Cymdeithas Hanes Mechell

Hafan


Addysg


Cegin Filwr


Anglesey Trading Company


Cyfweliadau


Brynddu a’r Dyddiaduron  


Yr Eglwys


John Elias


Ffair Mechell


Maes Mawr


Coeden


Melinau


Yr Oriel


Syr Owen Thomas


Y Feddanen

a’r Wygyr


William Jones,

Mathemategydd


Fortunatus Wright,

Herwlongwr


Jos Y  Crown


Cofeb Llanfechell


 Capeli Llanfechell


Ol cnydau yng Ngharrog

Yr Hen Lan

Enwau Lleoedd

Robert Williams, Blaenor

Swyddfa’r Post

Gweirydd ap Rhys

Demograffeg Llanfechell 1851 a 1901

Mynwent Llanfechell

William Bulkeley a thlodion Llanfechell






Cyflwyniad i'r Prosiect


yn ôl i Enwau Lleoedd


Cefndir:  Prosiect gan Ferched y Wawr yn genedlaethol

Nod: Casglu enwau lleoedd yn yr ardal – sef Llanfechell a Mynydd Mechell

Amcanion:

·        Rhoi darlun o’r ardal yn y gorffennol a’r presennol, i’w gadw ar gyfer y dyfodol.

·        Dangos pwysigrwydd cyfrannu tuag at sicrhau datblygiad a pharhad yr iaith                     Gymraeg yn yr unfed ganrif ar hugain

Cyflawni’r prosiect:

·        Casglu enwau anheddau a busnesau yn yr ardal

·        Edrych ar fapiau hanesyddol a chyfredol, yn cynnwys ymweld â’r Archifdy

·        Casglu tystiolaeth ar lafar

·        Tynnu a chasglu ffotograffau

·        Defnyddio celf fel tystiolaeth e.e. paentiadau a gwaith llaw

·        Casglu gwybodaeth oddi ar wefan Cymdeithas Hanes Mechell

·        Cywain gwybodaeth o lyfrau a chyhoeddiadau eraill

·        Aelodau yn gweithio’n unigol ac yn cyd-gyfarfod i grynhoi

·        Anfon y gwaith i Brif Swyddfa Merched y Wawr yn Aberystwyth

·        Rhoi cyflwyniad i Gymdeithas Hanes Mechell, a throsglwyddo’r deunydd yn                  ddwyieithog i’w roi ar y wefan,

·        Sicrhau bod athrawon a disgyblion Ysgol Gymuned Llanfechell yn cael                          defnyddio’r gwaith wrth iddynt astudio’r ardal leol


Llanfechell a Mynydd Mechell




                    Map o’r pentref o Frasluniau Lewis Morris, casgliad Y Parch.Dr.D.W.Wiliam

Pentref hynafol ar Ynys Môn yw Llanfechell, a dyfodd o amgylch eglwys o’r ddeunawfed ganrif a rhyd (sydd bellach yn bont) ar draws yr afon Meddanen. Mae yma nifer o feini hirion, dros 4000 o flynyddoedd oed. Ar un adeg rhannwyd y plwyf yn ddau – Llanfechell Caerdegog a Llanfechell Llawr y Llan

Ymysg cyn breswylwyr enwog Llanfechell mae William Bwcle o’r Brynddu, a gofnododd fanylion torieithog o fywyd yr ardal yn ystod blynyddoedd cynnar y 18fed ganrif yn ei ddyddiaduron helaeth; John Elias, y pregethwr Methodistaidd adnabyddus o ddechrau’r 19eg ganrif; a’r Cadfridog Syr Owen Thomas AS, milwr ac amaethwr o ddechrau’r  20fed ganrif.  Ar fur yr Ysgol Gymuned mae plac yn ein hatgoffa fod William Jones, y Mathemategydd fyd enwog, wedi derbyn rhan o’i addysg yn yr ardal.


Rhan o sgwâr y Llanfechell heddiw



 Map allan o bamffled ‘Teithiau Cerdded o Gwmpas Llanfechell’,     Menter Mechell 2010


cliciwch ar y map i'w weld yn fwy


I’r Gorllewin, ceir Mynydd Mechell, gyda thyddynnod a bythynnod wedi eu datblygu ar dir creigiog a llwm.  Mae tystiolaeth fod nifer o chwareli bychan wedi bod yma, gyda’r graig yn cael ei defnyddio i adeiladu’r tai,  y cloddiau a’r llwybrau. Dros y canrifoedd, bu cymdeithas glòs a gweithgar yn ‘Y Mynydd’.  

cliciwch ar y map i'w weld yn fwy

Rhan o Fynydd Mechell ar fap 1900, yn Archifdy Ynys Môn


***********************************************

Casgliadau o enwau

Yn y rhan yma ceir enwau ffermydd, tyddynnod, bythynnod,  tai  ac adeiladau eraill yn yr ardal ddoe a heddiw, wedi eu dosbarthu yn ddaearyddol. Bydd mapiau a lluniau yn gynwysedig yn ogystal ag ambell eglurhad.


O Benbodeistedd tuag at Cae Mawr a’r A5025

Bwlch

Cerrig Mân

Sarn (Sarn Crwban)

Pen-sarn

Fron Dderwydd

Bodorwedd

Pant y Bwlch

Plas Newydd

 Y Garth

Tyddyn – y – Waen

Madryn

 Awelfryn

Twll Cacwn

Cae Mawr

Hen Blas

Ty’n Giat ( Ffwlbi gynt)


Rhiangwyn

Angorfa

Bryn Mechell

Tremfoel

Bryn Derwen

Bray (Tŷ Liwsi gynt)

Eirlyn

Bryn Difyr

Barrington

Cae Mawr

Church Rooms

Old Village HalPenrallt

Tir Glas

Penbodeistedd

Pant y Bwlch

***********************************************


O Delfryn tuag at Dregele


Gors

Tyddyn Paul

Coed (Ty’n Lon gynt)

Gongl Felys

Delfryn

Cromlech

***********************************************

O Benbodeistedd i’r Sgwâr


Bryn Hafan

Gorwel Deg

Baron Hill

Gwêl yr Afon

Stad Penbodeistedd

Stad Maes Bwcle

Sŵn yr Afon

Bryn Afon

1, Glandwr

2, Glandwr

Plas

Coedlys

Coach House

Penygroes

Rhoswen

Tŷ Capel Libanus

Tanyfynwent

Gwalia

Y Siop

Crud yr Awel

Riverside(safle hen fragdy)



***********************************************


Y Sgwâr a Lôn Brynddu


Penygroes     

Coach House

Yr Hen Reithordy

Penlan

Rhes y Crown     

Rhes Brynddu

Highfield

Siop Newydd

Bryn Llwyd (Stores)

Tanydderwen

Maes y Plas


Y Garej    

Maes Martin ( Maes Chwarae)

Bryn Clyni (Pipi Down)


***********************************************


O Fryn Clyni tuag at Dai Hen


Tai Hen

Carrog

Carrog Isa

Meadow View

Dymchwa      

Bodelwyn

Criw

Adwy’r Ddol

Brynddu

Bryn Clyni

Y Stablau

Bwthyn y Wennol

***********************************************


O Fryn Clyni tuag at Garreglefn


Tyddyn Cywarch

Bryniau Duon

Bodelwyn Uchaf

Beudy Gwyn

Tyddyn Prys

Coeden

Waen Goch

Cerrig yr Eirin

***********************************************


O Garreg Daran tuag at Penygroes a’r A5025


Hafod

Gerddi Gwynion

Ty’n Llain

Newry

1, Tŷ Gwyn

2, Tŷ Gwyn

Bodlwyfan

Parc Newydd

Maes Mawr

Penrhos

Penybryn

Pen y Graig

Penffordd

Elusendy

Gwenithfryn

Plas Brain

Glan Gors

Llanddygfael Hir

Llanddygfael

Bryn Eglwys



Groes


Plas Mynydd

Mountfield

Pontffridd




Pen y Groes (Glanrafon gynt)

***********************************************


Ffordd y Mynydd i gyfeiriad Mynydd Mechell


Gwynant (Siop Blackshaw)

Pennant Glanrafon

Stad Maes y Plas ( Lôn Newydd)

Anwylfa

Bodhyfryd

Derwyddfa

Gwynfryn

Bryn Elwyn

Trofa

Stad Glanrafon

Stad Glanrafon Bach

Bryn Llwyd

Pen y Bont

Tal y Bont

Stad Penybont

Stad Nant y Mynydd

Ysgol Gymuned

Llifon

Glan Aber   

Preswylfa (Brockett Hall gynt)

Tŷ Capel Ebeneser   (Llwyn Teg)

Tyddyn y Mieri

Monfa

Pennant

Carreg y Daran

Tralee + Dingle ( 2 dŷ yn 1 erbyn hyn)

Gwynfryn

Penllain

Tyddyn y Waen

Llain Ganol

Two Acres

Simdda Wen

Lily Cottage


Arfryn

Haulfryn

Skerries

Ceris

Bwchannan

***********************************************

Mynydd Mechell


Tŷ Mawr

Gilfach Glyd



Elwyn

Tŷ Canol

Felin

Penllidiart

Ger y Felin

Parys

Tŷ Bugail

Four Winds

Peacefield

Trysor

Penllyn

Plas Glas

Lyndale

Faraway

The Elms

Pen y Bonc

Maesteg

Bryn Eiriol

Eithinog

Meirionfa

Minffordd

Penlan

Pant y Crwyn

Glasfryn

Tŷ Llidiart

Hafod Oleu

Hafod Las

Glanllyn

Hafod y Grug

Gorphwysfa

Glyn Bwch

Trysor

Tŷ Hen

Babell

Fferam y Llan

Tŷ Main

Bryn Eiriol

Bryn Goleu

Brynllyn

Plas y Nant

Gadlas

Tan y Bryn

Tai Lawr

Carreg Drosfford

Tyddyn Fadog

Bryn Ffynnon

Pen – yr- Argae

Bryn Hidl

Tŷ Newydd

Pen-Cae’r -Mynydd

Gorswen

Gorswen Newydd

Tai

Tan Braich

Bron y Mynydd

Minffordd

Rhosyn Mynydd

Brynteg

Siop Jerusalem

Engan Las

Twll Clawdd

Tan y Graig

Penmynydd

Argraig

Fron Deg

Bryn Gors

Yr Ogof

Tŷ Main Uchaf

Twll – y -Clawdd

Siop Penllyn

Llwyn Ysgaw

Bryn Du

Ty’n Llain

Pen yr Allt

Pant yr Eirin

Cil Haul

Pant y Crwyn

Wern

Wern Newydd-hen Efail y Gof

Plas y Nant

Bryn Tirion


Refail Newydd

Fern Hill

***********************************************


O Benygroes tuag at Dregele


White House

Rhandir

Cefn Coch

Pandy Cefn Coch

Y Pandy

Cae Gwyn

Ty’n y Coed  

Ty’n Rodyn

Tegfan

Ffatri      

Felin Gefn

Glanrhyd

Caerdegog    

Caerdegog Uchaf

Ty’n y Mynydd

Dyma enwau rhai llefydd sydd oddi allan i’r pentref, ond sydd yn dal yn Ward Mechell. Mae nifer ohonynt yn wag erbyn hyn.


Mynydd Ithel

Pennant      

 Tan Rallt    

Rhwng Dau Fynydd

 Bronydd  

Chequers  

Bryn Fferen

Firs Cottage

The Firs

Tyddyn Gele   

Penrallt

Groes Fechan


Foel Fawr

Rhes Cromlech


O ddogfen Stad y Brynddu 1875

cliciwch ar y ddogfen i'w weld yn fwy

********


Atgofion llafar rhai o’r  trigolion hŷn am fyd busnes yn Llanfechell

Llythyrdy

Ar un adeg, Mr Davies, oedd yn athro yn yr ysgol gynradd, oedd yn rhedeg y Llythyrdy a siop.  

Yna daeth Bob Edwards ( teulu Hugh Edwards Monfa ac Owen Edwards y gof)  i redeg y siop.  Byddai’n mynd o gwmpas y wlad yn gwerthu nwyddau.  Roedd gwraig Bob Edwards yn perthyn i deulu Tal y Bont.

Wedi hynny daeth Now Evans, ac yna Mr a Mrs Edwards ( Rhieni Jean Owen, Angorfa) o ardal Blaenau Ffestiniog yma.

Dilynwyd  Mrs Grace Griffiths, merch Newry, gan Mrs Megan Roberts  ac erbyn hyn mae Mrs Angela Wright yn cadw’r siop.

Siop y Crydd

Roedd Edwin Jones y Crydd, mab Benja Jones., yn byw ym Mhenlan ( 2 dŷ erbyn hyn - Penlan a Phenygroes).  Cadwai siop esgidiau wrth le mae Anwylfa heddiw.  Gwerthai esgidiau o bob math, ond roedd y siop yn enwog yn yr ardal am ‘Sgidia’ Benja Jones ( esgidiau hoelion mawr) .

Gweithiodd Mr W. Roberts, Rhosyn Mynydd yno fel crydd.  Wedi gadael yr ysgol, bu Mrs Beryl Jones yn gweithio yno.

Gweithdy Hugh Jones, Sarn ( Gyferbyn â Riverside, lle mae Coedlys heddiw)

Gweithdy saer oedd yma.  Roedd Hugh Jones yn adnabyddus am gadw stalwyni ac am gystadlu mewn sioeau.

Riverside

Arferai bragdy fod ar y safle.  Wrth drin yr adeilad, daeth perchnogion diweddarach o hyd i haidd ac olion eraill yn y muriau.

Tafarndai

Roedd tafarn yn lle mae festri Libanus heddiw.  Hefyd roedd  y Crown ac un yng Ngwalia.

Siop Cefn Glas

Isaac Jones oedd yn byw yn Cefn Glas, cyn iddo symud i Glan Dŵr wedyn.  Fe fyddai’n mynd o amgylch yr ardal yn rhedeg cynllun cynilo, i bobl gasglu arian i dalu biliau ysbyty.

Bu Hugh Williams yn cadw Cefn Glas ( Teulu Penllain)

Siop yn gwerthu bobdim oedd Cefn Glas. Byddai Owen John Owen ( Taid Mrs Maureen Jones) yn dysgu Côr Plant mewn ystafell yno, gyda Mrs Gillham yn chwarae piano iddynt.  Ddwywaith yr wythnos cynhaliwyd ‘syrjeri doctor’ yno.

Siop Stores ( Bryn Llwyd erbyn hyn)

Capten Evans oedd yn cadw siop yno, mewn cwt sinc.  Yna bu William Jones ( tad Mrs Megan Roberts gynt)  yn ei rhedeg, cyn iddo symud y busnes i’r Crown.  Ef sydd i’w weld gyda’r Fonesig Megan Lloyd George yn un o’r lluniau adeg dadorchuddio cofeb i’r rhai a laddwyd yn yr Ail Ryfel Byd.

Siop Crown

(gweler uchod)

Yn dilyn ei thad, bu Mrs Megan Roberts yn cadw’r siop, cyn iddi symud i’r Llythyrdy.  Bu Annwen Jones yn rhedeg y siop am gyfnod wedyn.

Siop Blackshaw ( ger gweithdy J. Parry and Hughes)

Byddai Emlyn Blackshaw yn pobi bara yn y siop.  Byddai plant y pentref yn galw yno ar eu ffordd adref o’r ysgol.

Siop Isfryn

Bu’r siop yma ar agor am wahanol gyfnodau tan yn ddiweddar.  

Garej Willie Hugh

Lle mae Stad Glanrafon rŵan, roedd dau gae yn arfer bod. Roedd un yn perthyn i’r Eglwys a’r llall i Dal y Bont.  Ar gae’r eglwys, gyferbyn â gweithdy J. Parry a Hughes roedd Willie Hugh yn cadw garej.  Roedd ganddo fws a thacsi.  Byddai pobl yn mynd ar y bws i Fangor i werthu eu cynnyrch ( wyau a menyn), ac eraill yn mynd yn y tacsi i Ysbyty Bangor i ymweld â’r cleifion.  Adeiladodd Willie Hugh fyngalo drws nesaf i’r garej o’r enw Trigfa ( sydd wedi ei dynnu i lawr erbyn hyn)

J. Parry and Hughes, Adeiladwyr.

Lleolir yr iard yn y pentref ar Mountain Road, a cheir nifer o gyfeiriadau at y cwmni mewn rhannau eraill o’r dogfennau yma.

Mynydd Mechell

Siop ‘Rogof – Mr  a Mrs Hugh Roberts yn cadw’r siop

Siop a Llythyrdy Penllyn  ( Audrey Mechell, gweddw y diweddar  Mr R. Williams, teulu Penllyn, yn byw mewn tŷ newydd o’r enw Glanllyn drws nesaf i’r hen siop erbyn hyn)

Efail y Gof yn y Wern – Owen a Hugh Edwards

Siop y Crydd yn Hafod Oleu

Siop ‘Open All Hours’ yng Nglasfryn

Glyn Bwch – Mr a Mrs Robert Jones yn gwerthu bara oddi ar fwrdd crwn ynghanol y llawr.  Arferai Beibl fod ar ganol y bwrdd bob amser.

Glan Gors – Mr Llew Jones gyda busnes gwerthu wyau a chwningod. Yn ddiweddarach bu’n gwerthu glo.

********

‘Y Cwt Du’

Roedd y Cwt Du yn gyrchfan pwysig iawn yn y pentref ar un adeg!  Yma y byddai pobl yn ymgynnull i chwarae dartiau, a sawl cwpl ifanc yn mynd yno i garu medda’ nhw.

Cwt sinc ar y ffordd allan o’r pentref i Garreglefn oedd y Cwt Du.

Byddai Mr Hugh Parry yn mynd  ar ei feic i Orsaf Rhosgoch i gasglu’r Post fyddai wedi ei anfon yno o Fangor.  Wedi cyrraedd yn ôl i’r Cwt, byddai’n dosbarthu’r llythyrau cyn mynd o amgylch y pentref yn eu danfon i’r tai.  Byddai’n mynd cyn belled â Phenygroes, a chasglu’r post ar ei ffordd yn ôl.  Yna byddai’n ymlwybro ar y beic i Rosgoch i dal y trên 5 o’r gloch.

Ymhen blynyddoedd daeth  y Fan  Goch â’r post o Amlwch i ddanfon y llythyrau a’r parseli i’r Llythyrdy.  Miss Mair Williams, Plas fyddai’n ei ddosbarthu a cherdded o gwmpas y pentref i’r trigolion ( Os fyddai hi’n lwcus, byddai’n cael benthyg beic weithiau!).

********

Roedd dau bwmp yn y pentref.  Un wrth Bont y Plas a’r llall yn Nhalybont.  Pwmp Talybont a ddefnyddiwyd ar gyfer dŵr yfed.  Ar gyfer golchi dillad ac ati y defnyddiwyd y dŵr o bwmp Pont y Plas, oherwydd y credai pobl fod gwithien ddŵr o’r fynwent yn rhedeg iddo.


Lôn Newydd  ( Lle mae Maes y Plas heddiw)

Byddai plant yn chwarae wrth y gamfa oedd yno, cyferbyn a thai ar Mountain Road. Byddai Margiad Williams ( Nain Mrs Glenys Humphreys) yn byw yn Nhy’n Ffynnon, a byddai’r plant yn mynd ati a gofyn ’Gawn ni weld y llwynog, plîs?’

Byddai hithau yn gadael iddynt gael gweld y llwynog wedi ei stwffio oedd ganddi yn y tŷ.


Map o ganol y pentref ar ddechrau’r ugeinfed ganrif (Archifdy Ynys Môn)

cliciwch ar y map i'w weld yn fwy

********


‘Church Rooms’

Byddai dawnsfeydd yn cael eu cynnal yno, wedi eu trefnu gan yr eglwys.  Mr Jenkins oedd y rheithor ar y pryd.  Roedd Mr Owen John Owen wedi sefydlu band ar gyfer cerddoriaeth i’r dawnsio.  

Yn yr adeilad roedd dau fwrdd snwcer ac un bwrdd biliards

Yn 1930  y Gwir Fonesig Violet Vivien, Cestyll oedd yn agor y ‘Basar’ er budd yr eglwys.  Tu allan i’r adeilad roedd twba yn llawn llwch lli, a’r plant yn talu ceiniog i fynd i’r llwch i chwilio am anrheg.  My Lady’s Toffees wedi eu lapio, chwiban neu hances boced fyddai’r gwobrau

********

Busnesau yn yr ardal heddiw

Mewn ardal wledig, bu amaethyddiaeth yn ddiwydiant pwysig iawn yma dros y canrifoedd.

Yn nyddiaduron William Bwcle a nifer o lyfrau ac ysgrifau eraill ceir cyfeiriad at grefftwyr o bob math fu’n gweithio yma.

Erbyn hyn, dyma’r ychydig fusnesau sy’n dal yn y pentref.



Y siop

Tafarn Cefn Glas


Siop trin gwallt


Cwmni Adeiladwyr J. Parry a Hughes


Maes carafanau Riverside


Maes carafanau a bythynnod gwyliau Coed


yn ôl i frig y dudalen


(cliciwch ar y mapiau i’w gweld yn fwy)

Y garej