Cymdeithas Hanes Mechell

Hafan


Addysg


Cegin Filwr


Anglesey Trading Company


Cyfweliadau


Brynddu a’r Dyddiaduron  


Yr Eglwys


John Elias


Ffair Mechell


Maes Mawr


Coeden


Melinau


Yr Oriel


Syr Owen Thomas


Y Feddanen

a’r Wygyr


William Jones,

Mathemategydd


Fortunatus Wright,

Herwlongwr


Jos Y  Crown


Cofeb Llanfechell


 Capeli Llanfechell


Ol cnydau yng Ngharrog

Yr Hen Lan

Enwau Lleoedd

Robert Williams, Blaenor

Swyddfa’r Post

Gweirydd ap Rhys

Demograffeg Llanfechell 1851 a 1901

Mynwent Llanfechell

William Bulkeley a thlodion Llanfechell






Amdanom ni

Sefydlwyd y Gymdeithas Hanes yn 2007 yn dilyn lansio llyfr y Parchedig Emlyn Richards, Bywyd Gwr Bonheddig, sef William Bulkeley. Roedd William Bulkeley yn frodor o Lanfechell ac fe fu’n cadw dyddiadur am y cyfnod 1734-1760. Mae’r dyddiaduron a oroesodd, bellach yng ngofal Prifysgol Cymru , Bangor, ond fe benderfynwyd yn lleol fod y record yma o hanes Llanfechell a’r cylch  yn  y cyfnod  yma yn werthfawr ac y dylid gwneud defnydd llawn ohonynt.  Yn ogystal â’r defnydd o’r dyddiaduron ysgogwyd nifer o bobl leol i ymchwilio i hanes rhai o frodorion Llanfechell a digwyddiadau hanesyddol yn y pentref ac mae’r gymdeithas yn mynd o nerth i nerth.

Mae’r Gymdeithas yn cyfarfod ar yr ail ddydd Iau o bob yn ail mis. Byddwn yn trefnu rhaglen flynyddol sydd yn cael ei gyhoeddi ac i’w weld ar y wefan.

Pan sefydlwyd y gymdeithas, penderfynwyd creu gwefan fel ffordd o gofnodi’r gwaith a gyflwynir pob deufis, ac fe welir nifer mawr bellach yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Hefyd cyhoeddwyd llyfr o gynnwys y wefan a bellach rydym wedi gwerthu oddeutu cant o’r fersiwn Cymraeg a chant o’r un Saesneg.