Eglwys Llanfflewyn
Llanfflewyn
Saif Eglwys Llanfflewyn ym Mynydd Mechell, ar dir Fferam y Llan. Dywedir fod cerrig o chwarel gyfagos wedi eu defnyddio ar gyfer to gwreiddiol yr eglwys.
Dyma restr o enw caeau Fferam y Llan a ysgrifennwyd o’i chof gan y ddiweddar Mrs M. Richardson, Gorphwysfa ( mam Iola Roberts, Hafod y Grug)
Cae Pot Powdwr -
Cae yr Eglwys -
Cae y Fuwch Frech – does gennyf yr un syniad am ystyr hwn.
Ponciau y Moch
Cors Marl-
Cae Llyn -
Cae Ynys Gwyddel hefyd Rhos Gate House
Ty’n Llan oedd enw’r fferm yn wreiddiol
Ym map y degwm yn 1841 ceir y manylion canlynol am y fferm:
Tirfeddianwr: Syr Richard Bulkeley
Tenant: Richard Parry
Enw: Ty’n Llan
Mesur: 216 a. 1r. 37p.
Rhent: £7.00
Chwarel Llanfflewyn fel ei gwelir heddiw, gyda thy y Fron yn y cefndir ar y chwith
Olion o’r hen chwarel ar dir ger Llanfflewyn
Y Cob ar draws Llyn Llygeirian
Gweddillion o’r graig a ddefnyddiwyd i adeiladu’r Cob
Mae'n llyn sydd ag arwynebedd o 29.8 acer. Fe'i rhennir yn ddau ran gan gob ar yr ochr ddwyreiniol. Adeiladwyd y cob gan Gwmni Lechi a Slabiau Llanfflewyn yn y 1870au. Datblygwyd chwarel ar dir Llanfflewyn gan Stad Bulkeley gyda’r bwriad i ehangu i gynnwys gwaith o dan ddaear, tai pwmpio, melinau llechi ac ati; ond methiant fu’r fenter. Defnyddiwyd gwastraff o’r chwarel i adeiladu’r cob, gyda’r bwriad o greu tramffordd i gyfeiriad ffordd Llanddygfael. Byddai’r wagenni a dynnwyd gan geffylau wedi cario’r llechi a’r slabiau ar eu taith i’r ffordd fawr ac ymlaen i’w gwerthu i bob cyfeiriad. Erbyn hyn, yr oll sydd ar ôl yw tomen o wastraff, gweddillion y gloddfa wedi ei amgylchynu gyda choed ac adeilad a welir i’r chwith o hynny.
************************************************************
Llanddygfael
Roedd trefgordd Llanddugwel yn rhan o blwyf Llanfechell, yng nghantref Talybolion. Ar un amser roedd yn blwyf arwahan. Erbyn hyn, nid oes unrhyw olion o eglwys St. Dygfael. Mae mapiau yn dangos lle roedd yr eglwys a Ffynnon Ddygfael yn sefyll. Erbyn hyn, mae tŷ o’r enw Bryn Eglwys yn sefyll yn agos i safle’r eglwys wreiddiol