Cymdeithas Hanes Mechell

Hafan


Addysg


Cegin Filwr


Anglesey Trading Company


Cyfweliadau


Brynddu a’r Dyddiaduron  


Yr Eglwys


John Elias


Ffair Mechell


Maes Mawr


Coeden


Melinau


Yr Oriel


Syr Owen Thomas


Y Feddanen

a’r Wygyr


William Jones,

Mathemategydd


Fortunatus Wright,

Herwlongwr


Jos Y  Crown


Cofeb Llanfechell


 Capeli Llanfechell


Ol cnydau yng Ngharrog

Yr Hen Lan

Enwau Lleoedd

Robert Williams, Blaenor

Swyddfa’r Post

Gweirydd ap Rhys

Demograffeg Llanfechell 1851 a 1901

Mynwent Llanfechell

William Bulkeley a thlodion Llanfechell






Cofeb Llanfechell

Cliciwch ar rhai o’r  lluniau i'w gweld yn fwy


Yr Ail Ryfel Byd 1939-1945 -

Hogiau Llanfechell

gyda diolch i Mrs Iola Roberts, Mrs Beryl Jones, Mr Nigel Thomas


Hefyd-

Y Brodyr o'r Brynddu

Gan Mr Robert Williams

Cliciwch yma i fynd i dudalen Y Brodyr o'r Brynddu


William Williams, Pensarn

Owen Owen, Brynhidil

Luke Backhouse, Penrallt

Cliciwch ar yr enwau i gael mwy o wybodaeth


 ********************************************


William Williams, Pensarn

Bedd William William


Mynwent Ebenezer yn dangos lleoliad y bedd


Mae gan Jean Jones, Calfarioa gof plentyn o weld ei gynhebrwng gan ei fod yn rhywbeth anghyffredin iawn gweld cynhebrwng milwrol a'r gynnau yn cael eu saethu.

Yn ôl i frig y dudalen


********************************************


Owen Owen, Brynhidil

Roedd Owen Owen, Y Fron a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf yn ewythr iddo.

Roedd Jean Jones, Calfaria yn ei adnabod ac yn dweud ei fod yn was ym Mhenygroes Arthur gyda Morris Williams pan ddaeth yr alwad iddo ymuno a'r fyddin ac nid oedd eisiau mynd o'r gwbl.

Dywedodd Jean Jones hefyd pan oeddynt yn ifanc ac yn dod i'r Llan i chwarae roedd arni ofn cerdded heibio Pen Bont gan fod bwgan yno yn ôl pob sôn ac Owen Owen fyddai bob amser yn cerdded heibio'r man yma gyda hi- roedd yn hogyn addfwyn a charedig iawn meddai.


Owen Owen

Tystysgrif ei farwolaeth - damwain rheilffordd, y tren yn cael ei chwythu i fyny.


Cartref Owen Owen, Brynhidil


Y mynwent lle'i claddwyd -Beja, Tunisia


Yn ôl i frig y dudalen



Luke Backhouse, Penrallt

Roedd yn Gyfrifydd ac wedi mynd i weithio i Lerpwl cyn cael galwad i'r fyddin.

Yn ôl y llythyrau roedd wedi bod yn wael am gryn amser. Roedd llythyr dyddiedig 5 Rhagfyr, 1943 yn cael ei anfon o ysbyty yn Johannesberg , yna llythyr ar 1 Ebrill, 1944 o'r un cyfeiriad. Roedd wedi marw yno ar 19 Mai, 1945. Does dim modd darganfod beth oedd yn bod arno, roedd yn amlwg nad oedd eisiau dweud wrth ei rieni.


Luke Backhouse


Cinio Nadolig yn yr Aifft


Tystysgrif ysgol Luke Backhouse o'r 'County School', Llangefni.


Cerdyn Nadolig i'r teulu o'r Aifft


Llythyr oddiwrth Luke i'w deulu, Tachwedd 1942


Llythyr oddiwrth Luke i'w deulu,Rhagfyr 1943


Llythyr Luke i'w deulu, Ebrill 1944


Llythyr o gydymdeimlad o Balas Buckingham


Bedd Luke Backhouse yn Johannesberg


Cartref  Luke Backhouse- Penrallt

Mynwent yn Johannesberg lle'i claddwyd ef


Yn ôl i frig y dudalen


********************************************


Yn ôl i brif dudalen y Gofeb