Cymdeithas Hanes Mechell

Hafan


Addysg


Cegin Filwr


Anglesey Trading Company


Cyfweliadau


Brynddu a’r Dyddiaduron  


Yr Eglwys


John Elias


Ffair Mechell


Maes Mawr


Coeden


Melinau


Yr Oriel


Syr Owen Thomas


Y Feddanen

a’r Wygyr


William Jones,

Mathemategydd


Fortunatus Wright,

Herwlongwr


Jos Y  Crown


Cofeb Llanfechell


 Capeli Llanfechell


Ol cnydau yng Ngharrog

Yr Hen Lan

Enwau Lleoedd

Robert Williams, Blaenor

Swyddfa’r Post

Gweirydd ap Rhys

Demograffeg Llanfechell 1851 a 1901

Mynwent Llanfechell

William Bulkeley a thlodion Llanfechell






Y Cadfridog Syr Owen Thomas

Kt., A.S, D.L., U.H  1858-1923

Gyda diolch i Mr Robert Thomas Williams, Neuadd


Dyddiau cynnar

18 Oed

Ffermwr

Stiward Tir

Milwr

Ym Mrynddu

Cynghorydd

Gŵr busnes

1870-1899

Rhyfel y Boer

1905-1920

Y Rhyfel Byd 1af

Aelod Seneddol

Ei farwolaeth yn 1923

Undeb yr Annibynwyr Cymreig

Llongyfarchiadau gan drigolion lleol

Owen Thomas- y blynyddoedd cynnar


Ganwyd yng Ngharrog, Llanbadrig – 1858

¡Mab Owen Thomas, Carrog & Ellen, m. William Jones Roberts o Storws, Cemaes.

¡Un o bedwar brawd a saith chwaer.


Mrs Ellen Thomas


Symudodd y teulu i  Neuadd o Garrog tua 1867.

¡Cymerodd Owen Thomas y denantiaeth drosodd gyda'i fam yn dilyn marwolaeth ei dad, c1876.

¡Mae disgynyddion Hannah, sef chwaer ieuengaf Owen Thomas yn parhau i fyw yno.


Neuadd, tua 1900


Yn ôl i frig y dudalen


*************************************************


 Owen Thomas - yn 18 oed


Sefydlodd Offer Achub Bywyd yng Nghemaes gyda ffermwyr eraill a phobl busnes.

Penodwyd ef yn Brif Swyddog pan yn 18 oed a gwasanaethodd hyd at 1889.

Roedd gan y teulu Brynddu- Plas Coch ddylanwad cryf ar Owen a buont o gymorth iddo wrth ddatblygu’r harbwr fel atyniad twristaidd.

Cyrnol Charles Hughes Hunter oedd Comodor Regata Cemaes Regata ac Owen Thomas oedd yr Ysgrifennydd Anrhydeddus.

Cyfarfu Owen Thomas ei ddarpar wraig yng Nghemaes pan aeth yno ar ei gwyliau.


Offer Achub Bywyd yng Nghemaes 


Capel Bethel, Cemaes. 1800 hwyr

Blaenor ac Athro Ysgol Sul

•Cofeb i Syr Owen Thomas uwchben y pulpud

 

Yn ôl i frig y dudalen


*************************************************


Owen Thomas - Ffermwr, 1881



Enillodd wobrwyon amaethyddol am:

• Y Fferm Wartheg Orau – Sioe Amaethyddol Môn (1881)

•Y Fferm Ffrwythlon Orau – Sioe Llannerchymedd  (1882)

•Neuadd Jumbo - Mae'n debyg mai ef oedd y magwr gwartheg cyntaf i gystadlu yn Llundain a chafodd 2ail yn Sioe Frenhinol Islington /Sioe Smithfield (1883).










Neuadd Jumbo oedd yn pwyso tua thunnell a hanner.

 

Yn ôl i frig y dudalen

 

*************************************************


Owen Thomas- Stiward Tir


Daeth yn Stiward Tir i ystad Brynddu-Plas Coch  gyda chyfrifoldeb am y rhan Ogleddol o 1882 – 1898.

•Dilynodd ei frawd, Huw Thomas, Carrog ef fel Stiward Tir yn yr ardal yma.


Yn ôl i frig y dudalen


*************************************************


Owen Thomas- Milwr



Is-Gapten Owen Thomas 1886


Ymunodd a'r 3ydd Fataliwn o Gatrawd Manceinion.

Daeth yn Is-Gapten yn 1886.

Ffurfiodd yr unig gwmni o wirfoddolwyr ym Mon- Cwmni 'K', Byddin Gwirfoddolwyr, y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig.


Gwirfoddolwyr yng ngwersyll y Valley


Maes Saethu Cemaes


Maes saethu ar dir y  Neuadd, ar y traeth ac ymlaen i'r penrhyn.

Enillodd gwirfoddolwyr Cemaes Gwpan Sialens Plas Newydd  yn 1898 yn ogystal â Chwpan Sialens y Sir ac enillodd Owen Thomas, ei hun, Gwpan y Swyddogion.


Yn ôl i frig y dudalen


*************************************************


Owen Thomas- Ym Mrynddu


Frederica Wilhelmina Skelton Pershouse


Priododd Owen Thomas Frederica, ym mis Awst 1887 yn Eglwys Llanbadrig, yn dilyn ei hymweliad a Chemaes.

•Roedd yn unig ferch i  Frederic Pershouse, gwr bonheddig o Bowden, Sir Gaer ac yn un o ddisgynyddion teulu parchus o Pen Hall, Swydd Stafford.

•Yn dilyn amser byr yn byw yn y Fron, Cemaes cawsant brydles ar Frynddu, Llanfechell gyda 94 acer o dir am £100 y flwyddyn.

•Ganwyd eu pump plentyn ym Mrynddu.

•Yn ystod y cyfnod hwn daeth yn aelod o Gapel Ebeneser lle bu ei hen daid yn weinidog.


Brynddu, Llanfechell


 Cyrnol Charles Hughes-Hunter


Mae'n rhaid bod gan Gyrnol Charles Hughes-Hunter ddylanwad mawr ar fywyd Owen Thomas.

Ei ddiddordebau mwyaf oedd y Fyddin, Gwleidyddiaeth a'r Seiri Rhyddion.

Arweiniodd hyn i Owen Thomas ffurfio Gwirfoddolwyr Cemaes, ffurfio cysylltiad a'r Rhyddfrydwyr ym Môn a ffurfio cangen Eilian Sant o'r Seiri Rhyddion yn Amlwch a Chymdeithas Gyfeillgar yr Odyddion yn Llanfechell.


Yn ôl i frig y dudalen


*************************************************


Owen Thomas- Henadur


Cyngor Sir Ynys Môn


Pan ffurfiwyd Cyngor Sir Ynys Mon yn gyntaf dewiswyd Owen Thomas i gynrychioli ei ardal.

¡Eisteddodd ar niferoedd o bwyllgorau ac mewn amser daeth yn henadur.


Yn ôl i frig y dudalen


*************************************************


Owen Thomas- Gŵr Busnes


Anglesey Trading Company

c1890 Mentrodd Owen Thomas i fyd busnes a sefydlodd gwmni yn Llanfechell o'r enw O.T. Evans, cwmni oedd yn marchnata dodrefn ac anghenion amaethyddol.

¡Estynndd y cwmni hwn gyda dau o gyfranddalwyr eraill,  A.R. Barkworth a Chapten H.R. Maxted i ffurfio Cwmni Anglesey Trading.

¡Cymerwyd llawer o fusnesau bychain drosodd ac mewn amser roeddent yn cyflogi hyd at 80 o bobl.

Ymysg rhai o'r adeiladau a adeiladwyd gan y cwmni oedd tai, ysgoldy a Gwesty'r Gadlys yng Nghemaes.

¡Yn y cyfamser sefydlodd Owen Thomas y gwaith brics yng Nghemaes gyda'r Arglwyddes Hughes Hunter ac aeth y llwyth cyntaf o frics allan yn yr haf, 1899.

¡Ar yr un pryd roedd yr Anglesey Trading Company mewn trafferthion ariannol a bu'n rhaid dirwyn y cwmni i ben. Bu'n rhaid i Owen Thomas gynnal arwerthiant ym Mrynddu er mwyn codi arian i dalu dyledion y cwmni.



Adeiladu Gwesty'r Gadlys, Cemaes


Yn ôl i frig y dudalen

*************************************************


Owen Thomas -  1870- 1899



Owen Thomas gyda'i wraig a'i blant,1897








Ffermwr

Offer Achub Bywyd yng Nghemaes - 1876

Stiward y Tir i Stad Brynddu- Plas Coch - 1882

Cymdeithas Gyfeillgar yr Odyddion 1881

Seiri Rhyddion 1885

Gwirfoddolwyr 1886

Cyngor Sir Ynys Môn 1889

Anglesey Trading Company c1890

Gwaith Brics 1899

Uchel Siryf Môn 1893

Ustus Heddwch

Yn ôl i frig y dudalen


*************************************************


Owen Thomas a Rhyfel y Boer 1899-1902



Rhyfel y Boer 1899-1902


Yn dilyn Datganiad  Arbennig galwyd ar Lu Wirfoddolwyr Cemaes i ymuno ag ymgyrch filwrol Rhyfel y Boer yn Ne Affrica.  

¡Wedi i'r Anglesey Trading Company ddirwyn i ben gadawodd ef a'i deulu Brynddu ac ymunodd a'r ymgyrch ynghyd a 25 o ddynion lleol eraill.

¡Yn fuan iawn daeth safon ei arweinyddiaeth yn amlwg a gyda chaniatad Brenhinol ffurfiodd Gatrawd y'Prince of Wales Light Horse' a oedd yn cynnwys 1300 o farchogion.  

Oherwydd ei wybodaeth o Dde Affrica arweiniwyd ef i gymryd rhan mewn rhedeg a rheoli stadau anferth yn Nwyrain Affrica ar ôl y rhyfel.


Yn ôl i frig y dudalen


*************************************************


Owen Thomas - 1905-1920



 Teulu Owen Thomas 1906


Comisiwn Brenhinol ar amaethyddiaeth a dirwasgiad amaethyddol. 1905-1907. Rhagolwg Amaethyddol Rhodesia.

Ys  tad Ddwyrain Affrica East African 600 milltir sgwâr. Rheolwr Gyfarwyddwr, Swyddfa Llundain .(Stryd Regent)

Prynodd Cestyll yn 1909 er mwyn dod yn ôl i Fôn Lansio llong stem yng Nghemaes.

Bu'n ganolwr mewn anghydfod rhwng yr Arglwyddes Hughes Hunter a Chyngor Plwyf  Cemaes.

Recriwtio milwyr i ymladd yn y Rhyfel Byd 1af.

Cenhadaeth yr Arglwydd Milner i'r Aifft yn 1920

Wedi'i dderbyn i Orsedd y Beirdd, Birkenhead 1917

Yn ôl i frig y dudalen


*************************************************


Owen Thomas- Rhyfel Byd Cyntaf


Brigâd Gogledd Cymru , Llandudno


Owen Thomas oedd yn gyfrifol am recriwtio ym Môn  ar ddechrau'r Rhyfel Byd 1af.

Bu'n brif swyddog recriwtio  ar gyfer y sir gyda'r Parchedig John Williams, Brynsiencyn.

Dywedwyd iddo recriwtio 4,000 (gor-ddweud mae'n debyg) o Fôn.

Yn Llandudno yn 1915 , cyflwynodd yr Arglwyddes  Boston ef a chlefydd gwasanaeth ar ran Pwyllgor Recriwtio Boniddigesau Mon.

Yn 1917 cafodd ei urddo'n farchog am ei wasanaethau.

 


Yr Arglwyddes Boston


Brig-Gadfridog Owen Thomas


Roedd gan Owen Thomas bedwar mab ac un ferch

•Bu farw Frederick o achosion naturiol yn 16 mlwydd oed yn Skenfrith, Sir Fynwy.

•Robert Newton Thomas, bu farw yn ymladd yn Gaza.

•Priododd Margaret Thomas a Gerald Allen yn 1918 a chafodd ddau fab, Robert a Patrick.

•Owen Vincent Thomas B.A., wedi'i ladd mewn damwain awyren yn Epping.

Trefor Thomas, bu farw yn ymladd yn Neuve Chapelle

Cofeb Llanfechell

Mae enw'r tri mab a fu farw'n ymladd wedi'u henwi ar y gofeb.


Yn ôl i frig y dudalen


*************************************************


Owen Thomas- Aelod Seneddol



Yn dilyn llwyddiannau blaenorol  ac oherwydd ei boblogrwydd wrth gynrychioli cyflogwyr a gweithwyr Môn gofynnodd y Blaid Lafur iddo fod yn Ymgeisydd  Seneddol iddynt yn Etholiad Cyffredinol 1918.

Roedd Owen Thomas wedi dod yn berson adnabyddus iawn ym Môn oherwydd ei ddyletswyddau  recriwtio yn ystod y rhyfel.

 

Etholaeth Gyffredinol 1918

Sir Owen Thomas, Llaf. Annibynnol 9,038

Ellis Jones Griffiths, Rhyddfrydwr                    8,898

                                          Mwyafrif    140

 

    Etholaeth Gyffredinol 1922

Sir Owen Thomas, Annibynnol.   11929

Sir R.J.Thomas, Rhyddfrydwr 10067

                                     Mwyafrif          1,862


Penbryn ger Henley On Thames


Fel AS, Penybryn ger Henley on Thames oedd cartref Syr Owen a'i deulu.

•Bu fyw yma hyd at ei farwolaeth yn 1923 yn 64 mlwydd oed yn dilyn pyliau o falaria.


Yn ôl i frig y dudalen


*************************************************


Owen Thomas- ei farwolaeth yn 1923


Mynwent  Ebenezer, Llanfechell


Claddwyd gyda'i rieni a'i deulu Mawrth 1923 ym mynwent Ebenezer , Llanfechell

 


Yr orymdaith angladdol o'r Neuadd


Yn y llun hwn a dynwyd tu allan i Neuadd gwelir O T Evans, taid David Pretty a'i frawd, W J Pretty.  

Rhwng Cemaes a Llanfechell

 Mynwent Ebenezer, Llanfechell


Mynwent Ebenezer, Llanfechell


Mynwent Ebenezer, Llanfechell


Yn ôl i frig y dudalen


*************************************************


Undeb yr Annibynwyr Cymreig



Roedd Owen Thomas yn Annibynnwr ffyddlon trwy gydol ei oes, yn flaenor ac Athro Ysgol Sul yng Nghapel Bethel ac yn ddiweddarach yn flaenor yng Nghapel Ebeneser wedi iddo symud i Frynddu.

¡Roedd yn credu mewn Ysgolion Sul y Plant ac ef oedd Llywydd cangen Môn o Undeb yr Annibynwyr Cymreig mewn cyfarfod blynyddol a gynhaliwyd yn Ebenezer, Llanfechell.

Owen Thomas oedd llywydd y dydd yn y gynhadledd Cymru-Gyfan a gynhaliwyd yng Nghaergybi yn 1893 a gwahoddwyd ef i wneud yr un peth yn y gynhadledd Cymru-Gyfan nesaf  a ddaeth yn ol i Fôn ym Mehefin 1923.  Roedd tudalen gefn y rhaglen wedi'i gyflwyno er cof am Syr Owen Thomas yn dilyn ei farwolaeth ym mis Mawrth o'r flwyddyn honno.  

Undeb yr Annibynwyr Cymreig

Llangefni 1923 – Rhaglen y Dydd

Yn ôl i frig y dudalen

*************************************************


Llongyfarchiadau ar ran ardalwyr lleol ar achlysur ei wneud yn Urdd Farchog gan y Brenin (1917).

Annwyl Syr

Teimlwn fel trigolion ardal eich maboed yn falch o gael cyfle i’ch  llongyfarch ar yr achlysur, o’ch gwneuthur yn farchog gan y Brenin, oherwydd eich llafur, a’ch talentau disglair mewn swyddi cyhoeddus yn y deyrnas.

Gwyddai'r ardalwyr yn barod am eich rhagoriaethau personol. Profasoch eich hunan er yn fachgen, yn garedig a meddylgar. Nid oedd uchelgais chwaith yn elfen anamlwg ynoch. Ymholai'r craff a sylwgar o’ch cydnabod, Beth fydd y bachgennyn hwn?

Daeth i’r golwg ynoch yn gynnar,- synnwyr cyffredin, gallu i adnabod dynion ynghyd a medr mawr i  lywio'r cyfryw i’r pwrpas gorau. Corffolid ynoch dri rhinwedd anhepgor y cymwynaswr, sef llygad i weled angen, calon i gydymdeimlo ac angen, a llogell agored i gynorthwyo'r anghenus.

Balch ydym fel ardalwyr o’ch anrhydedd, gan ystyried eich dyrchafiad chwi yn ddyrchafiad i ninnau.     

Penodwyd chwi yn dra boreu yn olynydd eich tad tyner yn oruchwyliwr ystâd Brynddu- Plas Coch  i  gyflawni'r swydd anhawdd honno, gyda medr a boddhad mawr, am lawer blwyddyn. Doedd eich hafal yn degwch, Buoch yn ddyddiwr teg rhwng meistr a thenant, heb ormesu'r gwan na gwenieithio i’r cryf er hunan elw a hunan glod.

Pan sefydlwyd gyntaf y Cynghorau Sirol, chwychwi oedd etholwr ein hardal i’n cynrychioli ar y cyngor hwn; fel y cyfryw daethoch yn fuan i sylw, fel dyn oedd yn cyfuno cryfder ac addfwynder, Dewiswyd  chwi rhagblaen gan y cyngor yn aelod o amryw o fân gynghorau o bwys, ar gyfrif eich profiad a’ch meddylgarwch.

Penodwyd Dirprwyaeth frenhinol i ymholi i fater y tir, a chwynion amaethwyr y deyrnas.

Gwnaed chwi yn aelod anrhydeddus o’r cyfryw, ac eisteddasoch, ochr yn ochr ag Arglwydd Milner ac eraill nes dwyn i mewn adroddiad llawn. Hefyd, anrhydeddwyd chwi a’r swydd o fod yn Uchel Sirydd eich mam wlad. Symudwyd yn effeithiol genych i leihau oriau llafur y gweithiwr, ac i gael gwell tai a chyflog iddynt, a hynny pan ofynnid gwroldeb mawr i wneud hynny, fel erbyn hyn, yr ydych yn cael y mwynhad o weled yr had a heuwyd yn dwyn ffrwyth toreithiog. Buoch ar y blaen i ffurfio yn y cylch hwn Wirfoddolwyr Milwrol nid anenwog. Er hynny yr ydych wedi bod yn ddyfal a llwyddiannus iawn yn y cyfeiriad hwn.

Enillasoch radd dda fel Swyddog Milwrol yn Neheudir Africa a phan dorrodd y rhyfel erchyll allan chwi oedd yr unig ŵr cymwys a pharod i ymgymryd â’r anturiaeth o ddwyn ynghyd Fyddin Gymreig. Llwyddasoch yn yr ymgymeriad drwy eich dylanwad personol tŷ hwnt i ddisgwyliad y mwyaf hyderus.

Nid y lleiaf o’ch gorchestion oedd y safiad dewr diweddar o’ch eiddo dros burdeb moesol eich gwlad a’ch cenedl ac i chwi ddyfod allan o’r ymgyrch, fel aur wedi ei buro trwy dân. Edmygwn yn fawr y syniad o gronfa, cynnyrch eich meddwl chwi yn bennaf, sydd ar droed i atodi a rhoddion gwirfoddol, fel na fyddo'r un milwr, na morwr, clwyfedig Cymreig, ar ôl y rhyfel yn dioddef prinder nac angen ymgeledd.

 

Arwyddwyd ar ran Ardalwyr Cemaes a Llanfechell


W H Jones, ‘Bryngwyn’ Cadeirydd,     Williams Roberts ‘Fron’, Trysorydd

Ivor Jones Morris, Compton House, Ysgrifennydd.

Parchedigion:-          J.S.Evans H.E.Jones, Ty'r Ysgol

 M. Jerman R. Williams, Siop Penllyn

  W. Richards John Davies Bryn Babo

 Evans Jones H. P. Edwards, Awelfryn

                            T. O. Jones, Vigour


Yn ôl i frig y dudalen


*************************************************


Ffynonellau

Deunyddiau wedi'u casglu a'u cyflwyno i Gymdeithas Hanes Mechell (Tachwedd2007)                                               

gan Robert Thomas Williams, Neuadd

“Rhyfelwr Mon” – David A Pretty

“Life in Pictures of Brig.-Gen. Sir OWEN THOMAS Kt., M.P., D.L., J.P.”

Mr. Robin Grove-White – Brynddu

Lluniau, erthyglau papurau newydd wedi'u casglu gan deulu'r Neuadd.


Yn ôl i frig y dudalen


Cliciwch ar y lluniau i’w gweld yn fwy

Carrog