CROWN HOTEL LLANFECHELL
gyda diolch i Mrs Marian Davies a Mrs Maureen Jones
Ganwyd David James Jones yn 1829 yn Llaneugrad. Ymunodd a’r Royal Welsh Fusiliers
yng Nghaer pan oedd yn 22. Ar ôl gwasanaeth ym Mwlgaria a Thwrci caeth ei anfon i’r
Crimea a chyrraedd yno ddau ddiwrnod cyn y “Battle of Alma” ym mis Medi 1854. Pennaeth
ei gatrawd oedd Colonel Chester -
Pebyll y Prydeinwyr yn Balaklava
Cliciwch ar rhai o’r lluniau i'w gweld yn fwy
Yn sydyn daeth y gaeaf gyda chorwynt ac eira gan adael y milwyr yn oer a di gysgod. Suddodd 21 o’r llongau oedd yn cario eu nwyddau ac arfau milwrol.
Er mwyn cadw’n gynnes roedd y milwyr yn tynnu dillad oddi ar gyrff y milwyr Rwsaidd. Erbyn hyn roedd salwch yn gyffredin, colera a dysentri gyda mwy o filwyr yn marw o salwch nag o anafiadau. Collwyd tri chwarter y fyddin i salwch gyda bron i 500 yn marw o salwch ar y ffordd adref.
Cyrhaeddodd Florence Nightingale y Crimea gyda 38 o nyrsys gyda’r gobaith o wella’r sefyllfa anobeithiol oedd yno. Cafodd David Jones y fraint, gydag eraill, o gario’r angyles dros yr “heights of Alma” a bu’n llythyru a hi rhai blynyddoedd ar ôl diwedd y rhyfel pan oedd hi’n wael. Atebodd hithau gyda llythyr caredig. Mae son ei bod wedi rhoi anrheg o fodrwy aur i David Jones. Roedd hefyd yn y frwydr o Sebastopol a gyda Lord Raglan pan fu farw.
Ar ddiwedd y rhyfel yn Ebrill 1856, wedi treulio blwyddyn a saith mis yn y Crimea daeth yn ôl i Aldershot lle “prynodd” ei hun allan o’r fyddin a dychwelyd yn ôl i Sir Fôn gyda dwy fedal, y Crimea Medal 3 bar a’r Turkey Medal am wasanaeth da i’w wlad.
***********************************************
Yn Ebrill 1857 roedd Heddlu Newydd Sir Fôn yn cael ei ffurfio a cafodd David Jones ei benodi yn un o ddeunaw o heddweision i wasanaethu Mon. Cawsant eu hyfforddi yn neuadd y dref Llangefni a gwasanaethodd yn Llangefni, Caergybi, Porthaethwy, Llangoed a Llanfechell.
********************************************
Ym mis Hydref 1859 roedd y llong Y Royal Charter ar ei ffordd adref o Awstralia i Lerpwl yn cario pedwar cant a hanner o deithwyr a thua dwy dunnell o aur o’r mwyngloddiau aur yn Awstralia. Pan oedd bron iawn adref daeth i wyneb y storm waethaf o’r ganrif ac aeth ar y creigiau ym Moelfre gyda cholled fawr o fywydau. Gwerth yr aur ar y pryd oedd £320.000. (35 miliwn heddiw). Cafodd llawer o swyddogion heddwch, gan gynnwys David Jones, eu hanfon yno i gadw trefn ar bethau pan ddaethai’r aur i’r lan.
Daeth Mr Trygarn Griffith a’i ferch Lady Reade (Garreglwyd, Llanfaethlu) gyda’r prif gwnstabl Mr Wyn Griffith i ymweld â’r safle. Roedd yn ddiwrnod gwlyb ofnadwy a gwlychodd y parti’n drwm. Cariodd David Jones Lady Reade dros y creigiau peryglus. Anghofiodd hi ddim am y gymwynas a byddai’n llythyru ato am flynyddoedd wedyn.
Gadawodd David Jones yr heddlu yn fuan wedyn a phriododd Elizabeth Owens yn eglwys gadeiriol Bangor.
Yn Llanfechell
Symudodd y ddau i’r Crown, Llanfechell a chadw gwesty.
Roedd y Crown yn rhan o stad y Brynddu
Mae enw DJ Jones uwchben y drws
Mae eiddo stad y Brynddu mewn coch
Yn y cyfnod hwn doedd dim rhaid gwneud cais am drwydded cwrw gan yr ynadon lleol. Roedd awdurdodau’r tollau yn gallu arwyddo trwydded hefyd ac ychydig iawn o gofnodion a gedwir. Dim ond yn ddiweddarach oedd yn rhaid i geisiadau lleol gael eu gwneud ac i gofnodion gael eu cadw.
Yng nghyfrifiad 1861 roedd David J Jones a’i wraig Elizabeth yn aros gyda pherthnasau yn Lerpwl. Rhestrwyd pennaeth y tŷ fel Swyddog y Tollau Ymddeoledig. Tybed mai yma y cafodd ei drwydded?
Ym mis Mawrth 1861 cafodd David Jones ei hun yr ochr arall i’r gyfraith pan gafodd
ddirwy o 10/-
Ym mis Mai 1865 cafodd ddirwy eto o 5/-
Dirwy am werthu cwrw ar y Sul
Dirwy am adael i ddwy fuwch grwydro
Goruchwyliwr y tlodion
Dim ond pobl o safiad cymdeithasol oedd yn cael pleidleisio am Farchog y Sir. Ar y rhestr mae David James Jones fel deiliad o Crown Hotel a Brynclyni. Credir iddo ddal tir Brynclyni yn unig a dim y tŷ. Mae’r papur etholiad wedi ei arwyddo gan David James Jones, Richard Hughes a Thomas Williams fel goruchwylwyr y tlodion.
Pan oedd goruchwyliwr yn cael ei ddewis buasai’n cael dirwy am wrthod y swydd ddi-
Byddai’r dyletswyddau’n cynnwys:
Casglu trethi i dalu tlodion y plwyf
Chwilio am ofal i blant anghyfreithlon a cheisio darganfod y tad fel nad oedd y plentyn yn draul y plwyf.
Symud gwehilion a chrwydriaid ymlaen fel nad oeddent yn gost i’r plwyf.
Trefnu i bobl oedd yn methu talu am eu hanghenion i weithio fel prentisiaid ar ffermydd neu i wneud dyletswyddau i’r Carchardai.
Cyflwyno eu cyfrifon ar gyfer asesiad pob blwyddyn.
Bu David Jones yn aelod o Fwrdd y Gwarcheidwaid am dros ddeg mlynedd ar hugain gydag achosion y plwyf yn cymryd blaenoriaeth iddo. Roedd yn adnabyddus am ei garedigrwydd ac fel gŵr elusennol a phawb yn ei alw’n Jôs y Crown.
Cofrestr Etholiad 1871
Roedd gan David ac Elizabeth Jones ddau fab, Frederick James a Thomas Owen ac un ferch Elizabeth Jane a fu farw yn 7 oed yn 1869,
******************************************* *
Eisteddfod Gadeiriol Mon 1877 yn Llanfechell
Hanes yr Eisteddfod (Cyhoeddiad o'r cyfnod)
Cynhaliwyd yr uchod yn Llanfechell, ar ddydd Iau a Gwener, Awst 2il a’r 3ydd. Nid yn aml y cenfydd y darllenydd yr enw uchod mewn newyddiadur. Y mae yn lle prydferth a deniadol i’r llygaid. Pe crwydrid yr Ynys oll i gyd nis gellid taro ar ei well, ym mhob ystyr. Perthyn i’r lle ddau addoldy prydferth, eiddo'r Methodistiaid a’r Annibynwyr; ac o angenrheidrwydd medd y Fam Eglwys ei sefydliad yn y lle. Y mae rhagolygon yr achosion yn y lle yn dra addawol.
Y mae y lle hwn oddeutu chwe’ milltir o Amlwch, a thair milltir oddiwrth yr orsaf agosaf; eto, er nad yw ond pentref bychan gwledig, ac er na thebygid y troai Eisteddfod yn y fath le yn ddim ond aflwyddiant, fe arddangosodd yr amgylchiad hwn gymaint o “success” mewn cydmariaeth ag a welsom mewn Eisteddfod erioed
Dechreuwyd y gweithrediadau yma gyda rhwysg. Arddangoswyd y brwdfrydedd mwyaf yng nglyn a’r mudiad. Er prysurdeb yr adeg ar y flwyddyn gyda’r gwair, da gennym all tystiolaethu fod llenyddiaeth Gwlad y Bryniau yn annwyl ym mynwes trigolion y lle hwnnw. Y dydd, o’r holl ddyddiau, ydyw dydd yr Eisteddfod. Llongyfarchwn y Pwyllgor am eu gweithgarwch diflino yng nglyn a’r mudiad. Yr oedd y Pwyllgor wedi ymegnio i dynnu sylw pawb at eu gweithrediadau; a dyna yn ddiau oedd yr achos pennaf o’r fath lwyddiant. Cynhaliwyd yr Eisteddfod ar faes Mr. D. J. Jones, Crown Inn, yr hwn a osododd y cae at wasanaeth y Pwyllgor yn rhad. Adeilwyd y babell gan y Pwyllgor, o dan arolygiaeth a chynlluniaeth Ysgrifennydd yr Eisteddfod. Yr oedd yn babell ysblennydd, digon agos i gynnwys 2,000 o bobl.
********************************************
Bywyd teulu a gwaith yn Llanfechell
Priododd Frederick James, y mab hynaf, a thrigo yn Gaer. Aeth Thomas Owen i America gyda Peter Edwards, ac aros gyda modryb ac ewythr i Thomas Owen yn Utica, Efrog Newydd. Roedd y ddau yn ôl adref erbyn y flwyddyn wedyn fel y gwelir o’r cyfrifiad 1881. Mab Roger Edwards, person Llanfechell oedd Peter Edwards (cyfrifydd) ac fe drigodd yn y Crown hyd nes bu David Jones farw. Roedd busnes David Jones yn llwyddo fel gwelir o’r cyfrifiad 1881 pan roedd 11 o bobl yn aros neu fyw yn y Crown.
Mab Roger Edwards, person Llanfechell oedd Peter Edwards (cyfrifydd) ac fe drigodd yn y Crown hyd nes bu David Jones farw. Roedd busnes David Jones yn llwyddo fel gwelir o’r cyfrifiad 1881 pan roedd 11 o bobl yn aros neu fyw yn y Crown. David Jones a’i wraig Elizabeth, eu mab Thomas Owen (pobydd), Peter Edwards (cyfrifydd), 3 clogwr, 1 gwas fferm, 1 gwas domestig, 1 gweinydd ac Ann J Williams (gwniadwraig) eu nith.
Yn 1887 ar ôl bron i ddeg mlynedd ar hugain o briodas gofynnodd Elizabeth Jones am
wahaniad oddiwrth David Jones. Cytunwyd iddo dalu 6/-
Cyfrifiad 1881
Heblaw am redeg gwesty a bod yn oruchwyliwr y tlodion roedd gan David Jones fusnes cludiant gyda nifer fawr o geffylau ac amryw o gerbydau ar gyfer pob achlysur. Byddai’n cludo pobl i orsaf Rhosgoch ac oddi yno i bob ardal o ogledd Môn. Pan ddaeth y Cadfridog Owen Thomas adref o’r fyddin, David Jones oedd yn arwain yr orymdaith o orsaf reilffordd Rhosgoch i’w gartref yng Nghemaes. Gwelwyd ffenestri wedi’u goleuo a baneri’n chwifio yn Llanfechell i’w groesawu adref.
Cefn y Crown lle cedwir D J Jones ei gerbydau
Dyma un o gerbydau David James Jones yn dathlu Calanmai yn 1898. Y bachgen gyda’r utgorn yw Owen John Owen, taid Maureen Jones a Joan Davies.
Cafodd David Jones ei benodi’n Gwnstabl o’r Faenor gan stad Plas Coch a Brynddu.
Y faenor oedd yr holl dir oedd yn eiddo i’r stad. Roeddynt yn cynnal llys maenor
yn rheolaidd i ddelio a materion cyfreithiol ac eiddo -
Mab David Jones-
Wedi gwneud ei ffortiwn yn America daeth Thomas Owen Jones adref . Priododd ei gyfnither Sarah Elizabeth Williams a mabwysiadu ei nith, merch Ann Jane Williams.
Yr 'Anglesey Trading Company'
Mae Thomas Owen Jones a’i wraig Sarah yn y llun yma ond does dim gwybodaeth am beth oedd eu cysylltiad â’r cwmni.
Thomas Owen Jones
Prynodd Thomas Owen Jones y Vigour yng Nghemaes. Roedd yn westy poblogaidd ag ymwelwyr-
Cariodd Thomas Owen Jones y traddodiad o gadw gwesty a busnes cludiant ymlaen ond erbyn hyn roedd teithio wedi datblygu ac fe brynodd fws a’i henwi’n Alma. Tybed a ddewisodd yr enw oherwydd y frwydr y bu ei dad yn rhan ohoni?
Thomas Owen Jones a'r Alma
Ei wraig Sarah Elizabeth oedd perchennog y siediau ymdrochi ar lan y môr yng Nghemaes.
********************************************
Marwolaeth David James Jones
Cafodd yr ardal fraw a thristwch wrth glywed am farwolaeth David James Jones yn Chwefror
1912 yn 83 oed. Daeth torf fawr i’r angladd i dalu parch i’r “Grand old man of Llan”.
Yn bresennol roedd llawer person milwrol ac ar eu hysgwyddau hwy y cariwyd ef ar
ei siwrne olaf o’r Crown, lle'r oedd wedi treulio dros hanner can mlynedd, i fynwent
eglwys St. Mechell. Rhoddwyd ef i orffwys o dan goeden a blannodd yno ychydig o flynyddoedd
ynghynt. Clywyd y “Last Post” ar lan y bedd. David Jones oedd y milwr Crimea diwethaf
ond un ar Sir Fon. Ymysg y galarwyr o deulu a ffrindiau oedd Sir W.B.Hughes-
“To a veteran who was worthy of his steel from his comrades in arms” Royal Engineers, Beaumaris.
“Sincere sympathy from The Anglesey Territorial and National Reservists.
“Breast forward in the fight through a long -
Gadawodd David James Jones £993 yn ei ewyllys (£56000 heddiw) a nodi ei ddau fab i fod yr unig ysgutorion, i werthu a rhannu ei holl feddiannau mewn trefn dawel a heddychol. Roedd ei wyrion i gael 20% os oedd gwerth y stad yn fwy na £200, 10% os oedd yn llai. I Elizabeth Jones gadawodd £1.1s.0d ac nad oedd i gael unrhyw hawl pellach ar ei stad na’i eiddo.
Bu Elizabeth Jones fyw yng Nghemaes hyd at ei marwolaeth yn Ebrill, 1916. Er bod dros 25 mlynedd wedi mynd heibio ers iddynt wahanu mae’r ddau wedi eu claddu gyda’i gilydd yn eglwys Sant Mechell, Llanfechell.
Enghreifftiau o gerbydau David Jones
Hers
Cert y dysgodres
Wagonet
Trap ci
Broughman
Peiriant nwy 3hp gan gwmni 'International Harvester'
********************************************
Diolch i'r canlynol:
Lluniau -
Hefyd diolch i deulu'r Vigour am eu cyd-