Llanbadrig


llanfcehell


…  a dwsinau o rai eraill o bellteroedd megis Batavia ac Awstralia ….


Symbylaeth y Meini Coffa

*****************************************************************************


Ysgwyd llaw- - ymadael a’r byd

Y Winwydden - Cristnogaeth

Y bys yn pwyntio-Llaw/Bys Duw

Y Llyfr- Y Beibl

IHS- Llythyrau yn cynrychioli’r geiriau Lladin-” In hoc signo vince”,sy’n golygu: “Yn yr arwydd yma byddwch yn gorchfygu.”



Y Golofn- Mae’r golofn gyfan yn golygu fod y person ymadawedig wedi cyrraedd oed llawn ond golyga colofn sy’n ymddangos wedi torri fod yr ymadawedig wedi marw cyn ei amser.

Y Gypreswydden - gobaith

Yr wrn - Mae’r wrn yn symbol o farwolaeth mewn hen hanes. Mae’r ddilladaeth yn symbol o orchudd sy’n bodoli rhwng bywyd a marwolaeth.


Mae pethau’n debyg o newid!!  -

Karl Marx, Mynwent Highgate

A hefyd !!!!! -

…. Dead!  Mynwent Dwyrain Highgate  


Meini Coffa diddorol ym mynwent Llanfechell

************************************************************************************

Hugh Owen Meistr yr SS Yola

Yr Yola

Y Llongddrylliad

…. Stemar wedi’ hadeiladu yn 1898 oedd yr SS Yola. Fe’i rhestrwyd yng Ngholledion Rhyfel Lloyd - Y Rhyfel Byd Cyntaf- fel llong a aeth ar goll wedi iddi hwylio o Efrog Newydd, 26 Ionawr 1917 tua Llundain gyda llwyth o wenith.

Yn yr achos yma, credwyd yn ddiweddar fod yr Yola wedi ei tharo gan ddau dorpido o U55 ar 7fed Chwefror,1917 i’r gorllewin o Ushant. Gwelwyd y llong yn suddo o’r U55 ond nid oedd yn bosibl gweld enw’r llong. Disgrifiwyd hi, fodd bynnag, fel stemar oedd yn cludo grawn ac yn mynd i gyfeiriad y deddwyrain.


Cofeb Tower Hill

Mae llawer iawn o enwau..

O’r diwedd…

Cliciwch ar y 4 llun uchod i’w gweld yn fwy

***************************************************************************************

Hugh Williams (Hughie)

Cofnod Mynwentydd Rhyfel

Y Chelmer ym Malta 1912

HMS Chalmer ym Murdos

Rhyfelgyrch Gallipoli

Glanio ar Gildraeth Anzac

Cymerodd y Chelmer ran yn Rhyfelgyrch Gallipoli a bu’n rhan o ail gymal yr ymosodiad ar gildraeth Anzac ar 25ain Ebrill 1915.

‘……. glaniodd milwyr yr ail ymosodiad, gan gynnwys yr ail hanner o’r 9fed, 10fed ac 11eg Bataliwn yn ogystal â’r 12fed Bataliwn cyfan (a fwriedir i fod yn adfyddin i’r brigâd ),o saith llong rhyfel; HMS Chelmer, HMS Colne, HMS Ribble, HMS Usk, HMS Foxhound, HMS Scourge a HMS Beagle ……….


Roedd Hugh Williams yn daniwr ar y Chelmer pan ddechreuodd dân arni. Mae’n debyg mai ef oedd yr unig un a laddwyd gan nad oes unrhyw gofnod o berson arall o’r Chelmer ar y dyddiad yma yn y meysydd data milwrol.


Cyfrifiad  1901

*****************************************************************************************

Charles Parry

Hysbyseb am y Royal Charter

Llong uwchraddol

Cliper Stêm oedd y Royal Charter a longddrylliwyd ar arfordir gogledd ddwyrain Ynys Môn ar 26ain Hydref 1859.

Nid yw’r nifer cywir o farwolaethau’n hysbys gan i’r rhestr o deithwyr gael ei golli pan aeth y llong i lawr ond bu farw tua 459 o bobl, y nifer mwyaf o farwolaethau o unrhyw longddrylliad ar arfordir Cymru.



Adeiladwyd y Royal Charter yng ngwaith Haearn Sandycroft ar yr Afon Ddyfrdwy ac fe’i lansiwyd yn 1855. Roedd yn fath newydd o long, cliper stêm, 2719 tunnell gyda chragen haearn wedi’i hadeiladu yn yr un modd a chliper ond gydag injan stêm ategol a ellir ei defnyddio pan nad oedd digon o wynt ar gael.







Defnyddiwyd y llong ar y daith rhwng Lerpwl ac Awstralia, yn bennaf fel llong deithio er bod lle hefyd i gargo. Roedd lle ar gyfer 600 o deithwyr gyda chabanau moethus yn y Dosbarth Cyntaf. Ystyriwyd hi’n llong gyflym iawn, yn hwylio i Awstralia mewn llai na 60 diwrnod.


Buasai’r daith wedi mynd a hwy o amgylch Penrhyn Gobaith Da ar y siwrne allan ac o amgylch yr Horn wrth ddychwelyd. Dywedir fod gan y Capten Thomas Taylor obsesiwn i guro’r record yma.

Tua diwedd Hydref 1859 roedd y llong yn dychwelyd o Awstralia ar daith oedd wedi bod yn ddigon cyffredin. Fel yr oeddent yn cyrraedd Caergybi, fodd bynnag, fe ddirywiodd y tywydd yn arw a chynghorwyd Capten Taylor i fynd i mewn i Harbwr Caergybi i gysgodi ond gwrthododd gan fynnu mynd ymlaen tua Lerpwl. Ger Pwynt Leinws gwnaethpwyd ymdrech i godi Peilot Lerpwl ond roedd y tywydd garw yn gwneud hyn yn amhosibl.  Erbyn hyn roedd y gwynt wedi troi’n gorwynt ac yn 12 ar Raddfa Beaufort.


Newidiodd y gwynt o’r Dwyrain i’r Gogledd Ddwyrain gan yrru’r llong at greigiau arfordir Môn. Erbyn 11 o’r gloch y noson honno roeddent wedi angori ond erbyn 1 30 ar y 26ain torrodd cadwyn yr angor ar ochr chwith y llong i’w ddilyn awr yn ddiweddarach gan gadwyn yr angor ar yr ochr arall. Torrwyd yr hwylbrennau i leihau’r llusgiad ar yr asgell ond yn rhy hwyr! (Cafodd y Capten ei feirniadu yn ddiweddarach am beidio torri’r hwylbrennau’n gynt). Gyrrwyd y Charter at fanc tywod ac yna ar greigiau Porth Alerch ger Moelfre a dechreuodd dorri i fyny yn syth. Collodd dros 450 o bobl eu bywydau. Achubwyd 21 o deithwyr ac 18 o’r criw, i gyd yn ddynion. Ni achubwyd unrhyw fenyw na phlentyn.


Problem……..

Mae maen coffa Mr Charles Parry yn nodi mae morwr oedd er nad yw’n ymddangos ar unrhyw un o’r rhestri criw.

Mae yna ’Mr Parry’ ar restr teithwyr, Ail Ddosbarth, sydd ar adegau’n cael ei gofnodi fel ‘Mr Perry’. Nid yw’n bosibl, fodd bynnag, ddweud wrth sicrwydd mai ef oedd y person sy’n cael ei goffau yn Llanfechell.

Rhaid cofio nad oes unrhyw restr gyflawn o deithwyr na chriw wedi goroesi.



Cyfrifiad 1851

*******************************************************************************************

Dau ddirgelwch

Y dirgelwch cyntaf- Ar goll ar y môr

Does neb wedi clywed am yr Ant of Irvine


Ai dyma eu man gorffwys?

Dim ond carreg arw ydyw a dim math o arysgrif amlwg i’w weld arni !


Yr ail ddirgelwch- pwy oedd hi?

******************************

*******************************************************************************

Cerddi’r beddfeini

Roedd rhywun eisiau sicrhau fod rhywun yn cadw i’r cul ag union!!

A…….!

Yn ol i frig y dudalen