gyda diolch i Mrs Maureen Jones a Mrs Marian Davies
cliciwch ar y llythyrau a’r mapiau i'w gweld yn fwy
Y perchennog cyntaf a wyddom amdano oedd Y Parch. Roger Edwards a oedd hefyd yn Rheithor Llanfechell o 1836 hyd at ei farwolaeth yn 1868 pan etifeddwyd o gan ei fab hynaf, y Parch. William Christopher Edwards, Llanfairpwll.
Anfonwyd llythyrau i aelodau o'r Tŷ Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi am ddim. Pan weithredwyd y mesur 'Uniform Penny Postage' yn 1840, gwelwyd cynnydd o saith gwaith yn nefnydd y post.
Hyd at 1858, danfonwyd post Cemaes a Llanfechell gan negesydd troed o Amlwch o'r enw John Edwards.
Gwnaeth John Edwards gais swyddogol am godiad cyflog, fel y gwnaeth y bostfeistres o Gemaes ar ôl i'w chyflog gael ei dorri o £4 i £3 y flwyddyn.
Llythyr John Edwards
Amlwch 1855
Sir,
I take the liberty of writing and to bring my case before you.
I have been appointed to the situation of a letter carrier between Amlwch, Cemaes
and LLanfechell, Anglesey for the last three years, and I trust that I have given
satisfaction to everyone in my route ever since. Having a large family to support
with my 10 /-
I have the honour to be .Sir,
Your most obedient humble servant
John Edwards
*********************************************************************
Llythyr Postfeistres Cemaes
Mae'r llythyr yma wedi'i ddyddio 22ain Tachwedd, 1855 ac at sylw Rowland Hill Ysw.
Post Office Cemaes
Anglesey
North Wales
Sir,
The Sub Office has been established at this place for about fifteen years and was conducted by my mother till the time of her death which event occurred in February 1853. She received a salary of £4 per annum. Being in a state of debility for several years previous to her demise I generally discharged the duty for her. Mr Pritchard said I had done the duty satisfactorily and therefore appointed me to fill her place. Mother had applied several times in vain for an advance in salary. On my nomination to office however, the amount was reduced to £3. Why that should be done when I have discharged the duty satisfactorily is a mystery to me. There is no privilege connected with the office except a commission of 10% on the stamps.
I am Sir
Your obedient servant
Elizabeth Jones
*****************************************************************************
Deiseb
Yn Ionawr 1856 derbyniodd y Post Feistr Cyffredinol ddeiseb wedi'i arwyddo gan 78 o blwyfolion Llanfechell gan William Bulkeley Hughes, i gael Swyddfa Bost lleol. Gwrthodwyd y ddeiseb.
North Wales
Anglesey
North Wales
Sir,
The Sub Office has been established at this place for about fifteen years and was conducted by my mother till the time of her death which event occurred in February 1853. She received a salary of £4 per annum. Being in a state of debility for several years previous to her demise I generally discharged the duty for her. Mr Pritchard said I had done the duty satisfactorily and therefore appointed me to fill her place. Mother had applied several times in vain for an advance in salary. On my nomination to office however, the amount was reduced to £3. Why that should be done when I have discharged the duty satisfactorily is a mystery to me. There is no privilege connected with the office except a commission of 10% on the stamps.
I am Sir
Your obedient servant
Elizabeth Jones
*****************************************************************************
Deiseb
Yn Ionawr 1856 derbyniodd y Post Feistr Cyffredinol ddeiseb wedi'i arwyddo gan 78 o blwyfolion Llanfechell gan William Bulkeley Hughes, i gael Swyddfa Bost lleol. Gwrthodwyd y ddeiseb.
Anglesey
North Wales
Sir,
The Sub Office has been established at this place for about fifteen years and was conducted by my mother till the time of her death which event occurred in February 1853. She received a salary of £4 per annum. Being in a state of debility for several years previous to her demise I generally discharged the duty for her. Mr Pritchard said I had done the duty satisfactorily and therefore appointed me to fill her place. Mother had applied several times in vain for an advance in salary. On my nomination to office however, the amount was reduced to £3. Why that should be done when I have discharged the duty satisfactorily is a mystery to me. There is no privilege connected with the office except a commission of 10% on the stamps.
I am Sir
Your obedient servant
Elizabeth Jones
*****************************************************************************
Deiseb
Yn Ionawr 1856 derbyniodd y Post Feistr Cyffredinol ddeiseb wedi'i arwyddo gan 78 o blwyfolion Llanfechell gan William Bulkeley Hughes, i gael Swyddfa Bost lleol. Gwrthodwyd y ddeiseb.
To His Grace
The Postmaster General
The Humble Petition of the inhabitants of Llanfechell and the neighbourhood.
Showeth
That great inconvenience occurs for the want of a Post Office in the village of Llanfechell with its immediate neighbouring parishes, a population of about four thousand.
That the letters at present for the said locality – owing to the distance from Cemaes are now delivered by the Letter Carrier at the shop of Mr Hugh Pritchard at Llanfechell.
That the said shopkeeper is dissatisfied to make delivery of letters without some renumeration for his trouble.
That therefore the humble petitioners take leave to solicit your Grace the Postmaster General to establish a Post Office at Llanfechell similar to the one at Cemaes. The letters and newspapers delivered at Llanfechell are on an average 250 per week.
For the Secretary,
I beg to return the enclosed Petition from the inhabitants of Llanfechell, a village on the walk of the rural post messenger from Amlwch, under Bangor, to Cemaes and Llanfechell, for the accommodation of a Post Office. The Sub Postmistress of Cemaes and the messenger, on whose beat these places are situate, having also applied for an increase in their salary and wages. I beg to forward the enclosed “Detailed Return” of an arrangement which I propose in lieu of the one now in existence.
The salary of the Sub Postmistress of Cemaes is now correct, according to the scale. I do not propose, therefore, to make any alteration in that respect.
The messenger is certainly deserving of some addition to his pay, as he walks quite 14 miles a day.
The Postmaster General,
Having considered the circumstances of this case as represented in the enclosed report from Mr Beaufort, I submit for your Grace’s approval that –
The wages of the Amlwch & Llanfechell messenger be raised from 10/-
The post would not be self supporting if the expense of maintaining an office at Llanfechell were incurred and I cannot therefore recommend your Grace to sanction its establishment.
14th Feb 1856
****************************************************
Proposal to increase wages of Amlwch & Llanfechell Messenger. Establishment of Office at Llanfechell refused.
l************************************************************
Ar 1af Mai 1858 agorodd is Swyddfa Bost Llanfechell
Yr is Bost Feistres a benodwyd oedd Mrs Jane Jones, ar gyflog blynyddol o £5. Ail osodwyd y swydd yn Ebrill 1868 i'w gwr Robert, a restrwyd yng nghyfeirwyddiadur Slater o 1868 fel 'groser, dilledydd a masnachwr amrywion.'
Yn 1879 gosododd y Parchedig William Christopher Edwards adeilad y Swyddfa Bost a thua dwy erw o dir ar les i Robert Jones, ei wraig Jane a'u merch Margaret am gyfnod o 21 mlynedd am rent blynyddol o £16.
Mae cyfeirwyddiadur Slater am 1885 yn dangos Robert Jones fel 'is Bost Feistr' 9am i 3.35pm. Fe ymadawodd yn fuan wedyn, a symud gyda'i wraig a'i ferch i Benrhos, Llanfechell.
*********************************************
Byddai llythyrau'n cyrraedd o Swyddfa Bost Rhosybol (sefydlwyd 1852) drwy negesydd ar draed bob bore am 10.30, a llythyrau'n cael eu hanfon i Rosybol am 3.15 y prynhawn a'u cludo oddi yno i'r Brif Swyddfa ym Mangor gyda march.
Fe agorwyd 25 is Swyddfa Bost ym Môn yn y cyfnod yma.
Erbyn 1880, roedd y gwasanaeth wedi gwella, gyda'r post yn cyrraedd Llanfechell erbyn 9.30am a gadael am 3.35 pm, ac felly yn rhoi mwy o amser i ateb ar dro'r post.
Cludwr y llythyrau o Rosybol i Lanfechell yn y cyfnod yma oedd Hugh Pritchard, a oedd wedi ei benodi yn Awst 1872. Yn 1882 dynodwyd Llanfechell fel 'Swyddfa Archeb Arian a Banc Cynilo' a gosodwyd blwch clawdd yn Llanfflewyn. Yn ddiweddarach, gosodwyd blwch lamp yn Nhyddyn Fadog.
Agorwyd is Swyddfa Bost Rhosgoch yn 1887, ac wedyn o'r fan honno y cludwyd y post i Lanfechell gyda march, ac nid o Rosybol
Marciau Post Llanfechell
**********************************************************
Dynion Post
Ychydig a wyddom am y dynion post cynharaf, ond y ddau a oedd yn gweithio o Swyddfa
Bost Llanfechell ar ddiwedd y bedwaredd ganrif a'r bymtheg oedd -
Robert Jones (ganwyd 17 Mehefin 1880) a benodwyd ar ei benblwydd yn un ar bymtheg i gludo'r post i Lanfflewyn a Mynydd Mechell am 6/6 yr wythnos.
William Williams (ganwyd 13 Tachwedd 1880) a benodwyd ar 18 Awst 1902 i daith Caerdegog, hefyd am 6/6 yr wythnos. Fe ymddiswyddodd ar 27 Mehefin 1908 a chymerodd John Roberts Parry (ganwyd 30 Gorffennaf 1878) y swydd hyd at 13 Mai 1911.
Postman Cemlyn
Roedd postmyn rhan amser yn gweithio stem rhanedig o 6 awr y dydd, yn danfon yn y bore a cherdded yn ôl gyda'u casgliadau yn gynnar y prynhawn. Treulient y cyfnod rhwng stemiau yn gwneud gwaith arall i ychwanegu at eu henillion isel o Swyddfa'r Post.
Y Post c 1900
Mae cyfrifiad 1901 yn dangos William Rowlands a'i chwaer Winnie, y ddau yn enedigol o Bwllheli, yn meddiannu'r Swyddfa Bost. Ni wyddom os mai ef neu ei chwaer oedd yn ddeilydd y swydd is Bostfeistr neu os mai Robert Jones oedd yn dal y swydd hyd at benodiad Laura C Davies yn 1902, dynes sengl dwy ar hugain oed. Yn y flwyddyn olynol, fe briododd Cadwaladr Davies, ysgolfeistr oedd yn byw yn 1 Glandwr ar y pryd gyda'i chwaer Miriam Davies.
Cadwaladr a Laura Davies
Roedd gwragedd a briodai yn ystod penodiad i'r swydd yn gorfod cael caniatad y Swyddfa Bost 'i gadw'r apwyntiad yn eu henw eu hunain' ac ym Mehefin 1903 cafodd ganiatad i wneud hyn.
Derbyniodd Laura Davies £12.18s per annum ( 5 swllt yr wythnos) pan ei phenodwyd.
Derbyniai bostmyn llawn amser rhwng 17 a 23 swllt yr wythnos. Roedd gweision fferm
yn derbyn 15/-
Roedd Llanfechell, fel is Swyddfeydd Post eraill ym Môn yn swyddfa lle talwyd yn raddedig i'r postfeistr/ postfeistres a oedd yn gorfod cyflenwi’r adeilad a'r cynorthwywyr (fel bo'r angen).
Nid oeddynt yn weithwyr sefydlog, a'r rhan fwyaf ohonynt yn cadw siopau bychan a
oedd yn edrych ar gyflog y Swyddfa Bost fel rhywbeth i ychwanegu at eu prif incwm.
Roedd y tal yn wael am oriau hir, dros 74 awr yr wythnos. Roedd Laura Davies yn agor
y swyddfa o 8am hyd at 8pm yn ystod yr wythnos, heb gau am hanner diwrnod, ac yn
agor o 8am hyd at 10 30 a m ar y Sul a'r Gwyliau Banc. Doedd dim gorffwys ar ddydd
Nadolig chwaith, gan ei bod yn agored am 2 awr yn y bore. Roedd ganddynt ddau fab
-
Yn 1916 prynodd Cadwaladr Davies y Swyddfa Bost am £300. Y flwyddyn olynol fe fu farw ei fab yn 8 oed. Saith mynedd yn ddiweddarach, yn 1924 bu farw Laura Davies yn 43 mlwydd oed ac yn 1926 cafodd Cadwaladr swydd fel Prifathro Ysgol Cemaes.
Dilynwyd ef gan Robert Owen Edwards a fu'n Bostfeistr hyd at 1930.
Tua'r amser yma, Thomas Williams (Ffordd y Mynydd) oedd yn danfon y post o gwmpas Llanfechell a Mynydd Mechell gan orffen yn Nhŷ Newydd, Gwenynog. Roedd yn gryn daith o gofio'r baich o lythyrau a pharseli wedi eu clymu at ei gilydd o gwmpas ei wddf, ac yntau'n gwisgo clog fawr i gadw'n sych.
Mae Miss Jean Jones – Calfaria yn cofio mynychu cyfarfod yn ysgoldy Capel Jerusalem ble roedd y diweddar Mrs Williams, Penllyn yn cyflwyno ffon gerdded addurnedig i Thomas Williams mewn cydnabyddiaeth o'i wasanaeth da. Mae'n debyg y byddai wir angen y ffon wedi'r holl gerdded.
Byddai Hugh Parry, Postfeistr Rhosgoch yn casglu'r post oddi ar y trên 6 am, ac yn dod a'r post wedyn i Lanfechell ar ei feic cyn ei ddosbarthu o Lanfechell i Lanfairynghornwy. Byddai’n casglu'r post ar ei ffordd yn ôl. Mae Mrs Jean Jones hefyd yn cofio cwt bychan o ddalennau haearn yn agos i'r garej a'r maes chwarae. Defnyddiwyd hwn gan y postman i ddisgwyl am y casgliad post ac i gael paned o de. Yn hwyrach ymlaen, pan nad oedd angen y sied, fe'i rhoddwyd i'w thad at ei ddefnydd ei hun.
************************************************
Dyma bostcard a anfonwyd o Fron Deg, Mynydd Mechell i Dŷ Newydd gyda stamp dimai yn 1911, pellter llai na milltir ar ddeg pan oedd cardiau post yn rhad iawn a gwarantwyd iddo gyrraedd ar y trannoeth.
Dear Mrs Nell Williams,
As I have been blamed for not sending a ready reply to your P.C. you might as well receive it now with the same satisfaction. Thanking you in earnest for it. Believe me. Yours.
*****************************************************
Yn 1931, gwerthodd Cadwaladr Davies y Swyddfa Bost i Mr. D.R. Evans a'i wraig Ceridwen.
Roedd yn Bostfeistr hyd at 1934 pan werthont i Mr. T.W. Edwards a'i wraig Laura.
Yn 1949, gwerthodd Mr Edwards ddarn o dir i Parry & Hughes am £25, a daeth yn rhan o iard yr adeiladwyr.
*************************************************
Postcard o Lanfechell a anfonwyd yn 1934
Postcard a anfonwyd oddiwrth Jean, merch Mr & Mrs Edwards i'w ffrind yn 1941.
************************************************
Tua'r amser yma Mair Williams – Plas oedd y bostwraig.
Miss Mair Williams, Plas
Mr a Mrs Edwards
Megan a Harry Robert
Mr Edwards Post fel y'i hadwaenir oedd y Postfeistr am y 30 mlynedd nesaf hyd at 1964 pan werthwyd i Mr & Mrs J. B. Griffiths (Grace Newry).
Buont yn rhedeg y Post am 2 flynedd yn unig cyn gwerthu i Mr & Mrs H G Roberts a adwaenom fel Megan a Harry Post. Buont yno hyd at 1993 pan brynwyd y Post gan eu merch Nesta a'i gwr Owen Roberts.
Swyddfa'r Post yn 1970
Yn 1998 gwerthwyd y Post i Mark ac Angela Wright
Y blwch post cyntaf yn yr ardal tua 1900 ( chwith)
Yn anffodus, ni ddefnyddir yr adeilad fel Swyddfa Bost bellach ac mae'n cael ei adnabod fel yr 'Hen Swyddfa Bost yn awr.
Mae adeilad y Swyddfa Bost yn dyddio yn ôl i'r 18fed Ganrif ac mae cyfeiriad iddo yn nyddiaduron Bulkeley. Adwaenir ef y pryd hynny fel Pendre a Hen Siop.