Dydd Mawrth, Diwrnod Ffwl Ebrill, 1842.
(Er nad oes yna yr un ffwl mwy na fi heddiw.)
Tra bydda i byw, wna i ddim anghofio beth ddudodd y cythral Coltham ‘na;
“EUOG.”
Euog o ddiawl! Be fasa fo wedi wneud tasa fo yn fy sgidia fi? Pan mae pawb yn chwerthin am ych pen ac yn cymryd mantais ohonoch, talu’n ôl i’r diawlad ydy’r unig beth fedra hogan fel fi ei wneud. Ges i lond bol ar bobol fel Twm, Ty^’n Cowarch, yn cymryd mantais arnaf fi ac ym meddwl y medra fo fy nhaflu o’r neilltu pan oedd o wedi cael digon. Hy! Cafodd pawb wybod sut un oedd o, a’i enw yn cael ei lusgo drwy’r baw yn ystod yr achos ym Miwmaras. Eitha’ gwaith a fo. Fe fydd yn rhaid iddo fo fyw yn Llanfechell am ei oes a bydd pobl yn cofio yr hyn wnaeth o ond mi fydda i yn ddigon pell i ffwrdd ac mi fydd pawb ond Mam, gobeithio, wedi anghofio amdana i, yn ddigon buan.
Ond os caiff o aros yn Llanfechell, nid felly bydd hi arnaf i. Ostrelia ddudodd y barnwr;
“Eich trawsgludo dros y môr i Ostrelia.” Dyna ddalltis i o yn ei ddeud. ‘Roedd o yn meddwl nad oeddwn i yn dallt i Saesneg crand o ond mae yna fwy ym mhen Anne Williams na mae neb yn ei feddwl. Ella na fues i yno’n hir ond mi ddysgis i ambell i beth yn Ysgol John Jones yn y Llan. Ond cha i ddim gweld y Llan eto, mae’n siwr.
“Am gyfnod o ddeng mlynedd!” medda fo wedyn. Mi fydda i yn saith ar hugain oed erbyn hynny ac yn barod i briodi, os cymrith rhywun fi. Pwy fasa’n ddigon ffôl i nghymryd i? Pwy a w^yr?
Rhywbeth arall nad oedd y Barnwr na yn ei wybod oedd fod gen i lyfr efo fi. Gan Mam y cefais i o ac mi gadwa i hwn yn agos i nghalon tra medra i. Pan fydda i yn clywed ogla'r lledr ar ei glawr, mi fyddaf yn cofio am Mam.
Yn hwn y ca i fwrw mol a deud fy neud fel y bydda i yn teimlo ac mi wna i yn siwr na fydd neb yn cael dwyn hwn oddi arna i. Methu ddaru nhw ym Miwmaras beth bynnag. Mi cadwa i o tra medra i.
Dydd Gwener, Calan Mai, 1842.
Erbyn hyn, rydw i wedi cyrraedd Carchar Millbank. Gehena o garchar ydy fa'ma i gymharu â Biwmaras. Lle yn Llundan ydy o yn llawn o ferched gwallgo neu 'hwrs a lladron' fel basa hogia'r Crown yn eu galw nhw! Wel, pwy yn ei iawn bwyll fyddai’n torri’r gyfraith er mwyn cael dwad yma? Bydd raid i mi fod yn ofalus iawn rhag colli fy llyfr.
Cafodd pawb archwiliad manwl ar ôl cyrraedd yma. Cael fy holi yn dwll:
“Enw?
Oed?
Dyddiad geni?
Lle da chi’n byw?
Pam eich bod chi yma?”
Fel nad oedd o yn gwbod yn barod! Ac i goroni pob dim, dyma rhyw ddynas fawr, nobl yn gafael yn fy mraich, a’m sodro mewn cadair a thorri ngwallt i’r bôn. Phoenodd hynny fawr arna i ond i ambell un efo plethan, mi fentraf eu bod nhw wedi teimlo i’r byw. Mi fydda Mam yn dweud mai gwallt merch ydy i gogoniant hi.
“Rhag llau!”, medda’r fawr. ”Rwan, i’r bath a chdi!”
Wyddwn i ddim yn iawn beth oedd bath ond mi ddalltis i’n fuan pan fu raid
i mi dynnu’n nillad i gyd a mynd ar fy nghwrcwd mewn anferth o fwced fawr. Wedyn,
dyma’r fawr yn dechrau sgwrio nghefn i efo brws bras nes oedd o bron yn gig noeth!
Roeddwn i yn benderfynol na faswn yn crio, er roedd y dw^r llugoer yn sblashio ar
fy ngwyneb yn cuddio unrhyw ddeigryn ac er mor oer oedd y dw^r, roedd y dagra'n llosgi.
Sgwrfa go iawn a finnau ddim ond wedi arfer efo llyfiad cath, yn y gasgen ddwr oer
wrth y drws cefn, bob bore. Dillad glan i bawb wedyn. Dim byd tebyg i ffrog chwaer
Twm Ty^’n Cowarch, chwaith. Fawr o steil yn perthyn i hon. Melfaréd brown; barclod
glas a chap am y mhen i guddio'r diffyg gwallt. O leia, roedda nhw yn lân a dim hannar
mor ddrewllyd a beth oedd gen i amdanaf cynt. Heb gael newid ers gadal Biwmaras.
Roeddan nhw yn rhy awyddus i gael gwared a fi o fano ond diolch i’r drefn, rydw i
di medru cuddio'r llyfr yn fama a fanno. Mi cadwa i o tra medra i -
Dydd Mercher, Medi 28ain, 1842.
Cawsom ein deffro o gysur breuddwydion yn oriau man bore ddoe a rhoi ein
traed mewn cyffion. Wedi i bawb ateb eu henwa a derbyn rhif, bu raid i ni gerdded
mewn llinell o'r carchar, ar draws y ffordd, i lawr grisiau cerrig, llithrig iawn
at yr afon ac ar draws pont gul gythreulig ar fwrdd rhyw long -
Dydd Iau, Medi 29ain, 1842.
Hwylio i lawr afon Llundan a chael 'n tynnu gan long arall. Mae hon yn llai na'n llong ni a chymyla o fwg yn dylifo allan o gorn shimdda ar ei dec. Dyma'r tro cyntaf yn fy mywyd i mi weld stemar. Welais i ddim ohoni yn iawn, dim ond clywed swn y dw^r yn clepian ar ochr 'n llong ni, gan na chai neb roi ei drwyn allan yn yr awyr iach rhag ofn iddyn nhw drio dengid. Yn Llundan mae na fyddigions yn byw, mae'n siwr.
Dydd Gwener, Medi 30ain, 1842.
Mae hon yn llong llawar iawn, mwy na honno fues i arni o Gemas i Amlwch. Cwch odd
honno wrth ochor hon. Mae hon yn reidio’r tonna fel ebol blwydd. Basa'n well o'r
hannar gen i tasa hi'n rafu tipyn gan fod fy stumog yn teimlo'n gwla iawn ers cychwyn.
Ond er mor fawr, mae hi'n gyfyng iawn tu fewn heb fawr o le i ddim -
Dydd Sadwrn, Hydref 1af, 1842.
Gwynt wedi gostegu ac yn bnawn braf. Wel, mae'r haul allan beth bynnag ond fedr rhywun dim teimlo'n braf mewn carchar fel hyn. Braf neu peidio, yma bydda ni nes cyrradd pen draw'r byd!
Dydd Llun, Hydref 3ydd, 1842.
Ma na bob math o longa bychan o'n cwmpas yn cario geinia o bobl. Mwynhau i hunan ma nhw wrth gwrs ac yn rhythu arna ni heb sylweddoli mai dal i deithio fydda ni pan fydda nhw yn saff yn i gwlau i hunan. Mynd a mynd yda ni ond Duw a w^yr i le.
Dydd Mawrth, Hydref 4ydd, 1842.
Hiddiw, fe drodd y llong tua'r môr gorad. Fe ddudodd un o'r criw, yn ddigon giamllyd, "Take your last look at the land of Mother England." ‘Sgwn i ga’i ddwad i Gymru'n ôl ryw ddwrnod? Wn i ddim pa un ohonom sy waetha’? Ellen ta fi. Mae’r ddwy ohonom yn i chael hi'n anodd i ddal y dagra nol, erbyn hyn. Hyd hiddiw, rodd na ryw obaith, ella, y basa ni’n cael mynd adra’n ôl – ond rwan dim ond y môr mawr, gorad pia hi. Bu’r ddwy ohonom yn beichio crio drwy’r dydd a’r hen Seuson ma yn gneud dim ond chwerthin am yn penna ni. Damia nhw!
Dydd Sul, Hydref 9fed, 1842.
Y Doctor yn darllan y gwasanaeth fora hiddiw. William Bland ydy i enw fo ond ‘Syr’ ydy i deitl o i bawb ar y llong yma. Pawb yn gorfod bod yn y gwasanaeth, waeth be di cred nhw. Anodd iawn credu mewn dim yng nghanol criw fel sy yn fa’ma. “Duw cariad yw,” medda hen berson tew y Llan ond os ydy Duw yn caru ni, rhyfadd i fod o yn gadal i hyn ddigwydd. Tydy Duw ddim yn caru pobol fel ni, dwi’n sïwr, Pobol fawr ydy i bobol o.
Dydd Llun, Hydref 10fed, 1842.
Tywydd mawr. Llawar un gegog yn sâl ac yn gwagio'i bolia yn y bwcad gosa ne rwla
cyfleus! Itha gwaith a nhw. Gorfod aros o’r golwg dan dec ond yn cal cyfla am sgwrs
efo Ellen. Un o sir Ddinbach ydy hi. Mae ma rai erill o Gymru ond dydy nhw ddim yn
siarad Cymraeg fatha ni. A deud y gwir, mae’n well ganddyn nhw siarad Seusnag. Gneud
hwyl am yn penna ni mae nhw ran fwya o’r amsar ond pan mae nhwtha’n ddigalon -
Dydd Mawrth, Hydref 11eg, 1842.
Tywydd mawr eto. Ar dywydd fel hyn, mae’n anodd cadw’ch dillad yn sych ac yn anoddach fyth cael cyfle i sychu nhw wedyn. Hen betha ciadd ydy dillad di sychu ar ôl cal i socian gan heli'r môr. Mae hwnnw yn gneud nhw yn galad ac mae nhw'n rhwbio yn erbyn croen rhywun. Mae’r briw ar y nhroed ar ôl y cyffion yn llosgi yn arw pan mae dw^r môr yn mynd iddo ond mae Doctor Bland, chwara teg iddo, yn rhoi eli i mi roi arno. Dipyn o haul ar y nghefn ydw i angan. Miss. McLarene yn sâl iawn, medda nhw. Graduras. Gobeithio na fydd hi’n mendio am yn hir fel y cawn ni sbario mynd i’r ysgol.
Dydd Iau, Hydref 13eg, 1842.
Cael mynd ar dec bob dydd rwan am ryw chydig i gael awyr iach a mestyn y coesa. Yn y Be of Biscê. Dwi’n cofio Wil Wmffra o Gemas yn deud wrtha i, un tro, mai dyma’r lle mwya’ stormus oedd o yn gofio. Diawch, fe ddaeth adra’n saff, yn do? Dim ond gobeithio na wela i mo’n niwadd yma.
Dydd Gwener, Hydref 14eg, 1842.
Llong ddiarth yn pasio efo fflag dri lliw – glas, gwyn a choch. Pawb yn siarad amdani. Amball un yn meddwl y basa hi’n seuthu ato ni ond welwyd dim cwmwl o fwg – diolch byth.
Dydd Sadwrn, Hydref 15fed, 1842.
Gwaeddodd un o’r criw, o ben y mast i fod o yn gallu gweld tir. Diolch i Dduw nad ydw i yn gorfod dringo i'r fath uchder. Braidd yn fuan i fod wedi cyrradd Ostrelia. Sgwn i lle ryda ni erbyn hyn?
Dydd Sul, Hydref 16eg, 1842.
Gwasanaeth arall gan y Doctor. Ar y Sul, mae o yn gwisgo iwnifform. Clos pen-
Dydd Llun, Hydref 17eg, 1842.
Miss.McLarene yn well. Ysgol yn dechrau. Hi a Miss. Lang Grindod yn trefnu bob dim. Dewisodd Miss. Lang Grindod ddwy o’r merchaid i’w helpu. Chysidrodd hi mono i. Tydy hi ddim yn dallt mod i yn medru siarad Seusnag. Wna inna ddim deud. Mi ga i fwy o lonydd felly a chyfla i sgwennu yn fy llyfr fy hun. Bob tro dwi'n i agor o, fedra i ddim peidio meddwl am Mam. Diawl, dwi'n difaru am be ddigwyddodd. Mae na sawl un yma sy’n methu darllan na sgwennu ond dydw i ddim mor ddwl a hynny. Dwi ddigon o hen ben i ddysgu cau ngheg.
Dydd Mercher, Hydref 19eg, 1842.
Cawsom adal y lessons hiddiw am fod ynysoedd Madeira i’w gweld. Pa wahaniath naiff hynny i ni? Tydw i ddim hyd yn oed yn gwbod lle ma nhw! Ond mae’n braf cael seibiant a sefyll a theimlo gwynt y môr ar ych gwynab. Drwg y gwynt ydy i fod o yn agor stumog rhywun hefyd ac mi faswn yn byta ceffyl tasa un i’w gael. Yn lle hynny, rhaid i ni wneud y tro ar be gawn ni. Tydy o ddim yn ddrwg a bod yn onast. Dipyn gwell na beth oedd i’w gael yn Millbank. Bara. Blawd. Cig coch a thipyn o bys. Mae Miss. Lang Grindod yn dweud y gellwch chi wneud pwdin efo’r reis ond lle gaiff rywun lefrith ffres yn fama. Gwydriad o laeth enwyn fasa’n dda ond mae hynny yn gneud i mi feddwl am adra unwaith eto. Onibai am lefrith buwch, faswn i ddim wedi llithro oddi ar y llwybr cul yn y lle cynta. Hen genna ffiadd fu Ebenezer Williams rioed a dim ond tipyn o hwyl oedd o i mi fynd a godro'i fuwch o yn y cae y bore hwnnw. Ond na, fe fu raid iddo fo fynd a fi o flaen y ngwell. O ddrwg i waeth yr aeth petha wedyn. Wna i byth fadda i'r diawl crintachlyd. Wela i ddim blewyn o wair o’r llong yma dim ond aceri o ddwr glas gyn belled ag y gwela i, i bob cyfeiriad.
Dydd Iau, Hydref 20fed, 1842.
"Morfil!", gwaeddodd rhwyun. Wyddwn i ddim be oedd morfil, dim ond wedi clywad amdano o'r Beibl. Rhyw fath o sgodyn ydy o, erbyn dallt. Welis i rioed 'sgodyn fatha hwn. Mwg yn dwad allan o dwll yn i gefn o! Dim rhyfadd fod Jona yn gallu byw tu fewn i un run fath am dridia. Roedd o bron gymaint a llonga Cemas. Neidiodd allan o’r dwr a chlep ar y tonna efo’i gynffon ag i ffwrdd a fo.
Dydd Gwener, Hydref 21ain, 1842.
Tywydd yn cnesu. Amsar cnaea yd tasa ni adra. Fydda nhw’n tyfu yd a cheirch yn Ostrelia
tybad? Oes na felin yno? Ella y ca i waith yno tasa nhw ond yn dallt y gallwn i wneud
bob dim sydd i angan. Dwi wedi gwylio Nhad wrth ei waith filodd o weithia. Ond does
gan bobl y llong yma fawr o feddwl ohona i. “Bad girl”, medda un ohonyn nhw pan oedd
hi’n meddwl nad oeddwn i yn clywad. Mi rown i ddau dro am un iddi hi -
Dydd Sadwrn, Hydref 22ain, 1842.
Adar o bob math yn troelli uwchben y llong drwy’r dydd. Arwydd ein bod yn agos at dir, medda nhw. Tir lle tybad? Dim gwylanod tebyg i’r rheini fydda’n troelli uwchben Cemas. Mae Mam a finna wedi ista ar Big y Barcud sawl gwaith yn eu gwylio ag yn dymuno gallu hedfan run fath a nhw i ben draw'r byd. Rwan a finna ar fy ffordd i ben draw'r byd, mi rown i'r byd am gal bod yn ôl ar Big y Barcud.
Dydd Llun, Hydref 24ain, 1842.
Bloedd arall o ben y mast. Tir yn y golwg unwaith eto. Sgwn i lle ydy o?
Dydd Mawrth, Hydref 25ain, 1842.
Ma hi'n boeth gythreulig yma a phawb yn chwys diferol. Bron a mygu ac yn methu cysgu. Dim ond troi a throsi drwy’r nos a hel meddylia. “O Arglwydd dyro awel…”
Dydd Mercher, Hydref 26ain, 1842.
Heddiw, gwelsom fod pobol erill yn gallu cambiahfio. Un o’r criw wedi trio sythu
tuag at un o'r merchaid. Wedi i pherswadio hi i dynnu i dillad. Fynta’n deud mai
poeth odd hi. Cafodd i rwmo i ffrâm ar y dec a’i chwipio ar draws i gefn ddau ddwsin
o weithia. Fedrwn i ddim diodda edrych ar y peth yn hir iawn ag fel oedd y chwip
yn clecian am y tro dwytha, dyma pawb yn torri allan i glapio. Hen gena powld ydy
o a deud y gwir ond ma hynna yn sicr o dorri i grib o. Fe daflodd un arall o'r criw
bwcedaid o ddw^r môr ar i gefn o yn syth -
Dydd Iau, Hydref 27ain, 1842.
Gweld tir unwaith eto. Mae 'na lawar o betha erill faswn i'n lecio'u gweld -
Daeth rhyw dawelwch rhyfedd dros y llong i gyd heddiw am fod angladd wedi ei gynnal
yn y môr. Mary Ann Cross oedd ei henw. Fedra i ddim peidio meddwl amdani. Bu farw
ei babi bach chydig ddyddia yn ol. Ella fod y ddwy, erbyn hyn, yn well 'u lle. Roedd
hi wedi clafychu ers cychwyn o Lundan. Crio bron drwy'r amsar. Ddim yn bwyta mewn
trefn. Ddim yn cymysgu efo neb. Ella mai rhyddhad oedd iddi gael ei gollwng i'r môr,
mewn gwirionedd. Rydw i'n methu penderfynu pa un ydy'r gwaetha -
Dydd Gwener, Hydref 28ain, 1842.
Weithia, mi fyddwn i’n mynd i Mynydd Mechell ac yn ista i weld yr haul yn machlud
dros fynydd Caergybi. Dwrnod braf fory, medda Mam, yn enwedig os oedd o’n goch fel
gwaed -
Dydd Llun, Hydref 31ain, 1842.
Calan Gaeaf. Noson hel bwganod a gneud Jac Lantarn fasa ni adra a chwara yng nghoed Brynddu ond ar yr hen long ma rhaid i Ellen a finna godi ofn ar y naill a’r llall. Er, mae ma ddigon o fwganod o’n cwmpas ni ym mhob man.
Dydd Mercher, Tachwedd 2il, 1842.
Pan oedd un o’r criw yn taflu sbarion dros ochor y llong, fe neidiodd anferth o sgodyn mawr, du allan o’r dwr a llyncu beth oedd yn y bwcad. Agorodd i geg led y pen ac mi welach i ddannadd o i gyd yn rhesi. Roedd o fel baedd Hafodllin yn sglaffio bob dim. Fel rodd o yn nofio drw’r dwr, roeddach chi'n gallu i ddilyn o gan fod na ryw bigyn i weld ar i gefn o. Mi fedrach weld lle rodd o yn iawn. Mi fuo yn nofio o gwmpas y llong am oria. A deud y gwir, doeddwn i ddim rhy hoff ohono fo. Gobeithio na fydda i yn breuddwydio amdano fo heno.
Dydd Iau, Tachwedd 3ydd, 1842.
Unai mod i’n mynd yn wallgo, ne mae na betha na ddychmygis i rioed amdanyn nhw yn
yr hen fyd ma. Mae hi’n anodd credu yr hyn a wel fy llygad, weithia. Yn nofio’n ara’
deg bach yn môr pnawn ma, be welis i ond anfarth o falwan -
Dydd Gwener, Tachwedd 4ydd, 1842.
Galwyd ar bawb o'r ysgol i weld rhyfeddod arall. Sgodyn yn hedfan fel deryn allan o’r dwr. Os mai petha fel hyn sydd i’w gweld, mae’r Ostrelia na yn lle ofnadwy! Dudodd rhywun fod yna bobl du i croen yn byw yno! Chreda i fawr! Ella bod diwadd y byd yn dwad efo’r holl anifeiliad rhyfedd ma. Mae na rwbath mawr o’i le. Ella bod pobol wedi pechu y Bod Mawr. A rwan, mae o yn codi ofn a thalu yn ôl i ni.
Dydd Iau, Tachwedd 10fed, 1842
Tywydd yn newid fel mae dyn yn newid 'i feddwl -
Dydd Gwener, Tachwedd 11eg, 1842.
Cael bath. Naci -
Dydd Sadwrn, Tachwedd 12fed, 1842.
Poeth iawn ac erbyn hyn mae dwr glan yn dechra mynd yn brin. Boed yn y byd be ddaw
allan o'r gasgen ddwr -
Yng nghanol mis Tachwedd, ryda ni wedi cyrraedd at ran boetha'r byd. O edrych dros ochr y llong, mae'r mor yn berffaith lonydd heb awel yn symud ar ei wyneb ond mae'r llong ei hun yn llawn prysurdeb. Pawb mewn hwyl garw yn paratoi i groesi'r Icwetor. Yn nhwllwch y nos, daeth pawb ar y dec i ola lanterni i weld y criw wedi gwisgo i fyny. Dyma'r tro cynta i mi allu anghofio pam ein bod ni ar y llong felldith ma. Ond fory ddaw a rhaid fydd byw efo'r gwir.
Dydd Sul, Tachwedd 13eg, 1842.
Cyfarfod gweddi i ofyn am law. Cafod fasa'n ddigon. Gan i bod hi mor drymaidd mae rhywun ofn i storm o fellt a thrana dorri allan. Ella bydda nhw yn gosod yr hwyliau allan i ddal dwr o hyn ymlaen, mae cymaint o angen arnon ni. Mi fasa diferyn yn well na dim.
Dydd Llun, Tachwedd 14eg, 1842.
Mae'r gwres ma yn dweud ar bawb. Pan ddudodd y capten wrth un o'r criw am i siapio hi i wneud rhywbeth, trodd hwnnw arno a'i ateb yn ffiadd. Gwaeddodd y capten rywbeth yn ol ac fe ddaeth dau neu dri arall a rhwymo'r llongwr mewn rhaff a mynd a fo o'r golwg reit sydyn. Ymhen awr neu ddwy, allan a fo ar y dec unwaith eto. Gofynnwyd iddo os oedd o'n sorri am yr hyn ddudodd o. Ysgwyd i ben nath o ac wedi darllen llith hir, Seusneg allan o ryw lyfr, dyma'r chwip ar i gefn o dri dwsin o weithia. Wn i ddim sut medr o weithio byth eto. Roedd i gefn o yn gig noeth i gyd. Mi safodd yn syth a chymryd y gosb fel dyn gan fytheirio dan i wynt. Fydd na ddim da rhygnddo fo a'r capten byth eto.
Dydd Gwener, Tachwedd 18fed, 1842.
Braf fasa bod yn dderyn yn te? Mae na un yn dilyn y llong ers dyddia. Welis i rioed
ddim mor hawdd a be mae hwn yn i wneud -
Dydd Sadwrn, Tachwedd 19eg, 1842.
Deffro’n fuan heddiw a meddwl fod rhywbeth mawr o’i le am nad oedd neb wedi gweiddi arnaf a phawb arall yn rhochian cysgu. Sylweddoli’n sydyn mai Dydd Sadwrn ydy hi a’n bod ni’n cael aros yn y gwely tan saith yn hytrach na chodi am chwech ar benwythnos. Dwi di dysgu deud pa amsar o'r dydd ydy hi wrth wrando ar gloch y llong yn canu a pha bryd mae'r ysgol yn dechrau ond un peth rhyfedd iawn sy'n digwydd ydy fod yr haul yn machlud a'r nos yn dwad yn fuan ac yn sydyn iawn.
Dydd Iau, Tachwedd 24ain, 1842.
Erbyn hyn, mae'r gwynt wedi marweiddio'n llwyr a'r hen long yn symud dim bron. Mae'r gwymon i'w weld y tyfu ar ei gwaelod a phob math o bysgod yn nofio o'n cwmpas. Taswn i yn medru nofio, mi faswn yn neidio dros yr ochr ag i mewn i'r dwr er mwyn oeri tipyn bach. Mae hi'n dal yn ofnadwy o boeth a dim ond ambell i daran yn rowlio yn y pellter. Mae'r felan ar bawb.
Dydd Sul, Tachwedd 27ain, 1842.
Clywais un o'r criw yn siarad efo Capten Forward ag ynta'n dweud ein bod yn croesi'r
Tropic of Capricon -
Dydd Mercher, Tachwedd 30ain, 1842.
O hirbell, gwelsom ynys yng nghannol y mor a mwg y codi ohoni! Dywedodd Miss. MacLaren
mai mynydd tanllyd Tristan d’Acuna oedd o. Mwya'n byd y bydd dyn byw, mwya wel a
mwya glyw -
Dydd Sul, Rhagfyr 4ydd, 1842.
Rydw i angen matras newydd. Mae hynny o wellt yn hon wedi mynd yn hollol fflat ac mae coed y llong i'w teimlo drwyddi. Mae ngefn i bron torri'n ddau pan goda i bob bora. Fedra i yn fy myw gael gorwedd yn gyfforddus i gysgu. Dwi'n cofio Mam yn dweud hanes pobl Cemas yn mynd a'u matresi i Ogo Beiswyn er mwyn eu gwagio i'r mor ag aros i'r llanw gliro'r gwellt allan, er mwyn cael stwffio'u gwely efo gwellt ffres. Am noson neu ddwy byddai hwnnw yn pigo fel dwn i ddim beth ond wedi i gorff rhywun wneud ei siap ynddo fo, mi roeddech yn gallu cysgu fel mochyn drwy'r nos.
Cêp of Good Hope. Soniodd rhai fod gobaith glanio a chael bwyd a dw^r fres ond dim y tro yma, medda'r capten. Mae digon o fwyd ar y llong a rhaid mynd ymlaen er mwyn manteisio ar y tywydd da gawn ym Moroedd y De. Mae hi'n Haf yma rwan, medda Capten Forward. Fedra i yn fy myw ddallt be mae o'n feddwl.
Dydd Llun, Rhagfyr 5ed, 1842.
O'r diwedd rydw i wedi gwneud rhywbeth yn iawn ac wedi plesio pobl. Fi gafodd y wobr
am gadw'r lle yn lân heddiw. Be fasa Nhad yn ddeud tybed? Rhyfeddu ag ama mai fi
nath y gwaith, mae'n siwr. Fuodd o rioed efo llawar i ddeud wrtha i. Gallai fod ddigon
brwnt ei dafod -
Dydd Iau, Rhagfyr 8fed, 1842.
Aeth yr awyr yn dywyll cyn iddi nosio heddiw a ryda ni am storm go iawn. Bu’n drymaidd iawn drwy’r dydd ac mae'r gwynt wedi codi ceffylau gwynion ar y tonnau. Storm yn codi. Llong yn rowlio. Pawb dan dec a chau'r hatchis rhag i ddwr ddod i fewn.
Dydd Gwener, Rhagfyr 9fed, 1842.
Storm drwy‘r dydd a'r dw^r yn pistyllio i fewn drwy bob crac yn yr hen long. Rhwng
hynny a hithau'n rowlio, mae'r dw^r budur yn y gwaelodion yn dod i'r wyneb bob hyn
a hyn ac mae'r ogla drwg ddigon a chodi cyfog ar unrhyw un -
Dydd Iau, Rhagfyr 10fed, 1842.
Storm yn para o hyd. Arglwydd mawr, fedra i ddim diodda llawer mwy o hyn. Llong yn
rowlio a dw^r ym mhob man -
Dydd Iau, Rhagfyr 15fed, 1842.
Cafodd pawb wybod llong mor dda ydy’r 'Garland Grove' heddiw a’r capten yn ei brolio am iddi hwylio 216 milltir mewn diwrnod. Tydy o ddim yn sylwedoli fod hynny yn golygu ein bod ni 216 milltir yn nes i ddiwedd y daith.
Dydd Sadwrn, Rhagfyr 17eg, 1842.
Weithiau pan oeddwn i adref byddwn yn edrych ar y sêr. Gallwn weld patrymau sêr yn yr awyr. Roedd na un patrwm yn union fel sosban fawr a rhai eraill i’w gweld ar wahanol adegau. Yr oedd yna un fyddai i’w gweld yn gynnar bob nos ac yn y bore wedyn. Wyddwn i ddim amdanynt dim ond eu bod yn edrych i lawr arnom ni. Byddai Mam yn dweud hanes yr hen w^r hwnnw’n fu’n hel priciau tân ar y Sul ac iddo fod ar y lleuad rwan. Ond wrth edrych ar yr awyr yn fama, sydd yn tywyllu’n sydyn iawn bob nos, wela i yr un seren ydw i yn ei chofio. Mae popeth mor wahanol.
Dydd Sadwrn, Rhagfyr 24ain, 1842.
Noswyl Nadolig. Cyngerdd. Pawb ond y merched sengl -
wrando a hel meddylia. Yn eglwys y Llan faswn i, mae'n siwr, taswn i adra, yn gwrando ar y canu ac yna yn rhedag adra o flaen Mam ag Eleanor, fy chwaer, a chodi ofn arnynt wrth neidio o du ôl i gilbost.
Dydd Sul, Rhagfyr 25ain, 1842.
Dydd Nadolig. Gwasanaeth i bawb ond anodd ydy bod yn hapus dan y fath amgylchiada. Mochyn wedi'i ladd ar gyfar y criw ond dim i ni. Tyda ni ddim yn cyfri. Pwdin Dolig o fath a gwin gwan i bawb.
Dydd Llun, Rhagfyr 26ain, 1842.
Gwyl Sant Steffan. Dweud straeon wrth y naill a'r llall. Mae pawb wedi dod yn ffrindia gweddol erbyn hyn ac yn rhannu dipyn o hanes eu bywyd efo'r lleill. Hwylio heibio i ryw ynys arall. Clywad ogla gwahanol pan mae tir yn agos.
Dydd Sadwrn, Rhagfyr 31ain, 1842.
Nos Galan. Claddu’r hen flwyddyn.
Dydd Sul, Ionawr 1af, 1843.
Gwasanaeth arbennig. Dechra'r blwyddyn newydd. Dechra bywyd newydd gan fawr obeithio y bydd petha'n gwella o hyn ymlaen. Tydw i ddim yn meddwl y gall hi fod yn waeth. Yr Albanwyr ar y criw yn gwneud mwy o hiddiw nag a wnaethon nhw dros y Dolig. Dynion yn canu a dawnsio a sw^n debyg i sgrechian.
Dydd Llun, Ionawr 2il, 1843.
Gwyliau i bawb ond y criw ar watch.
Dydd Mercher, Ionawr 4ydd, 1843.
Yn sydyn iawn fe aeth hi’n oer a thros nos roedd blancad o niwl wedi disgyn o rywle.
Fedrach chi weld dim pellach na’ch trwyn. Y criw yn canu corn rhybudd ond tyda ni
ddim wedi gweld llong arall ers hydoedd. Yn sydyn reit, dyma fynydd o rew i’w weld
wrth ochr y llong -
Dydd Gwener, Ionawr 6ed, 1843.
Stormus iawn drwy’r nos. Fawr lai nag ofn y niwl rhag i fwy o dalpia rhew ddwad ata ni yn ddistaw, ddistaw bach fel y llall. Yr oedd hi mor oer, fel fod rhew ar y rhaffa a'r criw yn gorfod dringo a'i dorri o i ffwrdd. Wn i ddim sut mae llongwrs yn gallu diodda heb sgidia am i traed ar dywydd fel hyn. Mae rhaid i bod nhw'n galad ar y naw.
Dydd Sul, Ionawr 8fed, 1843.
Mae'r criw fel petha gwirion. Wedi gweld tir mawr Ostrelia medda nhw.
Dydd Mawrth, Ionawr 10fed, 1843.
Niwl wedi clirio a'r gwynt wedi tawelu. Llong yn llonydd ar wyneb y dw^r. Mae'r criw yn gorfod mynd i fyny a lawr y rhaffa o hyd i newid yr hwylia a’r Capten yn gweiddi arnyn nhw – y fo a’i Fêt. Chwilio am awel o rwla i symud ymlaen. Ninna yn berffaith fodlon i aros yn yr un lle. Seuson ydy y rhan fwya o’r criw. Amball un yn hen genna ffiadd ond y rhan fwya yn bethau digon didrafferth. Mae na amball i Gymro a Gwyddel yn eu mysg nhw ond ran fwya o’r amser dydy nhw ddim eisiau dim i’w wneud efo ni. Wela i fawr o fai arnyn nhw a dweud y gwir, yn enwedig gan eu bod nhw yn gwbod pam yn bod ni yn mynd i Ostrelia.
Dydd Gwener, Ionawr 13eg, 1843.
Gwynt croes. Pan fyddai’r gwynt yn chwthu'n groes adra, byddai mwg taro yn simdda Gegin Filwr a honno yn mygu fel dwn i'm be. Does na ddim ond un peth yn waeth na chael llond eich ceg o fwg taro a hynny ydy cael llond pen o regfeydd gan rai o’r criw. Maent hwytha wedi blino bellach ac yn awyddus i gyrraedd pen y daith. Ond dechrau un arall fydd pen y daith yn i olygu i mi. Gobeithio y caiff Ellen ddwad efo fi – lle bynnag y cawn ein gyrru.
Ers dyddia bellach, mae nhu fewn i'n crynu. Mae rhywbeth ar ddigwydd. Fedra i ddim deud be ond mae na ryw deimlad yn f'esgyrn i fod na newid mawr yn mynd i ddod. Iesu, dwi isio Mam!
Dydd Mercher, Ionawr 18fed, 1843.
Mae Tir Van Diemen i'w weld. Ryda ni bron a chyrraedd diwadd y daith. Pysgota mae'r criw ond rhai fel fi yn poeni'n arw beth ddaw ohonom. Er fod na greigia i'w gweld yn y dwr, wn i ddim ai mynd ymlaen ta mynd ar y graig dwi isio. Ella basa'n well i mi foddi yn ymyl y lan ond fasa rhai fel ni yn cal mynd i'r nefodd? Ydy'r Bod Mawr isio ni? Tydy o ddim wedi dangos rhyw lawar o gariad hyd yma.
Dydd Iau, Ionawr 19eg, 1843.
Y criw yn paratoi y llong i fynd i fewn i’r harbwr. Rhaffa'n cael i pletio a'u plygu. Y dec yn cael sgwrfa. Y gloch bres yn sgleinio a rhyw swae yn symud pawb. Am y tro cyntaf, ers sawl pobiad, mae’r hen long ma yn edrych reit dda – fel merch ifanc ar y ffordd i’w phriodas. Lle i bopeth a phopeth yn ei le. Twt iawn a dweud y gwir. Piti na fyddwn i yn cael aros arni ond dim gobaith mae arnaf ofn.
Dim gwynt a chychod bach yn cael 'i gollwng i lawr i'r dw^r a'r criw yn rhwyfo i
drio symud yr hen long. Mae hithau fel finna -
Dydd Gwener, Ionawr 20fed, 1843.
Pan godais i heddiw roedd sw^n gwlanod i’w clywed uwchben pob dim. A dweud y gwir, roedd hynny yn f’atgoffa i o ddwrnod redig pan oeddwn adra. Cofio Nhad yn brysur yn y cae ac ogla iach yn codi o’r pridd a’r gwlanod yn hedfan y tu ôl iddo yn pigo y llyngyrod daear. Pryd hynny, roeddwn i reit hoff o’u swn. Bellach, sgrechian ma nhw a hynny ddigon a gyrru rhywun yn wallgo. Erbyn naw o'r gloch y nos, mae'r llong wedi'i rhwymo'n saff wrth y cei. Pawb a phopeth mewn cyffion. Mae yna sw^n pobl yn gweiddi ar y lan hefyd. Wedi cymaint o amser yn siglo o un ochr i'r llall, mae'n rhyfedd bod yn llonydd, o'r diwedd. Gallu cerdded yn syth o un pen i'r lle i'r llall heb boeni am orfod gafael mewn dim i arbed eich hun. Rydw i yn gallu clywed y criw yn gweiddi ar y naill a’r llall. Mae digon i’w wneud i gael llong i fewn i’r porthladd. Yr unig gysur sydd ganddyn nhw ydy y cant droi’n ôl a mynd adra. Cha i byth fynd yn ôl, ma’n siwr. Cha i byth weld Nhad a Mam eto. Sut ma pawb yn Llanfechell tybed? Ydy nhw’n iach? Duw mawr, mi rydw i yn difaru am yr hyn wnes i. Taswn i ddim ond wedi gwrando ar fy chwaer. Ond dyna fo, y fi odd Twm Ty^’n Cowarch yn i blagio, ddim hi. Be ddaw ohono fo tybad? Fydd o yn meddwl amdano i fel rydw i yn meddwl amdano fo?
Dydd Sadwrn, Ionawr 21ain, 1843.
Wedi dod oddi ar y llong o'r diwedd. Roeddwn i yn meddwl y baswn yn hapus
o weud hynny ond tydw i dim. Y Garland Grove fu'n gartra i mi am fisoedd. Arni hi
yr oedd pob dim i'w gael, yn fwyd a diod, yn wely a chysgu, ffrindia a gelynion a
rwan rhaid ei gadal -
Dydw i ddim yn meddwl y ca i gyfle i sgwennu am dipyn o ddyddia gan fod pawb yn cael i symud i le newydd. Beth bynnag, rydw i bron a dod i ddiwadd y llyfr. Rhedeg allan o bapur a rhedeg allan o amser. Gorfod pacio popeth sy pia ni. Gwaith dau funud i baratoi am waith deng mlynedd. Meddwl basa cael bod yn forwyn bach yn braf ond nid felly bydd hi, nôl pob tebyg. Mewn ffatri y bydda i yn gweithio o hyn ymlaen medda nhw ond dydw i ddim yn siwr iawn be’ ydy ffatri a dweud y gwir. Yr unig beth ydw i yn ei wybod ydy fod raid i ni newid ein dillad i gyd. Taflu’r hen betha a gwisgo iwnifform. Pocedi bach sydd yn hon a fedra i ddim cuddio ‘Fy Llyfr Bach’ yn hawdd iawn. Mae Ellen wedi mynd a Duw a w^yr i le. Mae rhai yn sôn am le o'r enw Hobart, eraill yn sôn am le arall o'r enw Lonston. Does na neb yn cael cyfle i feddwl am adra, ddim mwy. Gwylio lle i roi'ch traed a sylwi ar bawb yn edrych lawr i trwyna arnom ni.
Tasa Twm Ty'n Cywarch yma rwan, mi rhown i hi iddo fo go iawn. Y fo a'i chwaer; yr hen Ebenezer Williams na a'i wraig. Ydy nhw'n cysgu'n dawal tybed? Gobeithio i bod nhw'n troi a throsi drwy'r nos, bob nos ond does gan bobl fel na ddim cydwybod felly rhaid i mi drio'u hanghofio nhw a edrych ymlaen i'r dyfodol. Mi fydda i'n rhydd mhen deng mlynedd ond fydda nhw byth. Mae'n rhaid iddyn nhw fyw efo beth ddaru nhw i mi.
Toes gen i neb i rannu nghyfrinach efo nhw rwan, dim hyd yn oed fy llyfr! Oes na bwrpas i mi gadw fo? Ga i gadw fo? Fedra i guddio fo? Tasa chi'n dod ar ei draws, anfonwch o i Mam yn Y Gegin Filwr, Llanfechell, Ynys Môn. Mi fasa hi a finna'n gwerthfawrogi hynny'n fwy na dim.
Pen draw’r byd. Roeddwn i’n arfar meddwl fod Lerpwl yn bell. Mi glywis i hogia Cemas yn dweud y bydda llong yn cymryd tri neu bedwar diwrnod i gyrradd yno ond ma fama tu draw i bob man. Mae'r awyr yn llawn o sw^n diarth. Sw^n pobol. Sw^n holi. Sw^n ateb. Sw^n rhegi. Sw^n crio. Sw^n cadwyni a chyffion. Sw^n anifeiliad. Sw^n adar. Sw^n hiraeth.