Addysg – Ysgol Llanfechell
Gyda diolch i Mr Gareth Corps a disgyblion hynaf yr ysgol.

Cyflwyniad
Ble aethom i chwilio am wybodaeth?
- Llyfrau gwybodaeth
- Yr archifdy
- Papurau newydd
- Chwilio ar y cyfrifiadur
- Holi pobl
- Ffotograffau
Y Dechrau
Dyfyniadau o ddarlith y Parch Emlyn Richards

‘Bu i Richard Gwynne o Rydygroes ym mhlwyf Llanbadrig adael tyddyn o’r enw Nantglyn trwy ewyllys ym 1723, er mwyn rhoi addysg i blant tlawd o’r plwyf mewn ysgol ym mhentref Llanfechell…’

‘Ceir cofnod o ysgol Llanfechell eu bod heb brifathro ac yn methu’n lân a chael un…’
Yn 1716, daeth Griffith Jones yn berson Llanddowror ac fe gychwynnodd yr ysgolion cylchynol cyntaf. Roedd yr ysgolion yma yn defnyddio’r Gymraeg fel cyfrwng dysgu.
Apeliodd Griffith Jones i’r SPCK (Society for Promoting Christian Knowledge) am gopiau o Feiblau Cymraeg.
Roedd yn athrylith, ac fe sicrhaodd fod addysg yn cael ei ledaenu i bob cwr o Gymru.
