Cymdeithas Hanes Mechell

Hafan


Addysg


Cegin Filwr


Anglesey Trading Company


Cyfweliadau


Brynddu a’r Dyddiaduron  


Yr Eglwys


John Elias


Ffair Mechell


Maes Mawr


Coeden


Melinau


Yr Oriel


Syr Owen Thomas


Y Feddanen

a’r Wygyr


William Jones,

Mathemategydd


Fortunatus Wright,

Herwlongwr


Jos Y  Crown


Cofeb Llanfechell


 Capeli Llanfechell


Ol cnydau yng Ngharrog

Yr Hen Lan

Enwau Lleoedd

Robert Williams, Blaenor

Swyddfa’r Post

Gweirydd ap Rhys

Demograffeg Llanfechell 1851 a 1901

Mynwent Llanfechell

William Bulkeley a thlodion Llanfechell






Ôl cnydau yng Ngharrog

gyda diolch i Mr George Smith  o Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd

Map lleoliad cloddiad Carrog

(cliciwch ar y lluniau i'w gweld yn fwy)

        Archwiliad geoffisegol



Ffoes derfynol clostir Carrog ar ôl cloddio

Mae prosiect wedi bod yn cael ei weithredu dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn Ardal Harddwch Neilltuol Môn gyda chefnogaeth gan CADW a hefyd gyda chymorth addysgol o ffynhonnell Gynaliadwy AONB Môn. Ymchwilwyd i nifer o safleoedd archeolegol newydd a ddarganfuwyd drwy arolwg ffotograffaidd o’r awyr gan RCAHMW a Pixaerial. Yn 2009 cafwyd archwiliad geoffisegol o ddetholiad o’r safleoedd. Ym Mai 2010, archwiliwyd un safle drwy gloddio i adwaen y gweddillion, dyddio a chasglu tystiolaeth ddehongledig i asesu eu potensial a goroesiad.

Closdir is-gylchog ar ben bryn yng Ngharrog, Llanbadrig a ddewiswyd i’r gwaith yma. Dangosodd yr arolwg yma nifer o nodweddion mewnol a ddehonglwyd ar sail topograffeg fel safle amddiffynedig o’r Oes Efydd hwyr neu’r Oes Haearn cynnar (gweler y llun). Rhaid diolch i’r ffermwr  Jac Jones, a’r tirfeddiannwr, Robin Grove-White am ganiatáu'r cloddio, a’r bobl leol a fu’n helpu a chefnogi.

Dangosodd y cloddio yng Ngharrog ffoes fawr o amgylch y clostir, yn 4 metr o led a 2 fetr o ddyfn. Mae hyn yn syndod o ystyried fod y clostir i gyd ond 50 metr ar draws (gweler y llun). O fewn y clostir roedd nifer o dyllau postiau bychain, rhai yn ffurfio rhan o gylch a oedd, efallai, yn rhan o fur allanol un tŷ crwn mawr canolig.  Yn anffodus, ni chafwyd unrhyw greiriau dyddiadadwy, ond o dan a thu draw'r cyn glawdd amddiffynnol cafwyd nifer o dyllau aelwyd. Yn y tyllau yma canffuwyd fflint a siert wedi ei drin, a chrochenwaith nodweddiadol yn dangos preswyliad ar y safle o’r cyfnod Neolithig cynnar.

Ar ôl i ffoes y clostir lenwi a phridd a chael ei lenwi i mewn , codwyd adeilad bychan hirsgwar o fewn y safle. Darganfuwyd rhan o freuan gron a charreg gwrthbwys gŵydd a gredir i fod o’r cyfnod Rhufeinig-Prydeinig. Felly, roedd y gaer fryn wreiddiol o gyfnod sylweddol cynharach na’r datblygiad yma. Dylid gallu dyddio’r cyfnod rhywben drwy ddull radio carbon.


Cloddio yng Ngharrog, Diweddaraf, Ebrill 2011

Gwerthuswyd y clostir bychan ar fryn yng Ngharrog, Llanfechell, a ganfyddwyd fel olion cnwd ar lun o'r awyr drwy gloddiad bychan ym Mai 2010. Dehonglwyd y clostir fel safle amddiffinedig posibl o'r Oes Efydd Hwyr neu Oes Haearn Cynnar ar sail teipoleg. Mae hwn yn gyfnod nad oes llawer o dystiolaeth iddo ym Môn, ac felly o bosib yn ganfyddiad cyffrous.

Dangosodd y cloddiad fod ffoes y closdir yn sylweddol ac yn debygol yn amddiffynnol ond nid oedd dim ar ôl o'r unglawdd cysylltiedig. Roedd sawl twll postyn a phydew o fewn y closdir. Profwyd fod rhai o'r pydewau yn aelwydydd yn dyddio o'r Oes Neolithig a dyddiwyd y rhain i'r Bedwerydd Fileniwm CC drwy dechneg radio carbon. Maent yn dangos fod pen y bryn yn cael ei ddefnyddio fel gwersyll ymhell cyn adeiladu'r closdir. Ychydig iawn o dystiolaeth o arteffactau a gafwyd o breswylio o fewn y closdir ei hun ond roedd dyddiadau radio carbon o'r tyllau postio o'r ffoes yn dangos iddo gael ei adeiladu tua 800CC a phreswylio ynddo hyd at tua 400CC. Felly, cadarnhawyd y ddamcaniaeth wreiddiol a dangos fod y safle o ddiddordeb archeolegol hynod. Cafodd ei adeiladu mewn amser pan oedd closdiroedd amddiffinedig o unrhyw fath yn newydd i'r tirwedd. Yn fwy na thebyg, roedd yn cynnwys annedd pennaeth gyda'i gymuned amaethyddol o'i gwmpas, yn byw mewn tai ar wasgar. Mae mynediadau closdiroedd, fel yr un yma, fel arfer yn wynebu at y dde ddwyrain, ac efallai fod ganddynt ryw ddiben defodol yn ogystal ag amddiffynnol. Un ddamcaniaeth yw eu bod wedi datblygu fel canolfannau lle gellid storio grawn yn ddiogel.

Yn hwyr yn ei fodolaeth, ar ôl i'r ffoes, fwy neu lai, lenwi a phridd, yn naturiol, fe godwyd adeilad bychan hirsgwar ar y safle. Mae'n debygol mai tŷ oedd yr adeilad bychan yma. Cafwyd breuan a charreg pwyso gŵydd ar y safle sydd wedi ei ddyddio i'r 8-9 Ganrif CC drwy dechneg radiocarbon.












                                Darganfyddiadau o Garrog

        1-3 Disgiau llechi  4. Cyllell cornfaen Neolithig  5. Pwysau gŵydd   6. Pestl carreg