Cymdeithas Hanes Mechell

Hafan


Addysg


Cegin Filwr


Anglesey Trading Company


Cyfweliadau


Brynddu a’r Dyddiaduron  


Yr Eglwys


John Elias


Ffair Mechell


Maes Mawr


Coeden


Melinau


Yr Oriel


Syr Owen Thomas


Y Feddanen

a’r Wygyr


William Jones,

Mathemategydd


Fortunatus Wright,

Herwlongwr


Jos Y  Crown


Cofeb Llanfechell


 Capeli Llanfechell


Ol cnydau yng Ngharrog

Yr Hen Lan

Enwau Lleoedd

Robert Williams, Blaenor

Swyddfa’r Post

Gweirydd ap Rhys

Demograffeg Llanfechell 1851 a 1901

Mynwent Llanfechell

William Bulkeley a thlodion Llanfechell






BYWYD YM MÔN YM MLYNYDDOEDD CANOL Y 19eg ganrif.

“Nodweddir y bedwaredd ganrif ar bymtheg ganrif gan chwyldroad masnachol a chymdeithasol…”,(i) meddai E.A.Williams. Prif ddigwyddiad Prydain, os nad y Byd i gyd, yn y ganrif honno oedd coroni y Frenhines Fictoria. Yn ystod oriau man y bore Mehefin 20, 1837 hysbywyd  Alexandrina Victoria o farwolaeth William IV  ac mai hi, yn ddeunaw oed,  oedd y frenhines. Dyma ddechrau y cyfnod (1837 – 1901) mwyaf cyffrous yn hanes y wlad ac a ddylanwadodd ar bron bob gwlad arall i raddau pellgyrhaeddol tu hwnt. Hwn oedd y cyfnod pan ddaeth Prydain i’r brig a ‘choch’ yr Ymherodraeth Brydeinig yn ymddangos ar y map.

O restru prif ddigwyddiadau y cyfnod – er enghraifft rhai oddi cartref - rhyfeloedd Afghan; rhyfeloedd yn India; Y Rhyfel Opiwm yn China; rhyfel y Crimea a rhai digwyddiadau ym Mhrydain - er enghraifft cyflwyno’r system tâl am bostio, cyflwyno’r system Treth Incwm; gostwng pris yd; yr Arddangosfa Fawr yn y Palas Crisial; y Broblem Wyddelig  gwelir fod patrwm bywyd yn newid a hynny yn gyflym - bron yn rhy gyflym i amgyffrediad pobl gyffredin.

Hwn oedd cyfnod rhai o’r gwleidyddion huotlaf a welwyd ym Mhalas Westminster – Syr Robert Peel; Dug Waterloo; Benjamin Disraeli; William Gladstone; Yr Arglwydd Melbourne; Yr Arglwydd Palmerston; Yr Arglwydd Salisbury ac eraill.  Yn eu sgìl, gwelwyd gwyddonwyr a dyfeiswyr, peirianwyr a fforwyr, awduron a beirdd dirifedi er enghraifft Isabella Beeton; Charles Dickens; Charles Darwin; ‘George Eliot’; W. G. Grace; Thomas Hardy; Joseph Lister; David Livingstone; Florence Nightingale; Robert Louis Stevenson; Alfred, Arglwydd Tennyson yn ymestyn gorwelion pawb ac yn gyfrifol am newid bywydau pawb boed wrêng neu fonedd.

Yr oedd manteision addysg y pryd hynny yn dra phrin yn y wlad… ond yr oedd y werin yn dra phell oddi wrth ddylni o anwybodaeth…” (2) meddai Daniel Rowlands o Langefni yn 1827


“Nid oedd amgylchiadau fawr gwell erbyn 1840’au. Meddai’r Parchedig Peter Williams, “…Adeg o galedi a phrinder oedd tymor fy mhlentyndod. Yn y flwyddyn 1846 y methodd y cnwd cloron a chyda hynny cafwyd cynhaeaf gwlyb a ddifaodd lawer o’r yd…Bywyd caled oedd eiddo y werin, y pryd hynny, ar y gorau. Gwnaed i fyny ymborth y bobl dlodion, yn bennaf o laeth a llysiau – uwd a bara llaeth yn bore a’r nos a chloron llaeth ganol dydd…Ni welwyd cig ar fwrdd bwthyn oddi eithr yn achlysurol i ginio Sul a gwl Nadolig…”   (3)

Fel y disgrifir yn nghofiant John Williams, Brynsiencyn yr oedd raid i bob teulu allu ychwanegu at eu hymborth mewn unrhyw ffordd bosibl. “… perthynai i’r Hen Gapel acer o dir, a pherllan helaeth yn rhan o libart y ty…y dyddiau yr oedd ffrwythau’n brin yn yr Ynys dygai ei chynnyrch elw nid bychan i’r teulu. Dysgodd y bechgyn yn bur ieuainc hel eu tamaid o amgylch y mynydd, a daethant yn fedrus ymhell tu hwnt i’r cyffredin ar hela a physgota. Dywedir fod John yn ‘sgut am bry’. Llwyddodd i gael dryll…ac ystyrid ef yn ddiguro am olrhain llwybr yr ysgyfarnog yn y gwlith a’r eira, ac yn ddifeth am eu dal…”  (4) Pan symudodd y teulu i Gemaes i fyw, aeth y tad a’i gi a’i ddryll efo fo. “Ofnai Miss. Broadhead gi a dryll yn fawr, ond gwyddai John Williams fod arni fwy o ofn crwydriaid. Perswadiodd hi fod ar y rhan fwyaf o’r urdd grwydrol ofn ci, a bod swn ergyd o wn yn ddigon i yrru’r dewraf ohonynt ar ffo.”  (5)

Yr oedd 40’au a 50’au y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn amser o newid mawr ym Môn fel ag ym mhob man arall. Ym Môn yn arbennig, yr oedd y Chwyldro Diwydiannol wedi methu i raddau helaeth iawn. Ar i lawr yr ai yr economi leol. Meddai’r hanesydd John Davies, “… yr oedd 1834 – 1845  ymhlith y cyfnodau mwyaf cythryblus yn hanes Cymru.” (6) Y rheswm pennaf am hyn oedd ymateb chwyrn y dosbarth gweithiol i’r mesur a basiwyd yn 1834 i ddiwygio Deddf y Tlodion – “An Act for the Amendment and better Administration of the Laws relating to the Poor in England and Wales.” Yr oedd cost cynorthwyo’r tlodion yn  gymaint a ¼ gwariant cyhoeddus y Llywodraeth ar y pryd! I’r werin gyffredin, yr oedd cyni yn wynebu bron bob teulu tra fod y tirfeddianwyr cyfoethog yn mwynhau eu hunain a gweld eu cyfoeth yn chwyddo. Sefydlwyd tlotai ond nid oeddynt yn bodloni anghenion y boblogaeth. Yr oedd amgylchiadau yn anodd os nad amhosibl ynddynt. Gwrthodwyd i gyplau priod fod yn yr un Wyrcws ac felly gwnaed ymdrech fwriadol gan deuluoedd i gadw draw o’r fath lefydd. Ffurfiwyd Undeb Deddf y Tlodion ym Môn ar Fehefin 1, 1837. Cyfrifoldeb Bwrdd y Gwarcheidwaid oedd gweithredu’r ddeddf – chew deg tri ohonynt yn cynrychioli’r pum deg tri plwyf oedd yn rhan o’r undeb. Yn eu mysg oedd plwyf Llanfechell.

Dyma gyfnod wedi Brwydr Waterloo a llawer o filwyr wedi dychwelyd gartref. Dyma pryd y gwelwyd ehangu mawr mewn llefydd fel Caergybi gyda datblygiadau yn y porthladd yn gyfrifol am fewnlifiad o Wyddelod a Saeson; Amlwch, a’r porthladd ym Mhorth Amlwch; cryddion Llannerchymedd yn eu hanterth yn darparu ar gyfer marchnad oedd yn prysur dyfu – e.e. dau gant a haner o gryddion  yn gweithio yn y ‘Llan’ yn 1833 mewn pum deg tri gweithdy. Yr oedd bron i ddeugain o siopau eraill yn Llannerchymedd ar y pryd yn amrywio o gigyddion i raffwyr; o sychwr llîn i ddyn hoelion. Cyflogwyd tua dau gant o ddynion yn chwareli Traeth Coch; codwyd glo o byllau Pentre Berw. Ar y ffyrdd, gwelwyd yr A5 yn cael ei hadeiladu ac yn cwtogi hyd y daith o Lundain i Gaergybi o wyth awr a deugain yn 1784 i ddim ond saith awr ar hugain yn 1836 a phontydd Menai yn croesi o Arfon a denu criw niferus o nafis crwydrol o Iwerddon, yr Alban, Cymru a Lloegr ac a fu’n gyfrifol am lawer o droseddau; hamddena i’r byddigions yn datblygu a phier ym Meaumaris iddynt gerdded ar ei hyd yn cael ei agor gan y Fonesig Bulkeley ar Dachwedd 1, 1843; dros hanner cant o siopau yn y dref i ddiwallu anghenion y boblogaeth leol a’r diwydiant ymwelwyr oedd yn brysur ddatblygu. Gwehyddion yn sefydlu eu hunain yma ac acw yn y man bentrefi ac erbyn 1835 yr oedd saith ffatri wlân yn gweithio ar yr ynys. Codwyd sawl melin wynt i falu’r grawn.

 Amser cyffrous i’r rhai oedd digwyddiadau o’r fath yn cyffwrdd eu bywydau ond i’r tlodion, oedd rhwng dwy stôl, ‘doedd y chwyldro yma ddim yn berthnasol. Ychydig ohonynt hwy allai fanteisio ar gyfle i wella eu bywyd. Iddynt hwy, ‘doedd dim ond gwaith, gwaith a mwy o waith a’r teimlad o genfigen yn mudferwi yn y meddwl a chasineb rhwng dwy garfan yn amlygu’i hun yn amlach.  Chwiliai llawer am ddihangfa mewn diod feddwol cymharol râd a beiwyd hwnnw am rai o ffaeleddau y cyfnod. Sefydlwyd cymdeithasau llwyrymwrthodol – y gyntaf yng Nghymru yn Llanfechell yn Nhachwedd 1834. Gwelwyd yr angen am fwy o heddlu a charchardai. Pasiwyd deddf seneddol yn 1839 - Rural Constabulary Act (County Police Act-2&3 Vict.C93) ac atodiad iddi yn 1840. Yn 1842 pasiwyd deddf - Parish Constables Act (5&6 Vict.c.109) yn rhoi hawl i gyflogi heddweision plwyfol ar yr amod eu bod yn gymharol ifanc, iach, yn talu trethi lleol ac wedi cael eu cymeradwyo gan yr ynad heddwch. Yr oedd carchar Beaumaris yma’n barod, wedi ei godi yn 1829 am gost o £6,500. Fe’i cynlluniwyd gan Hansom (a gynlluniodd adeiladau eraill ym Meaumaris ac a ddaeth i amlygrwydd pellach efo’r ‘Hansom Cab’) a Welch o Gaer Efrog ac fe’i hadeiladwyd gan William Thomas, adeiladwr o’r Traeth Coch. Ond erbyn 1844 yr oedd rhai llai megis ‘rheinws’ (lock-up) wedi eu codi yn Llannerchymedd, Amlwch a Phorthaethwy, a’r rhai yn Nghaergybi a Llangefni yn cael eu hymestyn. Datblygodd nifer o grwpiau i warchod eiddo, rhai a elwid yn ‘vigilantes’ y dydd efallai, a chorff o Heddlu ym Môn i fod yn un yn gwasanaethu yr ynys i gyd ac er i lawer o ‘ddwylo blewog’ fod wrthi’n brysur, cael eu dal oedd nifer fawr ohonynt.

                Fu Anne yn anlwcus tybed, yn cael ei geni yn y fath gyfnod? Yn ôl adroddiadau’r Wasg, nid yr hyn aeth a hi i Awstralia oedd ei throsedd gyntaf. Dwyn llefrith oedd y pechod hwnnw. Mae’n anodd deall pam iddi wneud y fath beth gan iddi fod, yn ôl pob tebyg, yn byw ar dyddyn os nad fferm fechan. Ei dadl hi oedd mai Ellen, ei chwaer, a’i cymhellodd i wneud y fath beth. Yr oedd yn ymddangos o flaen ei gwell am y trydydd tro pan gafodd ei dedfrydu i drawsgludiad ac i un o’r achosion blaenorol, hyd yn oed, ei rhoi mewn carchar. Yr oedd hi felly, yn perthyn i’r 37% ar y Garland Grove oedd wedi wynebu cyhuddiad a chosb am o leiaf un drosedd arall. Os o gefndir o’r fath, anodd yw meddwl amdani felly fel geneth ifanc, ddiniwed. Yr argraff sydd gan lawer, heddiw, yw iddi gael cam dybryd yn yr achos ond mewn gwirionedd, onid oedd hi yn euog ac wedi mentro ei llaw unwaith yn rhy aml?      

         Ychydig o obaith oedd ganddi o gael llawer o gyfiawnder gan y rheithgor, gyda phob parch, gan i’r rheini fod yn perthyn i garfan wahanol iawn i Anne o fewn cymdeithas e.e.


Yr Anrhydeddus William Owen Stanley, A.S.; (1802 – 1884).

 Ganwyd yn Alderley, Sir Gaer ac a oedd yn efaill i’r ail farwn Stanley o Alderley. Yr oedd yn gyfreithiwr medrus ond oedd yn un a dreuliai lawer o amser ar ei stadau tu allan i Fôn. Sonnir amdano fel un a pharch mawr i ryddid cymdeithasol a chrefyddol ac o’r herwydd bu’n ymladd yn gadarn yn erbyn uno Esgobaethau Llanelwy a Bangor.

 

William Bulkeley Hughes, Yswain, A.S.; (1797 – 1882).  

Ganwyd ym Mhlas Coch ac a allai olrhain ei deulu yn ôl i Llywarch ap Bran. Fe’i addysgwyd yn Ysgol Harrow a bu yn aelod seneddol dros fwrdeistrefi Caernarfon. Yr oedd yn berchennog pedair mil, chew chant naw deg saith  acer o dir ac yn gadeirydd Cwmni Anglesey Central Railway.

 

Richard T. Griffith, Ysw. Bodwyr Isaf.

Uchel Siryf Môn yn 1850 a  pherchennog pedair mil, wyth gant a saith deg tri acer o dir.

 

Is-Lyngesydd Robert Lloyd, Plas Tregaean (geni 24:03:1765).

Llongwr heb ei ail a wasanaethodd y Llynges Brydeinig mewn sawl brwydr ac fel capten sawl llong gan gynnwys yr ‘Hussar’, y ‘Plantagenet’, y ‘Mars’, y ‘Valiant’, y ‘Latona’ – llong tri deg wyth gwn, yr ‘Hebe’, y ‘Robust’, y ‘Racoon’ a’r ‘Swiftsure’.

Gwrthodwyd iddo, gan farnwr,  ymuno a’r ‘Hussar’ – llong newydd sbon gant pum deg pedwar troedfedd * deugain troedfedd a chew modfedd * tair  troedfedd ar ddeg a chwe modfedd – mil a saith deg saith tunell- ar Mawrth 29, 1807 gan ei fod yn aelod o reithgor yn y Llys ym Meaumaris.

Ar ddiwedd ei dymor ar y ‘Swiftsure’ daeth adref o’r môr i fwynhau cymdeithas a chyfeddach y ‘Beaumaris Book Society’, a sefydlodd, ac a ailenwyd yn ddiweddarach y ‘Royal Anglesey Yacht Club’.


John Williams, Ysw., Treffos (1784 – 08:07:1876).

Cafodd ei addysg yn Eton a Rhydychen. Bu’n byw yng Nghaer a bu’n faer yno deirgwaith. Er hynny, yr oedd yn amlwg iawn ym mywyd cyhoeddus Ynys Môn a bu’n Gadeirydd y Brawdlys Chwarterol am bump deg dau mlynedd.

 

Henry Webster, Ysw., Vitriol (math o olew o geid drwy broses o ddyfrio haearn gwastraff ym Mynydd Parys).

 

James Treweek.

Rhoddwyd iddo’r teitl o ‘Gapten’, oedd yn adlwerychu ei statws cymdeithasol pan oedd yn byw yng Nghernyw ac yn berchen mwynglawdd tun. Daeth i Amlwch ym mis Hydref, 1811 fel rheolwr y Mona Mine Company. Datblygodd yn wr busnes effeithiol a dod yn berchen iard longau ym Mhorth Amlwch. Bu farw yn 1851.

 

Stephen Roose.

‘Dyn dwad’ arall a fu’n gweithio fel asiant ym Mynydd Parys.

Beth wyddent hwy am fyw ar geiniogau? Gallai pob un ohonynt fforddio i daflu punnoedd i ffwrdd heb ysgafnhau eu pwrs. “They are like two nations that have no contact or sympathy. They know little of each other’s habits, thoughts and feelings…” Dyna sut y disgrifiodd Benjamin Disraeli y ddwy garfan wahanol iawn oedd yn bodoli o fewn cymdeithas. Y Tlodion a’r Cyfoethog. Yr oedd y rhaniad yn syml. Os oeddech yn perthyn i’r ‘Tlodion’ yr oedd bywyd yn gallu bod yn boen ond os oedd gennych arian – yna gwyn eich byd. A phobl felly oedd yn rhannu allan gyfiawnder.

          Yn 1842, y flwyddyn y trawsgludwyd Anne, cafwyd deddf seneddol i wahardd gwragedd, genethod ifanc a phlant dan dair ar ddeg oed rhag gweithio yn y pyllau glo. Cysidrwyd hon yn ddeddf oleuedig iawn gan ei bod yn rhoi terfyn ar yr arfer dychrynllyd o anfon plant mor ifanc a phump oed i weithio mewn lefelau glo oedd yn rhy gul i ddynion fynd iddynt. Yr oedd eraill yn treulio’u hamser yn gweithio’r gwyntyllau mewn shafftiau tra byddai’r gwragedd a’r genethod ifanc yn halio’r dramiau llawn.

         Ond beth am Lanfechell? Yn ei llyfr “The History of the island of Mona“, mae Anhgarad Llwyd yn ei ddisgrifio fel pentref yng nghantref Talybolion, chwe milltir o Amlwch a chwe milltir ar hugain o Feaumaris. Yn y Canol Oesoedd yr oedd iddo ddwy drefedigaeth – Caerdegog a Llawr y Llan. Ar wahan i olion o Oes y Cerrig, yr adeilad hynaf yn y pentref oedd yr eglwys a adeiladwyd yn 630 a’i chysegru unai i Mechell verch Brychan (brenin Brycheiniog), gwraig Gynyr Varvdrwch neu i Fechyllas Echwys Gwyn Gohoyw ap Gloyw Gwlad Llydan (Llawysgrif Llansteffan 125).

Yn 1821 yr oedd y boblogaeth yn fil a thri deg pump ond wedi gostwng i naw cant saithdeg a chwech erbyn 1831. Treth y Tlodion oedd £97. 3s. 0d. yn 1803 ond £433. 13s. 0d. yn 1831. Yr oedd bywyd cymdeithasol neu gyfeddach yn cael lle amlwg gyda’r Wylmabsant yn cael ei dathlu ar Dachwedd 15 a ffeiriau eraill yn cael eu cynnal ar Chwefror 25, Awst 5, Medi 21, Tachwedd 5 a’r 26. Erbyn 1849, dim ond dwy ffair flynyddol a gynhaliwyd ar Dachwedd 25ain ac ar Ragfyr 26ain. a’r farchnad wythnosol ar Ddydd Gwener.

Eto, yn ôl Angharad Llwyd, yr oedd cyfoeth o fineralau yn y fro gyda Marmor Gwyrdd Mona (Verd Antique) yn cael ei gloddio ym Mona Mawr ag Asbestos i’w gael yn lleol hefyd. Ychwanega Samuel Lewis, yn ei “Topographical Dictionary of Wales”  fod Sylffwr yn cael ei gloddio ym Machannan, ddwy ffilltir i’r dwyrain o Gefn Bach Du a bod Steatite (Sialc Ffrengig) i’w gael yn y plwyf hefyd.

Sefydlwyd yr ysgol gyntaf yn yr ardal gan Richard Wynne yn 1723, er mai dim ond pedwar bachgen oedd ar y gofrestr yn 1831. Gellir cadarnhau mai gwella wnaeth y sefyllfa. Yr oedd dylanwad y Methodistiad y eithaf cryf yn y pentref ers pan sefydlwyd yr ysgoldy cyntaf yn yr ardal yn Hafod Las yn 1815 gan Mr. John Elias, mab y Parchedig John Elias. Tyfodd yr achos yn ddigon cryf i gynnal dosbarth/ ysgol yn y pentref, bob nos Iau o 1823 ymlaen, yng ngweithdy William Parry’r Saer ac Ysgol Sul foreol, a agorwyd am 6 a.m., yn yr Hen Siop. Datblygu wnaeth yr achos a gwelwyd y ffordd yn glir i adeiladu ysgoldy yn 1832 ar dir John Hughes, Lleugwy. Parhaodd yr ysgoldy fel man cyfarfod hyd nes 1850 pryd y’i tynnwyd i lawr er mwyn gwneud lle i addoldy Libanus. Yn 1883 ychwanegwyd ato drwy godi Ystafell Elwyn Hall, drwy garedigrwydd teulu Bodelwyn.

Yn yr un cyfnod, gwelwyd yr achos yn gafael a chryfhau ym Mynydd Mechell gyda’r Ysgol Sul yn cyfarfod yn nhy Thomas Evans, Hafod Las ac adeiladu’r capel bychan cyntaf yn 1817. Helaethwyd adeilad Jerusalem yn 1827  a 1852 ac erbyn 1886 yr oedd i’r eglwys bump blaenor, cant a chwech o gymunwyr, dau gant o wrandawyr a chant saithdeg pedwar aelod yn yr Ysgol Sul.

Ond wrth edrych yn ôl ar Lanfechell yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg gwelwn  mai “…plwyf amaethyddol ydyw y plwyf hwn. Cyfrifir ef yn un o’r plwyfi mwyaf yn Môn. Y mae ei arwynebedd yn dair mil o aceri; ei boblogaeth tua naw cant. Rhifedi y tai yn y plwyf ydyw 221. Y mae ynddo ddau bentref, sef Tregela a Llanfechell. Nid yw Mynydd Mechell yn bentref. Erbyn hyn y mae yn y plwyf liaws mawr o freeholders, pa rai sydd yn manteisio yn amlwg ar eu sefyllfa i wella eu tai a’u tyddynod, gan nad ydynt yn ofni notice to quit. Dyddorol yw y ffaith nad ydyw rhif y rhai a dderbyniant gymmhorth plwyfol ddim ond 32, allan o boblogaeth o tua 900. Rhaid fod y trigolion yn ddarbodus ac ymdrechgar yngln a’u hamgylchiadau. Bydd yn y  pentref ffeiriau rheolaidd er’s cyn cof; cyrchir iddynt o filldiroedd o bellter, a chydnabyddir eu bod yn wir angenrheidiol i’r rhan hon o’r ynys. Bu, ers blynyddoedd, sôn am ymladdfeydd ffeiriau Llanfechell; ond erbyn heddyw, trwy drugaredd, y mae yr hen arferiad ffôl wedi darfod yn llwyr. Diau fod dylanwad yr Efengyl, yr Ysgol Sul, a’r cymdeithasau dirwestol, dan fendith y Nefoedd, wedi bod yn foddion i wella moesau y cymmydogaethau yn y cyfeiriad yna; ond etto y mae lle. Y mae crefftau cyffredin, angenrheidiol mewn gwlad amaethyddol, yn cael eu cynrychioli yn dda yn y plwyf, ac wedi  bod felly bob amser. Ceir yma seiri coed a seiri meini, yn grefftwyr rhagorol, a phlastrwyr; a gofaint, dri neu bedwar, a’r rhai hyny yn grefftwyr rhagorol; a’r prawf ydyw, y bydd eu herydr yn ennill safleoedd cyntaf yn fynych yn yr ymdrechfeydd aredig yn y gwahanol gymmydogaethau. Ceir yma wneuthurwyr esgidiau a dilladau o’r radd flaenaf yn y wlad. Un dafarn sydd yn y pentref hwn. Ni cheir yn Ynys Môn yr hyn a geir yngln a’r Crown Hotel; sef, y cyfleusderau conveyances a geir yma. Gwneir yma fasnach anhygoel yn y cyfeiriad hwn, bob dydd trwy y flwyddyn , ac yn enwedig yn ystod misoedd yr haf a’r hydref. Bydd anifail pwrpasol a cherbyd at bob galw, o’r briodas i’r angladd, a hyny am brisiau rhesymol…Y mae yn syndod mewn ardal mor wledig, fod masnach mor eang yn y cyfeiriad hwn. Rhifa ei feirch, o fawr hyd fychan o ddeutu ugain, ac y mae ei gerbydau o fawr i fan, yn ddi-rif bron; ond er cymmaint, yn fynych iawn byddant oll ar waith. Y mae addysg wedi cael lle mawr iawn yn hanes y plwyf yn lled foreu; ni wyddom yn sicr pa mor foreu. Yr oedd yma ysgol ddyddiol flynyddoedd lawer cyn sefydlu yr Ysgolion Brytanaidd yn y wlad; yr oedd hi yma lawer iawn o flynyddoedd cyn bod sôn am yr un adeilad pwrpasol i’w chynnal. Bu am dymmor yn llofft yr hen siop, o dan ofal athrawes; yna bu am amser yn llofft y Barcdy. Yr athraw ydoedd Mr. Andrew Brereton, Plas Llanfechell*…Yn y flwyddyn 1834, symmudwyd yr ysgol o’r Barcdy i gapel y Methodistiaid, yr hon, erbyn hyn oedd dan ofal un John Owen, gwr ieuangc o Borthaethwy… Cafodd yr Efengyl afael lled foreu yn y plwyf hwn, a bu rhai o ddiwygwyr Cymru yma yn pregethu…Y mae yn y plwyf bump o gapelydd gan yr Ymneilltuwyr…”    (8)

Er iddi fod yn byw mewn “nefoedd fach ar y ddaear”, methu cadw’r llwybr cul wnaeth Anne a chafodd ei hun ar y llwybr llithrig i’r llys a’r llong i Awstralia. Dyma un na ddylanwadwyd arni gan John Elias.  

Ond eto i gyd, fedr rhywun dderbyn disgrifiad o’r fath gan wybod fod amgylchiadau teuluoedd yn y cyfnod mor anodd? Oedd Robert Edwards, awdur y disgrifiad, yn gweld pethau fel yr hoffai iddynt fod a bod ei Lanfechell ef yn debyg i’r darlun a geir o sawl ‘Llan…’ delfrydol arall a geir yn Lloegr yn y cyfnod hwnnw? “…warm coloured stone cottages, with their thatched roofs and climbing roses, with their village green and the inn and the duckpond and the old steepled parish church “ efo’r “…ploughmen in their smocks, a blacksmith in his trusty apron and wives in cheery cotton dresses.” (9) Anodd credu fod Llanfechell y “nefoedd fach honno ar y ddaear” pan oedd Amlwch, ddim ond chwe milltir i ffwrdd, yn “…rows of cottages or hovels of the lowest description; … cottages are very small and crowded together without proper ventilation or drainage. The people are cramped together in the cottages in a manner injurious to health and decency.”  (10)

                   Beirniadol iawn oedd sylwadau’r Arolygydd John James yn Adroddiad y Llyfrau Gleision ar Addysg yng Nghymru 1847 am ysgol y Llan hefyd. Wedi canmol yr hyn gynnigwyd ar y cwricwlwm – darllen, ysgrifennu, rhifyddeg, gramadeg, daearyddiaeth, mordwyo, Ysgrythur a’r Catechism Eglwysig, aeth ymlaen i ddifrio cyraeddiadau’r disgyblion oedd yn yr ysgol ar Dachwedd 12, “…nine could read fairly…out of nine who were learning arithmetic, three could work sums in Propotion. Only one knew anything of Geography, and that was very little. There was no one who could repeat any of the Church Catechism owing to the objection of the parents. Three were able to answer Scripture questions well; others showed great ignorance of the subject. One said John the Baptist was the Son of God, and another that it was Adam and his family who wnet into the Ark. Thirty five scholars were above ten years of age. A few of the other children could understand a little English; but the majority were reading words which, to them had no meaning. The master speaks English fairly. He does not control the children; there was no discipline in his school…”  (11)

Gwyddom, wrth gwrs, am ffaeleddau’r adroddiadau hyn drwy Gymru ac nad oeddent yn adlewyrchiad teg o gwbwl o’r sefyllfa oherwydd diffyg dealltwriaeth yr arolygwyr o ‘iaith y nefoedd’. Felly, rhaid chwilio am y llwybr canol rhwng yr hyn a geir gan Robert Edwards ac yn y “Llyfrau Gleision” i ddysgu am amgylchiadau byw y cyfnod.

         Os edrychir yn fanwl ar yr hyn y cyhuddwyd Anne o’u dwyn, gellir dweud mai dwyn am ei bod mewn angen a wnaeth yn hytrach nag i deimlo unrhyw wefr. Er nad yw’r cofnodion yn dangos hynny, mae lle i gredu efallai mai plentyn siawns oedd Anne neu iddi gael ei mabwysiadu. Pam rhoi iddi’r cyfenw ‘Williams alias Edwards’ bob tro ond nid i’w brawd na’i chwaer? Oedd yna ryw gyfrinach neu ddigwyddiad anffodus yn hanes ei mam? Oedd ei thad yn ei gorfodi i arddel yr enw ‘Edwards’ rhag iddi hi a’i mam anghofio y ‘funud wan’ honno? Oedd Anne druan yn cael ei thraed dani gartref oherwydd hynny? Efallai mai dyna pam y’i gorfodwyd i arddel crefft y rhai a ‘dwylo blewog.’ Fyddai dwyn peint o lefrith buwch mewn cae o eiddo Ebenezer Williams ddim yn hwyl. Bodloni angen oedd o, mae’n siwr ond, yn anffodus, dyma hefyd ddechrau y daith i lawr y llwybr llithrig a ddiweddodd ym Meaumaris a Van Diemen’s Land.      

BYWYD YM MÔN YM MLYNYDDOEDD CANOL Y 19eg ganrif.

1. The Day Before Yesterday. E.A.Williams. (Translated by G.Wynne Griffith) 1988.

2. Llen a Llafar Môn. Gol.:J.E.Caerwyn Williams. Cyngor Gwlad Môn 1963.

3. Llen a Llafar Môn. Gol.:J.E.Caerwyn Williams. Cyngor Gwlad Môn 1963.

4. John Williams, Brynsiencyn. R.R.Hughes. Llyfrfa’r Cyfundeb Caernarfon 1929.

5. John Williams, Brynsiencyn. R.R.Hughes. Llyfrfa’r Cyfundeb Caernarfon 1929.

6. Hanes Cymru. John Davies. Penguin Books 1992.

7. Benjamin Disraeli. Araith 1846.

8. Adgofion am Llanfechell a’r Cylch. Robert Edwards 1909.

9. English Passenegrs. Matthew Kneale. Penguin 2002.

10. Adroddiad ar Gyflwr Addysg Yng Nghymru 1847.

11. Adroddiad ar Gyflwr Addysg Yng Nghymru 1847.


                                                                        Yn ôl i frig y dudalen


Yn ôl i Cegin Filwr