gyda diolch i Mr Robin Grove White a Mr Mike Harris
*******************************************************
Gwaith Carthffosiaeth, Gwaith Briciau, Gwaith dŵr a Choredau |
||
Ecoleg- |
*******************************************************
Cliciwch ar y mapiau a’r lluniau i'w gweld yn fwy
Y cyfeiriad cyntaf i'r Wygyr -
• 1. 'Triddoedd Ynys Pridain' – c. 10fed ganrif:
•'Tri porthladd breiniol Ynys Pridain – Porth Ysgewin yng Ngwent, Porth Wygyr ym Mon a Phorth Wyddno yng Ngheredigion'.
2. 'The Extent of Anglesey, 1352' (Llyfr 'Domesday' Môn)
'... and all the tenants and heirs of these .....gafaelion owe suit to the lord prince's mill at Cemais..'
Dyddiadur William Bulkeley
10fed Ragfyr 1749
'This morning was the greatest waters upon the ground as the oldest man as the oldest man in this parish ever saw. And at 9 when I went out there were but very little of my meadows that were not covered. At 11 o'clock when the water was much abated, there were three horses employed to carry people thro the river that were coming to church, because the bridge over the river that runs through the village was quite covered even that time of day, and the river was not confined to its own bed till the next day…'
4ydd Ionawr 1750
'…….. I was today to see the harbour of Cemaes which the last great flood has quite spoiled. The extraordinary rush that ran down at that time through Pwll y Wrach carried off all the sandin the bottom of the river, and tumbled one upon another such heaps of stone, that it looks really frightful, and no ship norboat can lye there.'
8fed Ionawr 1750
...I was all this day at Cemaes, where was met nearly a hundred people of Llanbadrig and Llanfechell parishes with carriages of different kinds, as drags, sledges, and wheel carriages, with iron bars, pick axes, and leavers to carry away the stones with which the late great land flood had choaked up and spoiled the harbour; the people worked all along with such willingness and eagerness, that before night they had quite cleared the harbour, and with part only of the stones they made a pier upon Garreg y Cenyn which will be of great use to break the force of storms upon the harbour. I gave the people 2s 1d worth of ale and spent myself 2d.
3. Lewis Morris -
…Neidia'n lan ddwfr Maddanen…'
*******************************************************
Defnydd hanesyddol economaidd a diwydiannol y Wygyr a'r Feddanen-
Melinau dŵr, melinau pannu, gwehyddu, bragu, argae Brynddu, gwaith carthffosiaeth, gwaith dŵr, gwaith briciau, adeiladu llongau, amaethyddiaeth.
Felin Wen
Hen Felin Meddanen
lleoliad y llorp trwy'r wal
llorp-
Melin Y Nant (Melin William Bulkeley)
Pigion o ddyddiaduron William Bulkeley
19eg Chwefror 1740
1af Ebrill 1741
12fed Gorffennaf 1741
18fed Awst 1741
Melin ddŵr Coeden
Y broses o bannu
O'r Canol Oesoedd roedd pannu brethyn yn cymryd lle mewn melin ddŵr a elwid yn felin pannu. Yma roedd y brethynnau'n cael eu curo a morthwyl pren a elwid yn gyffion pandy. Roedd dau fath o gyffion pandy: cyffion disgynedig (yn gweithredu'n fertigol) a oedd yn cael ei ddefnyddio i sgwrio'n unig, a chyffion gyrru neu gyffion crog. Gweithredir peiriannau'r ddau fath o gyffion gan gamiau ar siafft o olwyn ddŵr a godai'r morthwyl.
Roedd y cyffion crog wedi'u pifodi fel bo'r 'droed' ( pen y morthwyl) yn taro'r brethyn bron yn llorweddol. Roedd twb ar y cyff i ddal y toddiannau a'r brethyn. Roedd hwn yn weddol grwn ar yr ochr oddi wrth y morthwyl, fel bo'r brethyn yn troi yn raddol, i sicrhau fod pob rhan ohono’n cael ei bannu'n wastad. Fodd bynnag, tynnwyd y brethyn allan bob rhyw ddwy awr i ddadwneud plethiadau a chrychiadau. Roedd y 'droed' o siâp eithaf trionglog gyda rhiciau arno ar gyfer troi'r brethyn.
Disgrifiad gan Celia Fiennes, 1698.
"... but the serge is the chief manufacture; there is a prodigious quantety of their serges they never bring into the market but are in hired roomes which are noted for it, for it would be impossible to have it altogether.
The carryers I met going with it as thick all entring into town, with their loaded
horses, they bring them all just from the loome and soe they are put into the fulling-
violence that if one stands neere it, and it catch a bitt of your garments it would be ready to draw in the person even in a trice; when they are thus scour'd they drye them in racks strained out, which are as thick set one by another as will permitt the dresser to pass between, and huge large fields occupy'd this way almost all round the town which is to the river side; then when drye they burle them picking out all knotts, then fold them with a paper between every fold and so sett them on an iron plaite and screw down the press on them, which has another iron plaite on the top under which is a furnace of fire of coales, this is the hot press; then they fold them exceeding exact and then press them in a cold press; some they dye but the most are sent up for London white".
*******************************************************
*******************************************************
Gwaith Carthffosiaeth, Gwaith Briciau, Gwaith dŵr a Choredau
Gwaith Carthffosiaeth
Gwaith Briciau Cemaes
Gwaith dŵr Cemaes
Mae'r Afon Wygyr yn rhedeg i'r gorllewin o Fferm Ysgellog (Amlwch) i'r môr yng Nghemaes.
I'r gogledd orllewin o'r man lle mae'r Afon Feddanen yn ymuno a'r Wygyr, mae hen adfail diwydiannol a fyddai, ar un adeg, yn cyflenwi dŵr i bentref Cemaes.
bentref Cemaes.
Hyd at 1937 roedd trigolion Cemaes yn dibynnu ar gyfres o ffynhonnau cyhoeddus a phreifat i gael dŵr.
Yn 1937 cafwyd cytundeb rhwng William Bulkeley, Brynddu a Chyngor Gwledig Twrcelyn i adeiladu gorsaf bwmpio (h.y. gwaith dŵr) ar ddarn o dir cyfagos i’r afon ger fferm Carrog.
Am un taliad yn unig, o £200, rhoddwyd caniatâd i Gyngor Gwledig Twrcelyn dderbyn prydles barhaol ar y safle o 3216 llathen sgwâr.
Yn ogystal, derbyniwyd arwynebedd ychwanegol o 65 llathen sgwâr ar gyfer adeiladu dwy gored.
Y Coredau
Er bod cytundeb 1937 yn caniatáu adeiladu DWY gored, mae cyfanswm o bedair a'r ddeg
ohonynt ar hyd yr afon rhwng y man lle cyfarfu'r Meddanen a'r Wygyr a'r gwaith briciau
yng Nghemaes. Mae tarddiad a phwrpas y coredau ychwanegol hyn wedi bod yn destun
trafodaeth rhwng aelodau o'r gangen pysgota dros y blynyddoedd. A adeiladwyd y coredau
fel rhan o'r gwaith dwr er mwyn cynnal y lefelau dwr? A adeiladwyd hwy er mwyn darparu
gwell amodau i bysgotwyr -
Y coredau -
Mae dyddiaduron William Bulkeley (www.bangor.ac.uk/archives/) yn dangos fod argaeau yn cael eu codi ar draws yr afon yn ystod hafau sych er mwyn cyflenwi dŵr i'r anifeiliaid .
Echdynnu dŵr
Yn Archifdy Môn ceir cofnodion manwl o'r dŵr a echdynnwyd am y rhan fwyaf o'r blynyddoedd yn dilyn adeiladu'r gwaith dŵr yn 1937.
Mae'r cofnodion yn dangos:
Roedd Cyngor Twrcelyn yn cael caniatâd i echdynnu cymaint o ddŵr ac yr oedd ei angen am 24 awr y dydd cyn belled a bod llif cyfunol yr afon yn fwy na 150,000 galwyn y diwrnod.
O dan hyn, ni gai'r Cyngor echdynnu dŵr rhwng 8am a 4pm.
–Mewn gwirionedd, yn 1959, er enghraifft, echdynnwyd 13 miliwn galwyn a oedd bron yn gyfartal a 25 galwyn i bob munud o'r flwyddyn.
Mae'r cofnodion yn dangos:
Cyflenwad dŵr
Roedd y dŵr a echdynnwyd i fyny'r afon o'r gwaith dŵr wedi'i drin (ei hidlo trwy ro) a'i bwmpio i fyny i dwr ym Mryn Awelon, rhwng fferm Carrog a Chemaes.
Yn 1988 y cafodd y twr yma ei ddymchwel, er bod torri'n ôl ar weithgareddau'r gwaith dŵr yn digwydd ers dechrau'r 1960au.
Yn wreiddiol mae'n rhaid bod gan y gwaith dŵr ei eneradur ei hun i gyflenwi trydan i'r pympiau, oherwydd yn 1964 gwnaethpwyd ymholiadau i MANWEB drefnu cyflenwad trydan teirgwedd. Fodd bynnag ni aethpwyd ymhellach a'r syniad gan fod £576 i'w weld yn rhy ddrud.
Fe beidiodd y gwaith dŵr a gweithio o gwmpas 1965 fel yr oedd cynlluniau eraill yn cael eu gweithredu.
Ers iddo beidio â gweithio
Mae adroddiad heddlu yn niwedd y 1960au yn cyfeirio at fandaliaeth yn y gwaith dŵr (tair ffenestr wedi torri) gan nad oedd yr adeilad yn cael ei gynnal a'i gadw.
Ers hynny, er i lawer o syniadau gael eu cynnig ar gyfer y safle, mae'r adeilad bellach yn adfail.
*******************************************************
*******************************************************
Ecoleg -
map 1805