Hanesyddol:
Ceir cyfeiriadau mewn dogfennau megis y ‘National Gazetteer 1868’ a
‘A Topographical Dictionary of Wales, Samuel Lewis, 1833’ sy’n sôn am Llanvechell,
Llanbadrig a Cemmes(Cemmaes). Disgrifir y graig fel ‘serpentine’ a ‘verd antique’
www.genuki.org.uk/big/wal/AGY/Llanfechell/Gaz1868.html#NatGaz
www.genuki.org.uk/big/wal/AGY/Llanfechell/Gaz1868.html#Lewis
www.genuki.org.uk/big/wal/AGY/Llanbadrig/Gaz1868.html#Lewis
Mae sôn am safleoedd eraill ar Ynys Môn, megis Rhoscolyn, Penrhosligwy a Llandyfrydog.
Beth yw cysylltiad George Bullock â’r hanes?
Casglwyd llawer o wybodaeth amdano, a’i gysylltiad gyda Maes Mawr, gan Clive Wainwright,
Lucy Wood a Timothy Stevens, a welir mewn llyfr o’r enw ‘George Bullock, Cabinet
Maker’, John Murray,(Publishers) Ltd, mewn cydweithrediad â H. Blairman & Sons Ltd,
Llundain, 1988.
Rydym yn ddyledus i’r diweddar Syr Kyffin Williams am gymryd cymaint o ddiddordeb
yn yr hanes, a sicrhau fod cynrychiolwyr o Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Lerpwl
ac eraill wedi ymweld â Maes Mawr yn ystod yr ugain mlynedd olaf.
- Prin iawn yw’r dystiolaeth am ei gefndir personol a theuluol.
- Ganwyd yn 1782 neu 1783
- Yn ddyn ifanc iawn, daeth i amlygrwydd fel gwneuthurwr cypyrddau addurnedig a llefydd
tân o farmor.
- Gyda’i frawd, roedd yn berchen ar fusnesau yn Lerpwl a Llundain.
- Erbyn y flwyddyn 1806, roedd wedi talu £1000 o bunnoedd am yr hawl i gloddio am y
Mona Marble o chwarel ar dir Maes Mawr.
- Yn 1813 sefydlwyd y Mona Marble Works yn Llundain.
- Roedd yn ffrindiau gyda Sir Walter Scott.
- Bu’n rhan o drin cofadail i Shakespeare yn Stratford upon Avon, a gwnaeth gast/mold
o gerflun er cof am y bardd enwog hefyd.
- Credir iddo weithio ar adnewyddu tŷ o’r enw Hafod yng Ngheredigion. Difrodwyd y
tŷ, oedd yn perthyn i ŵr o’r enw Thomas Johnes, gan dân; a defnyddiwyd llawer o’r
Mona Marble yn y gwaith atgyweirio. (Thomas Rees, Dolaucothi Correspondence V22/6,
yn y Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth a ‘The Beauties of England and Wales.....Vol.XVIII,’
1815 pp422-423,)
- Mae’n enwog hefyd oherwydd ei gysylltiadau â Napoleon. Comisiynwyd ef i wneud dodrefn
ar gyfer Longwood House, ei gartref ar ynys St Helena. Defnyddiwyd Mona Marble fel
rhan o un o’r byrddau, er enghraifft. (Angharad Llwyd, ‘A History of Mona or Anglesey’,
Royal Beaumaris Eisteddfod, 1833)
- Roedd ganddo ddiddordeb mawr mewn adeiladu cofgolofn i Nelson yn Lerpwl. Gwnaeth
fodel ac ysgrifennodd bamffled i gefnogi ei gais i gyngor y ddinas, ond ni wireddwyd
ei freuddwyd. Tybed oedd o wedi bwriadu defnyddio Mona Marble fel rhan o’r gwaith?
- Bu farw yn ddyn ifanc 35 oed, yn 1818. Claddwyd ef yn St.George’s, Hanover Square,
Llundain.
- Rhestrwyd ei fusnes yn y ‘Kent’s Dictionary of London’ tan 1821
Beth sydd ar ôl o’i waith heddiw?
- Mae rhai darnau enwog o’i waith wedi goroesi, ac mewn cyflwr da.
- Drwy grantiau, sicrhawyd eu bod yn cael eu diogelu ar gyfer y dyfodol
e.e.
The Art Fund www.artfund.org
V + A Purchase Grant Fund www.vam.ac.uk
- Ceir darnau o’i waith mewn amgueddfeydd a phlastai megis, Aston Hall, Canolbarth
Lloegr; Sudley Hall ac Amgueddfa Gelf Walker ar Lannau Merswy; Abbotsford ar y ffin
â’r Alban ac Amgueddfa Fitzwilliam, Swydd Caergrawnt.
- Un esiampl yw’r pâr o gypyrddau sydd yn Sudley House, a wnaethpwyd yn 1816 ac a brynwyd
yn 1981 am £10,000
- Cafwyd arddangosfeydd o’i waith yn Llundain a Lerpwl yn 1988, gyda chasglwyr cyhoeddus
a phreifat yn rhoi darnau sydd yn eu meddiant ar fenthyg.
- Bu George Bullock yn gyfrifol am adnewyddu llawer o’r dodrefn yn y plasdy
yn 1811. Defnyddiwyd carreg Mona Mable i wneud y lle tân yn y Neuadd Fawr.
- Ynghanol 90au’r ugeinfed ganrif, gofynnwyd i berchennog presennol Maes Mawr
am ganiatâd i gloddio darn o’r graig, er mwyn adnewyddu’r lle tân.
- Aethpwyd a’r darn i ystâd Cliveden yn Ne Lleogr, i’w drin, ac yna ei ddychwelyd
i Lerpwl i’w osod yn ei le.
- Ceir cofnod o’r hanes mewn dogfen yn Speke Hall.
Castell Penrhyn
- Defnyddiwyd Mona Marble ar gyfer llawer o’r ystafelloedd yng Nghastell Penrhyn.
- Disgrifwyd y lle tân yn y Llofft Lechi fel yr ‘un o’r mwyaf ysblennydd yn y castell’
www.nationaltrust.org.uk
( Penrhyn Castle,Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Centurion Press Ltd, Llundain, 1991)
Yn Lleol
- Yn y 1950au a’r 1960au, cymerodd Hywel Owen o Fodffordd ddiddordeb mawr yn y graig
a’r chwarel ym Maes Mawr.
- Roedd yn saer maen crefftus, ac roedd ganddo wybodaeth ddaearegol eang iawn.
- Gwyddir iddo gael darnau o’r graig i adeiladu lle tân ym Mwthyn Pêreos, Cemlyn, i’r
diweddar Hywel Hughes, llawfeddyg yn Ysbyty y Royal yn Lerpwl.
- Cafodd plant ysgol gynradd Llanfechell yn yr un cyfnod gyfle i ddysgu am y Mona Marble
a chreigiau eraill ar Ynys Môn, dan arweiniad y prifathro, y diweddar Gynghorydd
Richard Jones O.B.E. Annedd Wen.