Ym Mawrth 2007 gwnaethpwyd arolwg gan Gareth a Rebecca Pritchard ar ran Menter Môn a Phrosiect Dyfrgwn Ynys Môn
Edrychwyd am faw cŵn dwr ym mhob man tebygol (megis creigiau amlwg) ar hyd terfynau'r afonydd, ac arwyddion o weithgarwch megis olion traed a gwaliau (potensial).
Beth y darganfuwyd-
Afon Wygyr:
• Nifer Y safleoedd baw cŵn dŵr a ddarganfuwyd: 22
• Nifer o faw cŵn dŵr a ddarganfuwyd: 48
“Mae'n weddol debygol fod presenoldeb dyn ac efallai cŵn yn cyfyngu'r nifer o arwyddion a adewir gan y dyfrgwn yn y rhannau isel o'r afon ble mae'n llifo i'r môr , ond does dim amheuaeth fod y dyfrgwn yn defnyddio hŷd yr afon i gyd fel llwybr i gyrraedd y môr ar gyfer ymborthi... gwelwyd olion traed ar hyd y rhan yma.”
Beth y darganfuwyd -
Afon Meddanen:
• Nifer o safleoedd baw cŵn dŵr a ddarganfuwyd: 16
• Nifer o faw cŵn dŵr a ddarganfuwyd: 29
“Mae'r cynefin ar hyd y rhan yma yn ardderchog ar gyfer dyfrgwn: mae'n goediog ar hyd y rhan helaeth o'r afon ac yn lle distaw. Mae'n debygol iawn fod y dyfrgwn yn defnyddio'r ardal yma i lechu ac ,efallai, fel gwal."
Canlyniad-
Mae dyfrgwn yn bresennol ar hyd yr Afon Wygyr a'r Afon Meddanen.”
“Mae'n debyg fod y dyfrgwn yn bwydo ar rywogaeth o bysgod afon a hefyd yn ymborthi yn y môr ar hyd y glannau yng Nghemaes"
· Gwnaethpwyd arolwg yn 2008 gan aelodau o Grŵp Ystlumod Gwynedd oedd o fewn y coetiroedd sy'n terfynu’r afonydd
• Adnabuwyd 7 rhywogaeth o ystlumod
• Defnyddiai'r ystlumod gyrion y coetiroedd a rhodfa'r afon fel llwybr hedfan i ymborthi a theithio o le i le
• Mae 17 rhywogaeth o ystlumod ym Mhrydain
• Gwarchodir ystlumod trwy gyfraith oherwydd bod y niferoedd wedi gostwng yn echrydus yn y blynyddoedd diweddar
• Dim ond 10 allan o 17 o'r rhywogaeth a welir ym Môn.
A dyma nhw-
Pipistrelle Cyffredin
(Pipistrellus pipistrellus)
Pipistrelle Soprano
(Pipistrellus pygmaeus)
Ystlym frown clustiog
(Plecotus au ritus)
Ystlym Barfog
(Myotis mystacinus)
Ystlym Brandt
(Myotis brandt)
Ystlym Noctule
(Nyctalus noctula)
Ystlym Daubenton
(Myotis daubentonii)
Y Llygoden ddŵr
•Gwelir y Llygoden Ddŵr ger ddyfrffyrdd ac ochrau afonydd.
•Mae'r niferoedd wedi disgyn yn sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf oherwydd :
-
–Colli cynefinoedd (Ffermio, Adeiladu ayyb)
–Llygredd
–Gwenwynu
–Ysglyfaethu (yn enwedig y minc Americanaidd)
•
Prosiect Llygod Dŵr Môn
Mae Môn yn cael ei chydnabod fel ardal cadwraeth bwysig y llygoden ddŵr trwy Brydain gyfan.
Sefydlwyd y Prosiect Llygod Dŵr yn 2001
Mae Llygod Dŵr wedi'u cynnwys yng Nghynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Ynys Môn.
Geudy y llygoden ddŵr
Gwâl y llygoden ddŵr
Man bwyta y llygoden ddŵr yn dangos gwair wedi'i falu
Ôl traed y llygoden ddŵr
Canlyniad yr arolwg
•Darganfuwyd llygod dŵr ar hyd y Wygyr ym mha le bynnag yr oedd cynefin addas.
*******************************************************